No themes applied yet
Addewid Duw i Dafydd
(2 Samuel 7:1-17)
1Pan oedd Dafydd wedi setlo i lawr yn ei balas, dyma fe’n dweud wrth y proffwyd Nathan, “Edrych! Dw i’n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch yr ARGLWYDD yn dal mewn pabell.” 2A dyma Nathan yn ateb, “Mae Duw gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti’n feddwl sy’n iawn.”
3Ond y noson honno dyma Duw yn dweud wrth Nathan, 4“Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Ti ddim i adeiladu teml i mi fyw ynddi. 5Dw i erioed wedi byw mewn teml, o’r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o’r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o babell i babell. 6Ble bynnag roeddwn i’n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i’r arweinwyr oedd yn gofalu am bobl Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’
7“Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Fi wnaeth dy gymryd di o’r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di’n arweinydd ar fy mhobl Israel. 8Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i’n mynd i dy wneud di’n enwog go iawn drwy’r byd i gyd. 9Dw i’n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw’n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o’r blaen, 10pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i’w harwain nhw. Bellach, dw i’n mynd i drechu dy elynion di. Dw i’n dweud fod yr ARGLWYDD yn mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol!
11Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu,
bydda i’n codi un o dy linach di yn dy le – mab i ti.
A bydda i’n gwneud ei deyrnas e’n gadarn.
12Bydd e’n adeiladu teml i mi,
A bydda i’n gwneud iddo deyrnasu am byth.
13Bydda i yn dad iddo, a bydd e’n fab i mi.
Fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo fe,
yn wahanol i’r un o dy flaen di.
14Bydda i’n gwneud iddo deyrnasu am byth.
Bydd ei orsedd yn gadarn fel y graig.’”
15Dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd.
Gweddi Dafydd
(2 Samuel 7:18-29)
16Yna dyma’r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “O ARGLWYDD Dduw, pwy ydw i? Dw i’n neb, na’m teulu chwaith. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell! 17Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, O Dduw, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ti’n delio gyda mi fel petawn i’n rhywun pwysig, o ARGLWYDD Dduw. 18Beth alla i ddweud? Ti wedi rhoi anrhydedd i dy was, ac yn gwybod sut un ydw i. 19ARGLWYDD, am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma i ddangos mor fawr wyt ti.
20“ARGLWYDD, does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall yn bod heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti! 21A phwy sy’n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi’n wlad unigryw ar y ddaear. Aeth Duw i’w gollwng yn rhydd, a’u gwneud yn bobl iddo’i hun. Ti’n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o’r Aifft a gyrru’r cenhedloedd paganaidd allan o’r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw. 22Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw. 23Felly, ARGLWYDD, tyrd a’r addewid yma amdana i a’m teulu yn wir. Gwna fel ti wedi addo. 24Wedyn byddi’n sicr yn enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig, 25am dy fod ti, Dduw Israel, wedi addo y byddi’n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo arnat ti. 26Nawr, ARGLWYDD, ti ydy’r Duw go iawn. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i dy was. 27Felly, bendithia linach dy was, iddi aros yn gadarn gyda ti am byth. ARGLWYDD, rwyt wedi’i bendithio, a bydd dy fendith yn aros am byth.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015