No themes applied yet
Y brenin Dafydd yn hen ddyn
1Roedd y Brenin Dafydd wedi mynd yn hen iawn. Er iddyn nhw roi blancedi drosto roedd yn methu cadw’n gynnes. 2Dyma’i weision yn dweud wrtho, “Meistr. Gad i ni chwilio am ferch ifanc i dy nyrsio di a gofalu amdanat ti. Bydd hi’n gallu gorwedd gyda ti, a chadw ein meistr, y brenin, yn gynnes.” 3Felly, dyma nhw’n chwilio drwy wlad Israel i gyd am ferch ifanc hardd, a ffeindio Abisag o Shwnem,1:3,4 Shwnem Tref yng ngogledd Israel, heb fod yn bell o ddyffryn Jesreel. a mynd â hi at y brenin. 4Roedd hi’n ferch hynod o hardd. A hi fuodd yn edrych ar ôl y brenin a’i nyrsio. Ond wnaeth e ddim cael perthynas rywiol gyda hi.
Adoneia yn cyhoeddi ei hun yn frenin
5Yna dyma Adoneia, mab Dafydd a Haggith, yn dechrau cael syniadau ac yn cyhoeddi, “Dw i am fod yn frenin.” Felly, dyma fe’n casglu cerbydau a cheffylau iddo’i hun, a threfnu cael hanner cant o warchodwyr personol. 6(Wnaeth ei dad ddim ymyrryd o gwbl, a gofyn iddo, “Beth wyt ti’n wneud?” Roedd Adoneia yn ddyn golygus iawn, a fe oedd y nesaf i gael ei eni ar ôl Absalom.)1:6 Absalom Gan fod Absalom wedi marw, Adoneia bellach oedd yr hynaf o feibion Dafydd oedd yn dal yn fyw. 7Dyma Adoneia’n trafod gyda Joab, mab Serwia, a gydag Abiathar yr offeiriad. A dyma’r ddau’n ei gefnogi a’i helpu. 8Ond wnaeth Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na Nathan y proffwyd, na Shimei, na Rei, na gwarchodlu personol Dafydd ddim ochri gydag Adoneia.
9Dyma Adoneia yn mynd i graig Socheleth sy’n agos i En-rogel,1:9 En-rogel sef, Ffynnon y Pannwr. ac aberthu defaid, ychen a lloi wedi’u pesgi yno. Roedd wedi gwahodd ei frodyr i gyd a holl swyddogion y brenin oedd yn dod o Jwda. 10Ond doedd e ddim wedi gwahodd Nathan y proffwyd, na Benaia, na gwarchodlu personol Dafydd, na Solomon ei frawd chwaith.
11Dyma Nathan yn dweud wrth Bathseba, mam Solomon,1:11 2 Samuel 12:24 “Wyt ti wedi clywed fod Adoneia, mab Haggith, wedi gwneud ei hun yn frenin heb i Dafydd wybod? 12Gwranda, i mi roi cyngor i ti sut i achub dy fywyd dy hun a bywyd Solomon dy fab. 13Dos at y Brenin Dafydd a dweud wrtho, ‘Fy mrenin, syr, wnest ti ddim addo i mi mai fy mab i, Solomon, fyddai’n frenin ar dy ôl di? Dwedaist mai fe fyddai’n eistedd ar dy orsedd di. Felly sut bod Adoneia’n frenin?’ 14Wedyn tra rwyt ti wrthi’n siarad â’r brenin dof i i mewn ar dy ôl di ac ategu’r hyn ti’n ddweud.”
15Felly dyma Bathseba’n mynd i mewn i ystafell y brenin. (Roedd y brenin yn hen iawn, ac roedd Abisag, y ferch o Shwnem, yn gofalu amdano.) 16Dyma Bathseba’n plygu i lawr o flaen y brenin, a dyma’r brenin yn gofyn iddi, “Beth sydd?” 17“Syr,” meddai Bathseba, “Wnest ti addo o flaen yr ARGLWYDD mai Solomon, fy mab i, fyddai’n frenin ar dy ôl di, ac mai fe fyddai’n eistedd ar dy orsedd di. 18Ond nawr mae Adoneia wedi’i wneud yn frenin, a dwyt ti, syr, yn gwybod dim am y peth! 19Mae wedi aberthu llond lle o wartheg, lloi wedi’u pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion di i gyd ato, ac Abiathar yr offeiriad a Joab, pennaeth y fyddin. Ond gafodd dy was Solomon ddim gwahoddiad. 20Syr, mae Israel gyfan yn disgwyl i ti, y brenin, ddweud wrthyn nhw pwy sydd i deyrnasu ar dy ôl di. 21Syr, os na wnei di, ar ôl i ti farw bydda i a Solomon yn cael ein trin fel troseddwyr.”
22Tra oedd hi’n siarad â’r brenin, dyma Nathan y proffwyd yn cyrraedd. 23Dyma ddweud wrth y brenin, “Mae Nathan y proffwyd yma”, a dyma fe’n mynd i mewn ac yn ymgrymu o flaen y brenin â’i wyneb ar lawr. 24Yna dyma Nathan yn gofyn, “Fy mrenin, syr, wnest ti ddweud mai Adoneia sydd i fod yn frenin ar dy ôl di, ac mai fe sydd i eistedd ar dy orsedd di? 25Achos heddiw mae wedi aberthu llwythi o wartheg, lloi wedi’u pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion i gyd, arweinwyr y fyddin ac Abiathar yr offeiriad. A dyna lle maen nhw’n bwyta ac yn yfed gydag e ac yn gweiddi, ‘Hir oes i’r Brenin Adoneia!’ 26Ond wnaeth e ddim rhoi gwahoddiad i mi, dy was di, nac i Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, nac i dy was Solomon chwaith. 27Ydy fy meistr, y brenin, wedi gwneud hyn heb ddweud wrthon ni pwy oedd i deyrnasu ar dy ôl?”
