No themes applied yet
Cig wedi’i aberthu i dduwiau paganaidd
1I droi at eich cwestiwn am gig wedi’i aberthu i eilun-dduwiau paganaidd: “Mae pawb yn gwybod y ffeithiau ac yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain” meddech chi. Ond mae dweud ein bod ni’n gwybod yn hybu balchder; mae cariad, ar y llaw arall, yn adeiladu. 2Os ydy rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl, dŷn nhw’n gwybod dim byd mewn gwirionedd. 3Ond mae Duw yn gwybod pwy sy’n ei garu, ac mae’n gofalu amdanyn nhw.
4Felly, ydy hi’n iawn i ni fwyta cig sydd wedi’i aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni’n cytuno – “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.” 5Hyd yn oed os oes rhai sy’n cael eu galw’n ‘dduwiau’ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‘dduwiau’ ac ‘arglwyddi’ eraill), 6dŷn ni’n gwybod mai dim ond un Duw go iawn sydd, sef y Tad. Fe ydy’r un greodd bopeth ac iddo fe dŷn ni’n byw. A does gynnon ni ond un Arglwydd, sef Iesu y Meseia, yr un y daeth popeth i fod drwyddo, a’r un sy’n rhoi bywyd i ni.
7Ond dydy pawb ddim mor siŵr. Mae eilun-dduwiau wedi bod yn gymaint rhan o fywydau rhai pobl, pan maen nhw’n bwyta’r cig allan nhw ddim peidio meddwl am y ffaith ei fod wedi’i aberthu i ryw dduw paganaidd. Mae eu cydwybod nhw’n cael ei niweidio am ei bod hi’n gydwybod wan. 8“Dydy bwyd ddim yn effeithio ar ein perthynas ni â Duw” meddech chi; digon gwir – dŷn ni ddim gwaeth o fwyta, na dim gwell chwaith. 9Ond dylech chi fod yn ofalus nad ydych chi a’ch “hawl i ddewis” yn achosi i’r rhai sy’n ansicr faglu.
10Dyma allai ddigwydd: Mae rhywun sydd â chydwybod wan yn dy weld di yn bwyta mewn teml eilunod. Rwyt ti’n gwybod y ffeithiau – does dim i boeni amdano. Ond onid oes peryg wedyn i’r person welodd di deimlo’n hyderus, a bwyta cig sydd wedi’i aberthu i eilun-dduwiau? 11Felly bydd y crediniwr sy’n ansicr yn gweithredu’n groes i’w gydwybod ac yn cael ei ddinistrio am dy fod di’n “gwybod yn well” – ie, brawd neu chwaer y buodd y Meseia farw trostyn nhw! 12Wrth wneud i Gristion arall weithredu’n groes i’w gydwybod fel hyn, rwyt ti’n pechu yn erbyn y Meseia. 13Felly, os ydy beth dw i’n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto – does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015