No themes applied yet
1Pan oedd Dafydd wedi mynd yn hen ac yn dod i ddiwedd ei oes, dyma fe’n gwneud ei fab Solomon yn frenin ar Israel.
Cyfrifoldebau’r Lefiaid
2Yna dyma fe’n galw holl arweinwyr Israel, yr offeiriaid a’r Lefiaid at ei gilydd. 3Cafodd y Lefiaid oedd yn dri deg oed neu’n hŷn eu cyfrif, ac roedd yna 38,000 ohonyn nhw. 4A dyma Dafydd yn dweud, “Mae 24,000 i fod i arolygu gwaith Teml yr ARGLWYDD; 6,000 i fod yn swyddogion ac yn farnwyr; 54,000 i fod yn ofalwyr yn gwylio’r giatiau; a 4,000 i arwain y mawl i’r ARGLWYDD gyda’r offerynnau cerdd dw i wedi’u darparu ar gyfer yr addoliad.” 6A dyma Dafydd yn eu rhannu nhw’n grwpiau wedi’u henwi ar ôl meibion Lefi: Gershon, Cohath a Merari.
Y Lefiaid o glan Gershon
7Dau fab Gershon oedd Ladan a Shimei.
8Meibion Ladan: Iechiel yr hynaf, Setham, a Joel – tri.
9Meibion Shimei: Shlomith, Chasiel, a Haran – tri. Nhw oedd arweinwyr teulu Ladan.
10Meibion Shimei: Iachath, Sina, Iewsh, a Bereia. Dyma feibion Shimei – pedwar. 11Iachath oedd yr hynaf, wedyn Sisa. Doedd gan Iewsh a Bereia ddim llawer o feibion, felly roedden nhw’n cael eu cyfrif fel un teulu.
Y Lefiaid o glan Cohath
12Meibion Cohath: Amram, Its’har, Hebron, ac Wssiel – pedwar.
13Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a’i ddisgynyddion eu dewis i fod bob amser yn gyfrifol am yr offer cysegredig, i offrymu aberthau o flaen yr ARGLWYDD, ei wasanaethu a’i addoli. 14Roedd meibion Moses, dyn Duw, yn cael eu cyfrif yn rhan o lwyth Lefi.
15Meibion Moses: Gershom ac Elieser
16Disgynyddion Gershom: Shefwel oedd yr hynaf.
17Disgynyddion Elieser: Rechafia oedd yr hynaf. (Doedd gan Elieser ddim mwy o feibion, ond cafodd Rechafia lot fawr o feibion).
18Meibion Its’har: Shlomith oedd yr hynaf.
19Meibion Hebron: Ierïa oedd yr hynaf, Amareia yn ail, Iachsiel yn drydydd, ac Icameam yn bedwerydd.
20Meibion Wssiel: Micha oedd yr hynaf, ac Ishïa yn ail.
Y Lefiaid o glan Merari
21Meibion Merari: Machli a Mwshi.
Meibion Machli: Eleasar a Cish. 22(Bu Eleasar farw heb gael meibion, dim ond merched. A dyma’u cefndryd, meibion Cish, yn eu priodi nhw)
23Meibion Mwshi: Machli, Eder, a Ieremoth – tri.
24Dyma ddisgynyddion Lefi yn ôl eu claniau – pob un wedi cael ei restru wrth ei enw o dan enw ei benteulu. Roedd pob un oedd dros ugain oed i wasanaethu yr ARGLWYDD yn y deml. 25Roedd Dafydd wedi dweud fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi heddwch i’w bobl, ac wedi dod i aros yn Jerwsalem am byth. 26Felly, bellach, doedd dim rhaid i’r Lefiaid gario’r tabernacl a’r holl offer ar ei gyfer. 27Y peth olaf roedd Dafydd wedi’i ddweud oedd fod rhaid rhifo’r Lefiaid oedd yn dau ddeg oed neu’n hŷn.
28Gwaith y Lefiaid oedd helpu’r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD. Nhw oedd yn gofalu am yr iard a’r stordai, am olchi’r llestri cysegredig ac unrhyw beth arall oedd angen ei wneud yn nheml Dduw. 29Nhw oedd yn gyfrifol am y bara oedd yn cael ei osod yn bentwr bob dydd, y blawd mân ar gyfer yr offrwm o rawn, y bisgedi tenau, y cacennau radell, a’r holl gymysgu a’r pwyso a’r mesur. 30Roedden nhw i fod yn bresennol bob bore i ddiolch i’r ARGLWYDD a chanu mawl iddo. Hefyd bob gyda’r nos, 31a phan oedd aberth yn cael ei losgi ar y Saboth, yn fisol ar ŵyl y lleuad newydd, ac ar y gwyliau crefyddol eraill. Roedd yn rhaid i’r nifer cywir ohonyn nhw fod yn bresennol bob tro. 32Nhw hefyd oedd yn gyfrifol am babell presenoldeb Duw a’r cysegr sanctaidd. Roedden nhw’n helpu’r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015