No themes applied yet
Byw i Dduw
1Felly, am fod y Meseia wedi dioddef yn gorfforol, byddwch chithau’n barod i wneud yr un peth. Mae’r rhai hynny sy’n barod i ddioddef yn gorfforol wedi troi cefn ar bechod. 2Yn lle byw gweddill eich bywydau yn ceisio bodloni eich chwantau dynol, gwnewch beth mae Duw eisiau. 3Dych chi wedi treulio digon o amser yn y gorffennol yn gwneud beth mae’r paganiaid yn mwynhau ei wneud – byw’n anfoesol yn rhywiol a gadael i’r chwantau gael penrhyddid, meddwi a slotian yfed mewn partïon gwyllt, a phopeth ffiaidd arall sy’n digwydd wrth addoli eilun-dduwiau. 4Maen nhw bellach yn meddwl ei bod yn rhyfedd iawn eich bod chi ddim yn dal i ymuno gyda nhw nac yn cael eich cario gyda’r llif i’r math yna o fywyd ofer. Felly maen nhw’n eich rhegi a’ch enllibio chi. 5Ond bydd rhaid iddyn nhw wynebu Duw, yr un sy’n mynd i farnu pawb sy’n fyw a phawb sydd wedi marw. 6(Dyna pam y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi i’r rhai sydd wedi marw. Er eu bod nhw wedi’u cosbi yn y bywyd hwn ac wedi marw fel pawb arall, byddan nhw’n cael byw gyda Duw drwy’r Ysbryd!)
7Bydd popeth yn dod i ben yn fuan. Felly cadwch eich meddwl yn glir ac yn effro wrth weddïo. 8Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau.4:8 Dywediad yn seiliedig ar Diarhebion 10:12 9Agorwch eich cartrefi i’ch gilydd – bod yn groesawgar, a pheidio cwyno. 10Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu’i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni drwy wasanaethu pobl eraill. 11Dylai pwy bynnag sy’n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo’i ddweud. Dylai pwy bynnag sy’n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda’r nerth mae Duw yn ei roi. Wedyn bydd Duw yn cael ei ganmol a’i addoli drwy’r cwbl, o achos beth wnaeth Iesu Grist. Ie, fe sydd biau’r anrhydedd i gyd, a’r grym hefyd, a hynny am byth! Amen!
Dioddef am eich bod yn Gristion
12Ffrindiau annwyl, peidiwch synnu eich bod chi’n mynd drwy’r ffwrn dân ar hyn o bryd, fel petai rhywbeth annisgwyl yn digwydd i chi. 13Dylech chi fod yn hapus am eich bod yn cael dioddef fel y gwnaeth y Meseia. Pan fydd e’n dod i’r golwg eto yn ei holl ysblander cewch brofi llawenydd cwbl wefreiddiol. 14Mae’n fendith fawr i chi gael eich sarhau am eich bod yn dilyn y Meseia, am ei fod yn dangos fod Ysbryd yr Un gogoneddus, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys4:14 adlais o Eseia 11:2 arnoch chi. 15Ddylai neb ohonoch chi ddioddef am fod yn llofrudd neu’n lleidr neu am gyflawni rhyw drosedd arall – na hyd yn oed am fusnesa. 16Ond peidiwch bod â chywilydd os ydych chi’n dioddef am fod yn Gristion – dylech ganmol Duw am i chi gael y fraint o’i gynrychioli. 17Mae’n bryd i’r farn ddechrau, a phobl Dduw ydy’r rhai cyntaf i gael eu barnu. Ac os ydyn ni’n cael ein barnu gyntaf, beth fydd yn digwydd i’r rhai hynny sydd ddim yn ufudd i newyddion da Duw? 18Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
“Os mai o drwch blewyn mae’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dianc
beth ddaw o bobl annuwiol sy’n anufudd i Dduw?”4:18 Diarhebion 11:31 (LXX)
19Felly, os dych chi’n dioddef am mai dyna ewyllys Duw, dylech ymddiried eich hunain i ofal y Duw ffyddlon wnaeth eich creu chi, a dal ati i wneud daioni.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015