No themes applied yet
Trefnu’r grwpiau o Offeiriaid
1Dyma sut cafodd disgynyddion Aaron eu rhannu’n grwpiau:
Meibion Aaron:
Nadab, Abihw, Eleasar, ac Ithamar.
2(Buodd Nadab ac Abihw farw cyn eu tad, a doedd ganddyn nhw ddim plant. Roedd Eleasar ac Ithamar yn gwasanaethu fel offeiriaid.)
3Dyma Dafydd, gyda help Sadoc (oedd yn ddisgynnydd i Eleasar), ac Achimelech (oedd yn ddisgynnydd i Ithamar), yn rhannu’r offeiriaid yn grwpiau oedd â chyfrifoldebau arbennig. 4Roedd mwy o arweinwyr yn ddisgynyddion i Eleasar nag oedd i Ithamar, a dyma sut cawson nhw eu rhannu: un deg chwech arweinydd oedd yn ddisgynyddion i Eleasar, ac wyth oedd yn ddisgynyddion i Ithamar. 5Er mwyn bod yn deg, cafodd coelbren ei ddefnyddio i’w rhannu nhw, fel bod pob un oedd yn gwasanaethu yn arweinwyr yn y cysegr wedi’u dewis gan Dduw. 6Dyma’r ysgrifennydd, Shemaia fab Nethanel (oedd yn Lefiad) yn ysgrifennu’r enwau i gyd o flaen y brenin, ei swyddogion, Sadoc yr offeiriad, Achimelech fab Abiathar, ac arweinwyr yr offeiriad a’r Lefiaid. Roedd un yn cael ei ddewis drwy ddefnyddio coelbren o deulu Eleasar, ac yna’r nesaf o deulu Ithamar. 7-18A dyma’r drefn fel cawson nhw eu dewis:
1. | Iehoiarif | 13. | Chwpa |
2. | Idaïa | 14. | Ieshebëab |
3. | Charîm | 15. | Bilga |
4. | Seorîm | 16. | Immer |
5. | Malcîa | 17. | Chesir |
6. | Miamin | 18. | Hapitsets |
7. | Hacots | 19. | Pethacheia |
8. | Abeia | 20. | Iechescel |
9. | Ieshŵa | 21. | Iachîn |
10. | Shechaneia | 22. | Gamwl |
11. | Eliashif | 23. | Delaia |
12. | Iacîm | 24. | Maaseia |
19A dyna’r drefn roedden nhw’n gwneud eu gwaith yn y deml, yn ôl y canllawiau roedd Aaron, eu hynafiad, wedi’u gosod, fel roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi dweud wrtho.
Gweddill y Lefiaid
20Dyma weddill y Lefiaid: Shwfa-el, o ddisgynyddion Amram; Iechdeia, o ddisgynyddion Shwfa-el; 21Ishïa, mab hynaf Rechabeia, o ddisgynyddion Rechabeia. 22Shlomoth o’r Its’hariaid; Iachath, o ddisgynyddion Shlomoth.
23Disgynyddion Hebron: Ierïa yn arwain, yna Amareia, Iachsiel, ac Icameam.
24Disgynyddion Wssiel: Micha, a Shamîr (un o feibion Micha).
25Brawd Micha: Ishïa, a Sechareia (un o feibion Ishïa).
26Disgynyddion Merari: Machli a Mwshi.
Mab Iaäseia: Beno.
27Disgynyddion Merari, o Iaäseia: Beno, Shoham, Saccwr ac Ifri.
28O Machli: Eleasar, oedd heb feibion.
29O Cish: Ierachmeël.
30Disgynyddion Mwshi: Machli, Eder, a Ierimoth.
(Y rhain oedd y Lefiaid, wedi’u rhestru yn ôl eu teuluoedd.) 31Yn union fel gyda’i perthnasau yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, cafodd coelbren ei ddefnyddio o flaen y Brenin Dafydd, Sadoc, Achimelech, penaethiaid teuluoedd, yr offeiriaid a’r Lefiaid. Doedd safle ac oedran ddim yn cael ei ystyried.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015