No themes applied yet
Meibion Dafydd
1Dyma’r meibion gafodd Dafydd pan oedd yn byw yn Hebron:
Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.
Yr ail oedd Daniel, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
2Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.
Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.
3Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.
Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall iddo.
4Cafodd y chwech yma eu geni pan oedd Dafydd yn Hebron. Roedd yn frenin yno am saith mlynedd a hanner.
Yna roedd yn frenin yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd. 5A dyma’r meibion gafodd e yno: Shamma,3:5 Shamma Hebraeg, Shimma – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13). Shofaf, Nathan, a Solomon. Mam y pedwar oedd Bathseba ferch Ammiel.
6Naw mab arall Dafydd oedd: Ifchar, Elishwa, Eliffelet, 7Noga, Neffeg, Jaffîa, 8Elishama, Eliada, ac Eliffelet.
9Meibion Dafydd oedd y rhain i gyd, heb gyfri plant ei bartneriaid.3:9 bartneriaid Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. Tamar oedd eu chwaer nhw.
Disgynyddion Solomon
10Mab Solomon oedd Rehoboam, wedyn Abeia, ei fab e, ac yn y blaen drwy Asa, Jehosaffat, 11Jehoram, Ahaseia, Joas, 12Amaseia, Asareia,3:12 Hebraeg, “Asareia” – enw arall ar Wseia. Jotham, 13Ahas, Heseceia, Manasse, 14Amon, a Joseia 15a’i bedwar mab e, Iochanan (yr hynaf), yna Jehoiacim, Sedeceia, a Shalwm.3:15 Shalwm Enw arall ar Jehoachas mae’n debyg (cf. 2 Brenhinoedd 23:30; Jeremeia 22:11).
16Jehoiacim oedd tad Jehoiachin3:16 Jehoiachin Hebraeg, Jechoneia, oedd yn enw arall ar Jehoiachin. a Sedeceia.
Disgynyddion Jehoiachin
17Meibion Jehoiachin (gafodd ei gaethgludo): Shealtiel, 18Malciram, Pedaia, Shenatsar, Iecameia, Hoshama, a Nedabeia.
19Meibion Pedaia: Serwbabel a Shimei.
Meibion Serwbabel: Meshwlam a Chananeia; a Shlomit oedd eu chwaer nhw. 20Hefyd pump arall, sef Chashwfa, Ohel, Berecheia, Chasadeia, a Iwshaf-chesed.
21Disgynyddion Chananeia: Plateia a Ieshaia, meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, a meibion Shechaneia.
22Disgynyddion Shechaneia: Shemaia a’i feibion: Chattwsh, Igal, Barîach, Nearia, a Shaffat – chwech i gyd.
23Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, ac Asricam, tri.
24Meibion Elioenai: Hodafiâ, Eliashif, Pelaia, Accwf, Iochanan, Delaia, ac Anani – saith i gyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015