No themes applied yet
Gweledigaeth y Canhwyllbren
1Dychwelodd yr angel oedd yn siarad â mi, a'm deffro fel rhywun yn deffro o'i gwsg, 2a dweud wrthyf, “Beth a weli?” Atebais innau, “Yr wyf yn gweld canhwyllbren, yn aur i gyd, a'i badell ar ei ben; y mae iddo saith o lampau a saith o bibellau i'r lampau arno; 3y mae dwy olewydden gerllaw iddo, un ar dde'r badell a'r llall ar ei chwith.” 4Gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?” 5Ac atebodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Oni wyddost beth yw'r rhain?” Dywedais, “Na wn i, f'arglwydd.” 6Yna dywedodd wrthyf, “Dyma air yr ARGLWYDD at Sorobabel: ‘Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. 7Beth wyt ti, O fynydd mawr? O flaen Sorobabel nid wyt ond gwastadedd. Bydd ef yn gosod y garreg uchaf, a phawb yn galw arni, ‘Bendith! Bendith arni!’ ” 8Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 9“Dwylo Sorobabel sy'n sylfaenu'r tŷ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen”; a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch. 10“Pwy bynnag a ddirmygodd ddydd y pethau bychain, caiff lawenhau wrth weld carreg y gwahanu yn llaw Sorobabel.
“Y saith hyn yw llygaid yr ARGLWYDD sy'n tramwyo dros yr holl ddaear.”
11Yna gofynnais iddo, “Beth yw'r ddwy olewydden hyn ar dde a chwith y canhwyllbren?” 12A gofynnais iddo eilwaith, “Beth yw'r ddwy gangen olewydd sydd yn ymyl y ddwy bibell aur sy'n tywallt yr olew4:12 Tebygol. Hebraeg, yr aur.?” 13Ac atebodd fi, “Oni wyddost beth yw'r rhain?” Dywedais innau, “Na wn i, f'arglwydd.” 14Yna dywedodd, “Y rhain yw'r ddau eneiniog sy'n gwasanaethu ARGLWYDD yr holl ddaear.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004