No themes applied yet
Abeiam, brenin Jwda
(2 Cronicl 13:1–14:1)
1Daeth Abeiam yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam fab Nebat wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd. 2Bu’n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Maacha, merch Afishalom. 3Roedd yn gwneud yr un pethau drwg â’i dad o’i flaen. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i’r ARGLWYDD fel roedd y Brenin Dafydd wedi bod. 4Ond am ei fod yn un o ddisgynyddion Dafydd dyma’r ARGLWYDD ei Dduw yn cadw’r llinach yn fyw yn Jerwsalem, drwy roi mab iddo i’w olynu fel brenin a gwneud Jerwsalem yn ddiogel. 5Roedd hyn am fod Dafydd wedi plesio’r ARGLWYDD, ac wedi bod yn gwbl ufudd iddo ar hyd ei oes (heblaw am beth wnaeth e i Wreia yr Hethiad). 6Roedd y rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam wedi para tra oedd Abeiam yn fyw.
7Mae gweddill hanes Abeiam, a’r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Roedd y rhyfel wedi para rhwng Abeiam a Jeroboam. 8Pan fu farw, cafodd Abeiam ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le.
Asa, brenin Jwda
(2 Cronicl 15:16–16:6)
9Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ugain mlynedd pan ddaeth Asa yn frenin ar Jwda. 10Bu’n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg un o flynyddoedd. Maacha, merch Afishalom oedd ei nain.
11Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd Asa yn gwneud beth oedd yn plesio’r ARGLWYDD. 12Gyrrodd y dynion oedd yn buteiniaid teml allan o’r wlad, a chael gwared â’r holl eilunod ffiaidd roedd ei gyndadau wedi’u gwneud. 13Roedd hyd yn oed wedi diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam frenhines am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, a’i losgi wrth Ddyffryn Cidron. 14Er ei fod heb gael gwared â’r allorau lleol, roedd Asa yn ffyddlon i’r ARGLWYDD ar hyd ei oes. 15Daeth â’r celfi roedd e a’i dad wedi’u cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a’u gosod yn nheml yr ARGLWYDD.
16Roedd Asa, brenin Jwda yn rhyfela yn erbyn Baasha, brenin Israel drwy’r amser. 17Dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda, ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda. 18Felly dyma Asa yn cymryd y cwbl o’r arian a’r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a rhoi’r cwbl i’w weision i fynd i Damascus at Ben-hadad,15:18 Ben-hadad Ben-hadad I, brenin Syria rhwng 885 CC a 865 CC. brenin Syria (sef mab Tabrimon ac ŵyr Chesion), gyda’r neges yma:
19“Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i’n anfon y rhodd yma o arian ac aur i ti. Dw i eisiau i ti dorri’r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.”
20Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y Brenin Asa, a dyma fe’n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Felly dyma nhw’n mynd a tharo Îon, Dan, Abel-beth-maacha a thir llwyth Nafftali i gyd, gan gynnwys ardal Cinnereth.
21Pan glywodd Baasha am y peth, dyma fe’n stopio adeiladu Rama a symud ei fyddin yn ôl i Tirtsa. 22Yna dyma’r Brenin Asa yn gorchymyn i bobl Jwda – pawb yn ddieithriad – i fynd i nôl y cerrig a’r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. A dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.
23Mae gweddill hanes Asa, ei lwyddiant milwrol a’r cwbl wnaeth e ei gyflawni, a rhestr o’r holl drefi wnaeth e eu hadeiladu, i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Ond pan oedd yn hen roedd Asa’n dioddef yn ddifrifol o’r gowt. 24Pan fuodd Asa farw, cafodd ei gladdu gyda’i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le.
Nadab, brenin Israel
25Yn ystod ail flwyddyn Asa yn frenin ar Jwda, cafodd Nadab, mab Jeroboam, ei wneud yn frenin Israel. Bu Nadab yn frenin am ddwy flynedd. 26Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn fel ei dad, ac yn gwneud i Israel bechu. 27Dyma Baasha fab Achïa o lwyth Issachar yn cynllwynio yn erbyn Nadab a’i lofruddio yn Gibbethon, ar dir y Philistiaid. Roedd Nadab a byddin Israel yn gwarchae ar Gibbethon ar y pryd. 28Lladdodd Baasha fe yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda. A daeth Baasha yn frenin ar Israel yn lle Nadab. 29Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma fe’n lladd pob aelod o deulu Jeroboam. Gafodd neb o’r teulu brenhinol ei adael ar ôl, fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio drwy ei was Achïa o Seilo. 30Digwyddodd hyn o achos yr eilunod wnaeth Jeroboam eu codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd wedi gwylltio’r ARGLWYDD, Duw Israel.
31Mae gweddill hanes Nadab, a’r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. 32Roedd Asa, brenin Jwda, a Baasha, brenin Israel yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy’r amser.
Baasha, brenin Israel
33Yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda, daeth Baasha yn frenin ar Israel yn ninas Tirtsa. Bu Baasha’n frenin am ddau ddeg pedair o flynyddoedd. 34Gwnaeth Baasha bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn yr un fath â Jeroboam, ac yn gwneud i Israel bechu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015