No themes applied yet
Dafydd yn dianc oddi wrth Saul
1Aeth Dafydd i Nob,21:1 Nob Rhyw ddwy filltir i’r gogledd o Jerwsalem. lle roedd Achimelech21:1 Roedd Achimelech yn fab i Achitwf, ac yn or-ŵyr i Eli; roedd hefyd yn frawd i Achïa oedd yn gaplan i Saul (gw. 1 Samuel 14:2,3). yn offeiriad. Roedd Achimelech yn nerfus iawn pan aeth allan at Dafydd, a gofynnodd iddo, “Pam wyt ti ar dy ben dy hun, a neb gyda ti?” 2A dyma Dafydd yn ateb, “Y brenin sydd wedi gofyn i mi wneud rhywbeth. Mae wedi dweud fod neb i gael gwybod pam na ble dw i’n mynd. Dw i wedi trefnu i’r milwyr fy nghyfarfod i mewn lle arbennig. 3Nawr, be wnei di ei roi i mi? Rho bum torth i mi, neu faint bynnag sydd gen ti.” 4Ond dyma’r offeiriad yn ateb, “Does gen i ddim bara cyffredin o gwbl, dim ond y bara sydd wedi’i gysegru i Dduw. Cei hwnnw gen i os ydy’r milwyr ddim wedi cysgu gyda merched neithiwr.”21:4 gyda merched neithiwr Doedd pobl ddim yn gallu cymryd rhan yn yr addoliad neu fwyta mewn gwledd grefyddol y diwrnod ar ôl iddyn nhw gael rhyw (gw. Exodus 19:15; Lefiticus 15:18). 5“Wrth gwrs! Dŷn ni ddim wedi bod yn agos at ferched,” meddai Dafydd. “Dydy’r dynion ddim yn cael mynd at ferched pan maen nhw ar gyrch cyffredin, felly’n sicr ddim heddiw. Maen nhw wedi cysegru’u hunain a’u harfau.” 6Felly dyma’r offeiriad yn rhoi’r bara cysegredig iddo. Doedd ganddo ddim bara arall i’w gynnig. (Dyma’r bara oedd wedi cael ei gymryd oddi ar y bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD, i fara ffres gael ei osod yn ei le pan oedd hi’n amser gwneud hynny.)
7Roedd un o weision Saul yn digwydd bod yno y diwrnod hwnnw. Doedd e ddim yn gallu gadael am ei fod wedi mynd ar lw i’r ARGLWYDD. Doeg oedd ei enw ac roedd yn dod o Edom, a fe oedd fforman bugeiliaid Saul.
8Dyma Dafydd yn gofyn i Achimelech, “Oes gen ti gleddyf neu waywffon yma? Rôn i ar gymaint o frys i ufuddhau i’r brenin, dw i wedi dod heb na chleddyf nac arfau.” 9Meddai’r offeiriad wrtho, “Mae cleddyf Goliath yma – y Philistiad wnest ti ei ladd yn Nyffryn Ela. Mae wedi’i lapio mewn clogyn tu ôl i’r effod. Cei gymryd hwnnw os wyt ti eisiau. Hwnnw ydy’r unig un sydd yma.” Atebodd Dafydd, “Does dim un tebyg iddo! Rho fe i mi.”
10Felly dyma Dafydd yn mynd yn ei flaen y diwrnod hwnnw, a ffoi oddi wrth Saul at Achish brenin Gath.21:10 Gath un o drefi y Philistiaid. 11Ond pan gyrhaeddodd dyma swyddogion Achish yn dweud, “Onid Dafydd ydy hwn, brenin y wlad? Onid am hwn roedden nhw’n canu wrth ddawnsio:
‘Mae Saul wedi lladd miloedd,
ond Dafydd ddegau o filoedd.’?”
12Roedd clywed hyn yn codi ofn ar Dafydd. Beth fyddai Achish, brenin Gath, yn ei wneud iddo? 13Felly dyma Dafydd yn dechrau ymddwyn yn od o’u blaenau nhw, a chymryd arno ei fod yn wallgof. Roedd rhaid iddyn nhw ei atal. Roedd e’n crafu drysau’r giât ac yn slefrian poer i lawr ei farf. 14A dyma Achish yn dweud wrth ei swyddogion, “Edrychwch mae’r dyn yn wallgof! Pam ddaethoch chi ag e ata i? 15Mae gen i ddigon o ffyliaid o’m cwmpas heb i chi ddod â hwn i actio’r ffŵl o mlaen i! Ewch â fe i ffwrdd o’r palas!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015