Solomon yn cael ei wneud yn frenin
28Yna dyma’r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Bathseba yn ôl yma!” A dyma hi’n dod a sefyll o’i flaen. 29A dyma’r brenin yn addo iddi, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt: 30fel gwnes i addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel, dw i’n dweud eto heddiw mai dy fab di, Solomon, sydd i fod yn frenin ar fy ôl i. Fe sydd i eistedd ar yr orsedd yn fy lle i.” 31Dyma Bathseba’n plygu’n isel o flaen y brenin, a dweud, “Fy Mrenin Dafydd, boed i ti fyw am byth!”
32Yna dyma’r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada yma.” Wedi iddyn nhw ddod, 33dyma’r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Cymerwch fy ngweision i gyd gyda chi, rhowch Solomon i farchogaeth ar gefn fy mul i, ac ewch â fe i lawr i Gihon. 34Yno, dych chi, Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd, i’w eneinio’n frenin ar Israel. Yna dych chi i chwythu’r corn hwrdd1:34 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. a gweiddi, ‘Hir oes i’r Brenin Solomon!’ 35Wedyn dewch ag e yn ôl yma i eistedd ar fy ngorsedd i. Fe ydy’r un fydd yn frenin yn fy lle i. Dw i wedi gorchymyn mai fe sydd i deyrnasu ar Israel a Jwda.” 36A dyma Benaia fab Jehoiada yn ateb y brenin, “Ie wir! Boed i’r ARGLWYDD dy Dduw di, fy meistr y brenin, gadarnhau hynny. 37Fel mae’r ARGLWYDD wedi bod gyda ti, fy mrenin, bydd gyda Solomon hefyd. A boed iddo wneud y frenhiniaeth honno hyd yn oed yn fwy llewyrchus na dy frenhiniaeth di, fy meistr, y Brenin Dafydd.”
38Felly dyma Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a gwarchodlu’r brenin (Cretiaid1:38 Hebraeg, Cerethiaid, sy’n enw arall ar y Cretiaid. a Pelethiaid), yn rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y Brenin Dafydd a mynd i lawr i Gihon. 39Wedyn, dyma Sadoc yr offeiriad yn cymryd y corn o olew olewydd o’r babell ac yn ei dywallt ar ben Solomon a’i eneinio’n frenin. Yna dyma nhw’n canu’r corn hwrdd ac roedd pawb yn gweiddi, “Hir oes i’r Brenin Solomon!” 40A dyma pawb yn ei ddilyn yn ôl i Jerwsalem, yn canu offerynnau chwyth a gwneud cymaint o stŵr wrth ddathlu nes bod y ddaear yn atseinio.
41Roedd Adoneia, a’r holl bobl roedd e wedi’u gwahodd ato, wrthi’n gorffen bwyta pan glywon nhw’r sŵn. Pan glywodd Joab sŵn y corn hwrdd, dyma fe’n gofyn, “Beth ydy’r holl dwrw yna yn y ddinas?” 42Wrth iddo siarad dyma Jonathan, mab Abiathar yr offeiriad, yn cyrraedd. A dyma Adoneia’n dweud wrtho, “Tyrd i mewn. Ti’n ddyn da, ac mae’n siŵr fod gen ti newyddion da i ni.” 43Ond dyma Jonathan yn ateb, “Na, dim o gwbl, syr. Mae’r Brenin Dafydd wedi gwneud Solomon yn frenin. 44Dyma fe’n anfon Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada gyda’i warchodlu (y Cretiaid a’r Pelethiaid), a rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y brenin. 45Yna dyma Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd yn ei eneinio fe’n frenin yn Gihon. Wedyn, dyma nhw’n mynd yn ôl i fyny i Jerwsalem yn dathlu, ac mae’r ddinas yn llawn cynnwrf. Dyna ydy’r sŵn dych chi’n ei glywed. 46Mae Solomon bellach yn eistedd ar orsedd y brenin. 47Pan aeth y swyddogion i gyd i longyfarch y Brenin Dafydd, dyma nhw’n dweud wrtho, ‘Boed i Dduw wneud Solomon yn fwy enwog na ti, a gwneud ei deyrnasiad e’n fwy llwyddiannus!’ Roedd y brenin yn plygu i addoli Duw ar ei wely 48a’i ymateb oedd, ‘Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel. Heddiw mae wedi rhoi olynydd i mi ar yr orsedd, a dw i wedi cael byw i weld y peth!’”
49Dyma bawb oedd Adoneia wedi’u gwahodd ato yn panicio, codi ar eu traed a gwasgaru i bob cyfeiriad. 50Roedd gan Adoneia ei hun ofn Solomon hefyd, a dyma fe’n mynd a gafael yng nghyrn yr allor. 51Dyma nhw’n dweud wrth Solomon, “Mae gan Adoneia dy ofn di. Mae e’n gafael yng nghyrn yr allor ac yn dweud, ‘Dw i eisiau i’r Brenin Solomon addo y bydd e ddim yn fy lladd i â’r cleddyf.’” 52A dyma Solomon yn dweud, “Os bydd e’n ffyddlon, fydd dim blewyn ar ei ben yn cael niwed. Ond os bydd e’n gwneud rhywbeth drwg, bydd yn marw.” 53Felly dyma Solomon yn anfon dynion i ddod ag e i lawr o’r allor, a dyma fe’n dod ac ymgrymu i lawr o flaen Solomon; a dyma Solomon yn dweud wrtho, “Dos adre.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015