No themes applied yet
Goliath yn herio byddin Israel
1Casglodd y Philistiaid eu byddin at ei gilydd yn Socho yn Jwda, i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi codi gwersyll yn Effes-dammîm rhwng Socho ac Aseca.17:1 Socho ac Aseca Roedd Socho ar diriogaeth pobl Israel, ac Aseca yn yr ardal oedd y Philistiaid yn ei rheoli. Tua 18 milltir i’r de-orllewin o Jerwsalem. 2Roedd Saul a byddin Israel hefyd wedi codi gwersyll yn Nyffryn Ela, ac yn sefyll yn rhengoedd yn barod i ymladd yn erbyn y Philistiaid. 3Roedd y Philistiaid ar ben un bryn a’r Israeliaid ar ben bryn arall, gyda’r dyffryn rhyngddyn nhw.
4Daeth milwr o’r enw Goliath o dref Gath allan o wersyll y Philistiaid i herio’r Israeliaid. Roedd e dros naw troedfedd o daldra! 5Roedd yn gwisgo helmed bres, arfwisg bres oedd yn pwyso bron chwe deg cilogram, 6a phadiau pres ar ei goesau. Roedd cleddyf cam pres yn hongian dros ei ysgwydd. 7Roedd coes ei waywffon fel trawst ffrâm gwehydd, a’i phig haearn yn pwyso tua saith cilogram. Ac roedd gwas yn cario’i darian o’i flaen. 8Dyma fe’n sefyll a gweiddi ar fyddin Israel, “Pam dych chi’n paratoi i ryfela? Philistiad ydw i, a dych chi’n weision i Saul. Dewiswch un dyn i ddod i lawr yma i ymladd hefo fi! 9Os gall e fy lladd i, byddwn ni’n gaethweision i chi. Ond os gwna i ei ladd e yna chi fydd yn gaethweision i ni.” 10Yna gwaeddodd eto, “Dw i’n eich herio chi heddiw, fyddin Israel. Dewiswch ddyn i ymladd yn fy erbyn i!” 11Pan glywodd Saul a dynion Israel hyn dyma nhw’n dechrau panicio; roedd ganddyn nhw ofn go iawn.
Jesse yn anfon Dafydd i wersyll Israel
12Roedd Dafydd yn fab i Jesse o deulu Effratha, oedd yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth mab, a phan oedd Saul yn frenin roedd e’n ddyn mewn oed a pharch mawr iddo. 13Roedd ei dri mab hynaf – Eliab, Abinadab a Shamma – wedi dilyn Saul i’r rhyfel. 14Dafydd oedd y mab ifancaf. Tra oedd y tri hynaf ym myddin Saul 15byddai Dafydd yn mynd yn ôl a blaen rhwng gwasanaethu Saul ac edrych ar ôl defaid ei dad yn Bethlehem. 16Yn y cyfamser, roedd y Philistiad yn dod allan i herio byddin Israel bob dydd, fore a nos. Gwnaeth hyn am bedwar deg diwrnod.
17Un diwrnod dyma Jesse yn dweud wrth Dafydd, “Plîs, brysia draw i’r gwersyll at dy frodyr. Dos â sachaid17:17 sachaid Hebraeg, Effa, sef tua 10 cilogram. o rawn wedi’i grasu a deg torth iddyn nhw. 18A chymer y deg darn yma o gaws i’w roi i’r capten. Ffeindia allan sut mae pethau’n mynd, a thyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw’n iawn. 19Maen nhw yn Nyffryn Ela gyda Saul a byddin Israel yn ymladd y Philistiaid.”
20Cododd Dafydd ben bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall. Llwythodd ei bac a mynd fel roedd Jesse wedi dweud wrtho. Dyma fe’n cyrraedd y gwersyll wrth i’r fyddin fynd allan i’w rhengoedd yn barod i ymladd, yn gweiddi “I’r gad!” 21Roedd yr Israeliaid a’r Philistiaid yn wynebu’i gilydd yn eu rhengoedd.
22Gadawodd Dafydd y pac oedd ganddo gyda’r swyddog cyfarpar, a rhedeg i ganol y rhengoedd at ei frodyr i holi eu hanes. 23Tra oedd e’n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A chlywodd Dafydd e. 24Pan welodd milwyr Israel e, dyma nhw i gyd yn cilio’n ôl; roedd ganddyn nhw ei ofn go iawn. 25Roedden nhw’n dweud wrth ei gilydd, “Ydych chi’n gweld y dyn yna sy’n dod i fyny? Mae’n gwneud hyn i wawdio pobl Israel. Mae’r brenin wedi addo arian mawr i bwy bynnag sy’n ei ladd e. Bydd y dyn hwnnw’n cael priodi merch y brenin, a fydd teulu ei dad byth yn gorfod talu trethi eto.”
26Dyma Dafydd yn holi’r dynion o’i gwmpas, “Be fydd y wobr i’r dyn sy’n lladd y Philistiad yma, ac yn stopio’r sarhau yma ar Israel? Pwy mae’r pagan yna’n meddwl ydy e, yn herio byddin y Duw byw?” 27A dyma’r milwyr yn dweud wrtho beth oedd wedi cael ei addo. “Dyna fydd gwobr pwy bynnag sy’n ei ladd e,” medden nhw.
28Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â’r dynion o’i gwmpas, ac roedd wedi gwylltio gydag e. “Pam ddest ti i lawr yma?” meddai. “Pwy sy’n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i’n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.” 29“Be dw i wedi’i wneud nawr?” meddai Dafydd. “Dim ond holi oeddwn i.” 30A dyma fe’n troi oddi wrtho a gofyn yr un peth eto i rywun arall. A chafodd yr un ateb ag o’r blaen.
Dafydd yn lladd Goliath
31Roedd yna rai wedi sylwi ar y diddordeb roedd Dafydd yn ei ddangos, a dyma nhw’n mynd i ddweud wrth Saul; a chafodd Dafydd ei alw ato. 32Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i’n barod i ymladd y Philistiad yna!” 33“Alli di ddim ymladd yn ei erbyn e!” meddai Saul. “Dim ond bachgen wyt ti! Mae e wedi bod yn filwr ar hyd ei oes!” 34Atebodd Dafydd, “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o’r praidd. 35Bydda i’n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o’i geg. Petai’n ymosod arna i, byddwn i’n gafael ynddo gerfydd ei wddf, ei daro, a’i ladd. 36Syr, dw i wedi lladd llew ac arth; a bydda i’n gwneud yr un fath i’r pagan o Philistiad yma, am ei fod wedi herio byddin y Duw byw! 37Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth fy achub i rhag y llew a’r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!” Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A’r ARGLWYDD fo gyda ti.”
38Dyma Saul yn rhoi ei arfwisg e’i hun i Dafydd ei gwisgo – helmed bres ar ei ben, a’i arfwisg bres amdano. 39Wedyn, dyma Dafydd yn rhwymo cleddyf Saul am ei ganol a cheisio cerdded. Ond roedd e’n methu. “Alla i ddim cerdded yn y rhain,” meddai e wrth Saul. “Dw i ddim wedi arfer gyda nhw.” Felly tynnodd nhw i ffwrdd. 40Gafaelodd yn ei ffon fugail, dewisodd bum carreg lefn o’r sychnant a’u rhoi yn ei fag bugail. Yna aeth i wynebu’r Philistiad gyda’i ffon dafl yn ei law.
41Roedd y Philistiad yn dod yn nes at Dafydd gyda’i was yn cario’i darian o’i flaen. 42Pan welodd e Dafydd roedd e’n ei wfftio am mai bachgen oedd e – bachgen ifanc, golygus, iach yr olwg. 43A dyma fe’n dweud wrth Dafydd, “Wyt ti’n meddwl mai ci ydw i, dy fod yn dod allan yn fy erbyn i â ffyn?” Ac roedd e’n rhegi Dafydd yn enw ei dduwiau, 44a gweiddi, “Tyrd yma i mi gael dy roi di’n fwyd i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt!” 45Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti’n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i’n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD hollbwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti’n ei herio. 46Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i’n mynd i dy ladd di a thorri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw. 47A bydd pawb sydd yma yn dod i weld mai nid gyda chleddyf a gwaywffon mae’r ARGLWYDD yn achub. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e’n eich rhoi chi yn ein gafael ni.” 48Dyma’r Philistiad yn symud yn nes at Dafydd i ymosod arno. A dyma Dafydd yn rhedeg at y rhengoedd i’w gyfarfod. 49Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a’i hyrddio at y Philistiad gyda’i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr. 50(Dyna sut wnaeth Dafydd guro’r Philistiad gyda ffon-dafl a charreg. Doedd ganddo ddim cleddyf hyd yn oed!) 51Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe’n tynnu cleddyf y Philistiad allan o’r wain, ei ladd, a thorri ei ben i ffwrdd.
Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi’i ladd, dyma nhw’n ffoi. 52Yna rhuthrodd byddin Israel a Jwda ymlaen gan weiddi “I’r gad!”, a mynd ar ôl y Philistiaid ar hyd y dyffryn nes cyrraedd giatiau tref Ecron. Roedd cyrff y Philistiaid yn gorwedd yr holl ffordd o Shaaraim i Gath ac Ecron. 53Pan ddaeth dynion Israel yn ôl wedi’r ymlid gwyllt ar ôl y Philistiaid dyma nhw’n ysbeilio’u gwersyll.
54(Aeth Dafydd â pen y Philistiad i Jerwsalem, ond cadwodd ei arfau yn ei babell.)
55Pan welodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten y fyddin, “Mab i bwy ydy’r bachgen acw, Abner?” “Dw i wir17:55 Dw i wir Hebraeg, “mor sicr â dy fod ti’n fyw”. ddim yn gwybod, syr,” atebodd Abner. 56A dyma’r brenin yn dweud wrtho, “Dos i holi mab i bwy ydy e.” 57Felly pan ddaeth Dafydd yn ôl ar ôl lladd y Philistiad, dyma Abner yn mynd ag e at y brenin. Roedd pen y Philistiaid yn ei law. 58A dyma Saul yn gofyn iddo, “Mab i bwy wyt ti, machgen i?” Atebodd Dafydd, “Mab dy was Jesse o Fethlehem.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015