No themes applied yet
Gweledigaeth y Sgrôl yn Ehedeg
1Edrychais i fyny eto, a gweld sgrôl yn ehedeg. 2A dywedodd wrthyf, “Beth a weli?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld sgrôl yn ehedeg, yn ugain cufydd ei hyd, a'i lled yn ddeg cufydd.” 3Yna dywedodd wrthyf, “Dyma'r felltith sy'n mynd allan dros yr holl ddaear: yn ôl un ochr, torrir ymaith pwy bynnag sy'n lladrata; yn ôl yr ochr arall, torrir ymaith pwy bynnag sy'n tyngu anudon. 4Fe'i hanfonaf allan,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ac fe â i mewn i dŷ'r lleidr ac i dŷ'r un sy'n tyngu'n gelwyddog yn fy enw; ac fe erys yng nghanol ei dŷ a'i ddifetha, yn goed a cherrig.”
Gweledigaeth y Ddynes mewn Casgen
5Daeth yr angel oedd yn siarad â mi a dweud wrthyf, “Edrych i fyny i weld beth yw hyn sy'n dod i'r golwg.” 6Pan ofynnais, “Beth ydyw?” atebodd, “Casgen sy'n dod.” A dywedodd, “Dyma'u drygioni trwy'r holl ddaear.” 7Yna codwyd y caead plwm, ac yr oedd dynes yn eistedd yn y gasgen. 8Dywedodd yr angel, “Drygioni yw hon,” a thaflodd hi i waelod y gasgen a chau'r caead plwm arni. 9Edrychais i fyny, a gweld dwy wraig yn dod, a'r gwynt dan eu hadenydd (yr oedd ganddynt adenydd fel adenydd garan), ac yn codi'r gasgen rhwng nefoedd a daear. 10Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “I ble maent yn mynd â'r gasgen?” 11Dywedodd wrthyf, “I godi tŷ iddi yng ngwlad Sinar, a phan fydd yn barod fe'i gadewir yno yn ei lle priodol.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004