No themes applied yet
Paul a’r Corinthiaid
1Dylech chi’n hystyried ni fel gweision i’r Meseia – gweision sydd â’r cyfrifoldeb ganddyn nhw o esbonio pethau dirgel Duw. 2Wrth gwrs, mae disgwyl i rywun sydd wedi derbyn cyfrifoldeb brofi ei fod yn ffyddlon. 3Felly dim beth dych chi na neb arall yn ei feddwl sy’n bwysig gen i; yn wir, dim beth dw i fy hun yn ei feddwl sy’n bwysig hyd yn oed! 4Mae nghydwybod i’n glir, ond dydy hynny ddim yn profi mod i’n iawn. Beth mae Duw ei hun yn ei feddwl ohono i sy’n cyfri. 5Felly peidiwch cyhoeddi’ch dedfryd ar bethau yn rhy fuan; arhoswch nes i’r Arglwydd ddod yn ôl. Bydd y gwir i gyd yn dod i’r golau bryd hynny. Bydd cymhellion pawb yn dod i’r amlwg, a bydd pawb yn derbyn beth mae’n ei haeddu gan Dduw.
6Ffrindiau annwyl, dw i wedi defnyddio fi fy hun ac Apolos fel esiampl, er mwyn i chi ddysgu beth ydy ystyr “peidio mynd y tu hwnt i beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” Byddwch chi’n stopio honni fod un yn well na’r llall wedyn. 7Beth sy’n eich gwneud chi’n well na phobl eraill? Beth sydd gynnoch chi ydych chi ddim yn y pen draw wedi’i dderbyn gan Dduw? Ac os mai rhodd gan Dduw ydy’r cwbl, beth sydd i frolio amdano? – fel petaech chi’ch hunain wedi cyflawni rhywbeth!
8Edrychwch arnoch chi! Dych chi’n meddwl fod popeth gynnoch chi yn barod! Dych chi mor gyfoethog! Dyma chi wedi cael eich teyrnas – a ninnau’n dal y tu allan! Byddai’n wych gen i tasech chi yn teyrnasu go iawn, er mwyn i ninnau gael teyrnasu gyda chi. 9Wyddoch chi, mae’n edrych fel petai Duw wedi’n gwneud ni, ei gynrychiolwyr personol, fel y carcharorion rhyfel sydd ar ddiwedd y prosesiwn – y rhai sydd wedi’n condemnio i farw yn yr arena. Dŷn ni wedi cael ein gwneud yn sioe i ddifyrru’r byd – pobl ac angylion. 10Ni yn edrych yn ffyliaid dros achos y Meseia, a chi’n bobl mor ddoeth! Ni yn wan, a chi mor gryf! Chi yn cael eich canmol a ninnau’n destun sbort! 11Hyd heddiw dŷn ni’n brin o fwyd a diod, a heb ddigon o ddillad i’n cadw’n gynnes. Dŷn ni wedi cael ein cam-drin a does gynnon ni ddim cartrefi. 12Dŷn ni wedi gweithio’n galed i ennill ein bywoliaeth. Dŷn ni’n bendithio’r bobl sy’n ein bygwth ni. Dŷn ni’n goddef pobl sy’n ein cam-drin ni. 13Dŷn ni’n ymateb yn garedig pan mae pobl yn ein henllibio ni. Hyd heddiw dŷn ni wedi cael ein trin gan bobl fel sbwriel, neu’n ddim byd ond baw!
14Dim ceisio creu embaras i chi ydw i wrth ddweud hyn i gyd, ond eich rhybuddio chi. Dych chi fel plant annwyl i mi! 15Hyd yn oed petai miloedd o bobl eraill yn eich dysgu chi fel Cristnogion, fyddai’n dal gynnoch chi ond un tad ysbrydol! Fi gafodd y fraint o fod yn dad i chi pan wnes i gyhoeddi’r newyddion da i chi. 16Felly plîs, dilynwch fy esiampl i!
17Dyna pam dw i’n anfon Timotheus atoch chi – mae e’n fab annwyl i mi yn yr Arglwydd, a dw i’n gallu dibynnu’n llwyr arno. Bydd yn eich atgoffa chi sut dw i’n ymddwyn a beth dw i’n ei ddysgu am y Meseia Iesu. Dyma dw i’n ei ddysgu yn yr eglwysi i gyd, ble bynnag dw i’n mynd.
18Ond mae rhai pobl, mor siŵr ohonyn nhw eu hunain, yn meddwl na fydda i’n ymweld â chi byth eto. 19Ond dw i yn dod – a hynny’n fuan, os Duw a’i myn. Byddwn ni’n gweld wedyn os mai dim ond ceg fawr sydd ganddyn nhw, neu oes ganddyn nhw’r gallu i wneud rhywbeth! 20Dim beth mae pobl yn ei ddweud, ond beth allan nhw ei wneud sy’n dangos Duw’n teyrnasu. 21Dewiswch beth sydd orau gynnoch chi – i mi ddod gyda gwialen i gosbi a dweud y drefn, neu ddod yn llawn cariad ac yn addfwyn?
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015