No themes applied yet
Diarddel brawd anfoesol!
1Dw i wedi clywed am yr anfoesoldeb yn eich plith chi! Mae’n waeth na beth fyddai’r paganiaid yn ei oddef! Mae un o ddynion yr eglwys yn cysgu gyda’i lysfam, gwraig ei dad!5:1 Deuteronomium 22:30 2A dych chi’n dal yn falch ohonoch chi’ch hunain? Dylai’r fath beth godi cywilydd arnoch chi! Dylech chi fod wedi’ch llethu gan alar! Pam dych chi ddim wedi disgyblu’r dyn, a’i droi allan o gymdeithas yr eglwys? 3Er fy mod i ddim gyda chi yn Corinth ar hyn o bryd, dw i acw yn yr ysbryd. Yn union fel petawn i gyda chi dw i wedi cyhoeddi’r ddedfryd 4gydag awdurdod ein Harglwydd Iesu. Pan ddewch chi at eich gilydd (bydda i yno gyda chi yn yr ysbryd), 5taflwch y dyn allan o’r eglwys. Rhaid ei roi yn nwylo Satan, er mwyn i’w chwantau drwg gael eu dinistrio ac iddo gael ei achub pan ddaw’r Arglwydd Iesu yn ôl.
6Sut allwch chi ymfalchïo fel eglwys pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “mymryn bach o furum yn lledu drwy’r toes i gyd”? – mae’n effeithio ar bawb! 7Rhaid cael gwared ohono – ei daflu allan, a dechrau o’r newydd gyda thoes newydd heb unrhyw furum ynddo. Ac felly dylech chi fod, am fod y Meseia wedi’i aberthu droson ni, fel oen y Pasg.5:7 gw. Exodus 12:5 8Gadewch i ni ddathlu’r Ŵyl, dim gyda’r bara sy’n llawn o furum malais a drygioni, ond gyda bara croyw purdeb a gwirionedd.5:8 gw. Exodus 13:7; Deuteronomium 16:3
9Dw i wedi dweud wrthoch chi yn y llythyr ysgrifennais i o’r blaen i beidio cael dim i’w wneud gyda phobl sy’n anfoesol yn rhywiol. 10Dim sôn am bobl sydd ddim yn credu oeddwn i – sef y bobl yn y gymdeithas seciwlar sy’n anfoesol neu’n hunanol, neu’n twyllo, neu’n addoli eilun-dduwiau. Byddai’n rhaid i chi fynd allan o’r byd i osgoi pobl felly! 11Na, beth roeddwn i’n ei olygu oedd na ddylech chi gael dim i’w wneud â rhywun sy’n galw’i hun yn Gristion ac eto ar yr un pryd yn byw’n anfoesol, neu’n hunanol, yn addoli eilun-dduwiau, yn sarhaus, yn meddwi neu’n twyllo. Peidiwch hyd yn oed ag eistedd i gael pryd o fwyd gyda phobl felly! 12Dim fy lle i ydy barnu pobl y tu allan i’r eglwys. Ond dŷn ni yn gyfrifol am y bobl sy’n perthyn i’r eglwys. 13Duw sydd yn barnu pobl o’r tu allan. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud wrthon ni, “Rhaid diarddel y dyn drwg o’ch plith.”5:13 Deuteronomium 17:7 (LXX); 19:19; 21:21; 24:7
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015