No themes applied yet
1Felly dilynwch fy esiampl i, fel dw i’n dilyn esiampl y Meseia.
Addoliad Gweddus
2Dw i’n eich canmol chi am ‘ddal i gofio amdana i, ac am ddal gafael yn y traddodiadau wnes i eu pasio ymlaen i chi’! 3Ond dw i eisiau i chi ddeall bod bywyd pob dyn yn tarddu o’r Meseia, a bod bywyd gwraig yn tarddu o’r dyn, ac mai o Dduw mae bywyd y Meseia yn tarddu.
4“Mae pob dyn sy’n gweddïo neu’n proffwydo gyda rhywbeth ar ei ben yn colli ei hunan-barch,” meddech chi. 5“Ac mae pob gwraig sy’n gweddïo neu’n proffwydo heb orchuddio’i phen yn dangos diffyg hunan-barch – mae’n union fel petai hi wedi eillio ei phen.” 6Felly, os ydy gwraig ddim am orchuddio’i phen, dylai gael gwared â’i gwallt? Ond os ydy e’n beth cywilyddus i wraig gael gwared â’i gwallt neu gael ei heillio, dylai felly orchuddio ei phen?
7“Ddylai dyn ddim gorchuddio’i ben am ei fod yn ddelw Duw ac yn dangos ei ysblander, ond dangos ysblander dyn mae’r wraig,” meddech chi. 8“Nid dyn ddaeth o wraig, ond y wraig ddaeth o ddyn. 9A chafodd dyn ddim ei greu er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y dyn. 10Dyna pam ddylai gwraig gadw rheolaeth ar y ffordd mae pobl yn edrych arni – ac o achos yr angylion hefyd.” 11Ond y pwynt ydy, yn yr Arglwydd dydy gwraig a dyn ddim yn gallu gwneud heb ei gilydd. 12Mae’n wir fod y wraig wedi dod o’r dyn, ond mae’n wir hefyd fod pob dyn yn cael ei eni o wraig. Ond mae’n nhw i gyd yn tarddu o Dduw yn y pen draw.
13Felly barnwch chi: Onid ydy hi’n iawn i wraig weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen? 14Dydy hyd yn oed ‘natur’ ddim wedi’ch dysgu chi fod cael gwallt hir yn beth amharchus i ddyn, 15ond bod gwallt hir yn anrhydedd i wraig. Mae’r gwallt hir wedi’i roi iddi hi yn lle gorchudd. 16Ond os ydy rhywun am ddadlau am hyn, does gynnon ni ddim arferiad o’r fath. A does gan eglwysi Duw ddim chwaith.
Swper yr Arglwydd
(Mathew 26:26-29; Marc 14:22-25; Luc 22:14-20)
17Dw i ddim yn gallu’ch canmol chi wrth ymateb i’r mater nesa chwaith. Mae’n ymddangos fod eich cyfarfodydd chi’n gwneud mwy o ddrwg nag o dda. 18Dw i’n clywed yn gyntaf fod rhaniadau yn eich plith chi pan fyddwch yn cyfarfod fel eglwys, a dw i’n credu’r peth i ryw raddau. 19“Mae’n amhosib osgoi gwahaniaethau” meddech chi, ac mae hynny i fod i ddangos yn glir ar ochr pwy mae Duw, ydy e? 20Os felly, dim Swper yr Arglwydd dych chi’n ei fwyta pan ddewch at eich gilydd! 21Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A’r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi! 22Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu ydych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i’n mynd i’ch canmol chi? Na, dim o gwbl!
23Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd: Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth. 24Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe’n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy’n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”11:24 cyfeiriad at eiriau Iesu yn Luc 22:19; Mathew 26:26 a Marc 14:22 25Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae’r cwpan yma’n cynrychioli’r ymrwymiad newydd mae Duw’n ei wneud, wedi’i selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.”11:25 cyfeiriad at eiriau Iesu yn Luc 22:20; Mathew 26:27-28 a Marc 14:24 26Bob tro byddwch chi’n bwyta’r bara ac yn yfed o’r cwpan, byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto.
27Felly, bydd pwy bynnag sy’n bwyta’r bara neu’n yfed o gwpan yr Arglwydd mewn ffordd sy’n anweddus yn cael ei gyfri’n euog o bechu yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd. 28Dyna pam mae’n bwysig edrych yn fanwl ar ein bywydau cyn bwyta’r bara ac yfed o’r cwpan. 29Mae pawb sy’n bwyta ac yfed heb gydnabod ein bod gyda’n gilydd yn ‘gorff yr Arglwydd’ yn bwyta ac yfed barn arnyn nhw eu hunain. 30Dyna pam mae cymaint ohonoch chi’n dioddef o wendid a salwch, a pham mae rhai hyd yn oed wedi marw. 31Petaen ni’n gwylio’n hymddygiad yn ofalus, fyddai dim rhaid i ni gael ein barnu. 32Ond hyd yn oed pan fyddwn yn cael ein barnu gan yr Arglwydd, ein disgyblu mae e’n ei wneud, dim ein condemnio gyda’r byd.
33Felly pan fyddwch chi’n dod at eich gilydd i fwyta, frodyr a chwiorydd, arhoswch nes bydd pawb wedi cyrraedd. 34Os ydy rhywun bron llwgu, dylai fwyta gartref, wedyn fydd eich cyfarfodydd chi gyda’ch gilydd ddim yn arwain i farn.
Bydda i’n delio gyda’r materion eraill pan fydda i’n dod atoch chi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015