No themes applied yet
At arweinwyr yr eglwys a’r rhai ifanc
1Gair i chi sy’n arweinwyr yn yr eglwys. (Dw i am eich annog chi fel un sy’n arweinydd fy hun, ac a welodd y Meseia’n dioddef. Bydda i hefyd yn rhannu ei ysblander pan ddaw i’r golwg!): 2Gofalwch am bobl Dduw fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu praidd. Gwnewch hynny’n frwd, dim am eich bod chi’n cael eich gorfodi i wneud, ond am mai dyna mae Duw eisiau. Ddim er mwyn gwneud arian, ond am eich bod yn awyddus i wasanaethu. 3Peidiwch ei lordio hi dros y bobl sy’n eich gofal chi, ond eu harwain drwy fod yn esiampl dda iddyn nhw. 4Wedyn pan fydd y Meseia, y Pen Bugail, yn dod yn ôl, cewch wobr fydd byth yn dod i ben: coron hardd sydd byth yn gwywo.
5A chi’r rhai ifanc yr un fath. Dylech chi fod yn atebol i’r arweinwyr hŷn. Dylai pob un ohonoch chi edrych ar ôl eich gilydd yn wylaidd. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
“Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch
ond mae’n hael at y rhai gostyngedig.”5:5 Diarhebion 3:34 (LXX)
6Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw’r amser bydd e’n eich anrhydeddu chi. 7Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi.
8Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae’ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i’w lyncu. 9Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi’n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy’r byd i gyd yn dioddef yr un fath.
10Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy’n perthyn i’r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a’ch cryfhau chi, a’ch gwneud chi’n gadarn a sefydlog. 11Fe sydd biau’r grym i gyd, am byth! Amen!
Cyfarchion i gloi
12Dw i’n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas5:12 Silas: Groeg, Silfanos, sef ffurf arall i’r un enw. (un dw i’n ei ystyried yn frawd ffyddlon). Dw i wedi ceisio’ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn.
13Mae’r gynulleidfa o bobl mae Duw wedi’u dewis yma yn Rhufain5:13 Rhufain: Groeg, “Babilon” (oedd yn llysenw am ddinas Rhufain). yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Ac mae Marc, sydd fel mab i mi, yn cofio atoch chi hefyd. 14Cyfarchwch eich gilydd mewn ffordd sy’n dangos cariad go iawn. Dw i’n gweddïo y bydd pob un ohonoch chi sy’n perthyn i’r Meseia yn profi ei heddwch dwfn.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015