No themes applied yet
Pechod a Gwaredigaeth Jerwsalem
1Gwae'r ddinas orthrymus,
yr un wrthryfelgar a budr!
2Ni wrandawodd ar lais neb,
ac ni dderbyniodd gyngor;
nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD,
ac ni nesaodd at ei Duw.
3Llewod yn rhuo yn ei chanol
oedd ei swyddogion;
ei barnwyr yn fleiddiaid yr hwyr,
heb adael dim tan y bore;
4ei phroffwydi'n rhyfygus
ac yn rhai twyllodrus;
ei hoffeiriaid yn halogi'r cysegredig
ac yn treisio'r gyfraith.
5Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei chanol yn gyfiawn;
nid yw'n gwneud cam;
fore ar ôl bore y mae'n traddodi barn
heb ballu ar doriad y dydd;
ond ni ŵyr yr anghyfiawn gywilydd.
6“Torrais ymaith genhedloedd,
ac y mae eu tyrau'n garnedd;
gwneuthum eu strydoedd yn ddiffeithwch
nad eir trwyddo;
anrheithiwyd eu dinasoedd,
heb bobl, heb drigiannydd.
7Dywedais, ‘Bydd yn sicr o'm hofni
a derbyn cyngor,
ac ni chyll olwg3:7 Felly Groeg a Syrieg. Hebraeg, ei thrigfan. ar y cyfan
a ddygais arni.’
Ond yr oeddent yn eiddgar i lygru eu holl weithredoedd.
8“Felly, disgwyliwch amdanaf,” medd yr ARGLWYDD,
“am y dydd y codaf yn dyst i'ch erbyn;
oherwydd fy mwriad yw casglu cenhedloedd
a chynnull teyrnasoedd,
i dywallt fy nicter arnynt,
holl gynddaredd fy llid;
oherwydd â thân fy llid yr ysir yr holl dir.
9“Yna, rhof i'r bobloedd wefus bur,
iddynt oll alw ar enw'r ARGLWYDD
a'i wasanaethu'n unfryd.
10O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia
y dygir offrwm i mi gan y rhai ar wasgar
sy'n ymbil arnaf.
11“Ar y dydd hwnnw
ni'th waradwyddir am dy holl waith
yn gwrthryfela i'm herbyn;
oherwydd symudaf o'th blith
y rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder,
ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafu
yn fy mynydd sanctaidd.
12Ond gadawaf yn dy fysg
bobl ostyngedig ac isel,
a bydd gweddill Israel yn ymddiried yn enw'r ARGLWYDD;
13ni wnânt ddim anghyfiawn na dweud celwydd,
ac ni cheir tafod twyllodrus yn eu genau;
oherwydd porant, a gorweddant heb neb i'w dychryn.”
Cân o Lawenydd
14Cân, ferch Seion;
gwaedda'n uchel, O Israel;
llawenha a gorfoledda â'th holl galon, ferch Jerwsalem.
15Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt,
a symud dy elynion.
Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol,
ac nid ofni ddrwg mwyach.
16Y dydd hwnnw dywedir wrth Jerwsalem,
“Nac ofna, Seion,
ac na laesa dy ddwylo;
17y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy ganol,
yn rhyfelwr i'th waredu;
fe orfoledda'n llawen ynot,
a'th adnewyddu yn ei gariad;
llawenycha ynot â chân
18fel ar ddydd gŵyl.3:18 Cymh. Groeg. Hebraeg yn aneglur.
Symudaf aflwydd ymaith oddi wrthyt,
rhag bod iti gywilydd o'i blegid.
19Wele fi'n talu'r pwyth i'th orthrymwyr yn yr amser hwnnw;
gwaredaf y rhai cloff a chasglaf y rhai gwasgaredig,
a rhof iddynt glod ac enw yn holl dir eu gwarth.
20Y pryd hwnnw,
pan fydd yn amser i'ch casglu, mi ddof â chwi adref;
oherwydd rhof i chwi glod ac enw
ymhlith holl bobloedd y ddaear,
pan adferaf eich llwyddiant yn eich gŵydd,” medd yr ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004