No themes applied yet
Pobl Israel yn gofyn am frenin
1Pan oedd Samuel wedi mynd yn hen, rhoddodd y gwaith o arwain Israel i’w feibion. 2Joel oedd enw’r hynaf ac Abeia oedd y llall. Roedd eu llys nhw yn Beersheba.8:2 Beersheba Hanner can milltir i’r de o Jerwsalem. 3Ond doedden nhw ddim yr un fath â’u tad. Roedden nhw’n twyllo er mwyn cael arian, ac yn derbyn breib am roi dyfarniad annheg. 4Felly dyma arweinwyr Israel yn cyfarfod â’i gilydd a mynd i weld Samuel yn Rama. 5Medden nhw wrtho, “Ti’n mynd yn hen a dydy dy feibion ddim yn dilyn dy esiampl di. Felly gad i ni gael brenin i’n harwain, yr un fath â’r gwledydd eraill i gyd.”
6Doedd y cais yma am frenin ddim yn plesio Samuel o gwbl. Felly dyma fe’n gweddïo ar yr ARGLWYDD. 7A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Gwna bopeth mae’r bobl yn ei ofyn. Dim ti maen nhw’n ei wrthod; fi ydy’r un maen nhw wedi’i wrthod fel eu brenin. 8Mae’r un hen stori eto! Maen nhw wedi gwneud hyn ers i mi ddod â nhw allan o wlad yr Aifft – fy ngwrthod i ac addoli duwiau eraill. A nawr rwyt ti’n cael yr un driniaeth. 9Felly gwna beth maen nhw’n ofyn. Ond rhybuddia nhw’n glir, iddyn nhw ddeall y canlyniadau, a beth fydd y brenin yn ei wneud.”
Samuel yn rhybuddio’r bobl o’r canlyniadau
10Felly dyma Samuel yn rhannu gyda’r bobl oedd yn gofyn am frenin beth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrtho. 11Dwedodd, “Dyma sut fydd y brenin yn eich trin chi: Bydd yn cymryd eich meibion a’u gwneud nhw’n farchogion i yrru ei gerbydau rhyfel ac i fod yn warchodwyr personol iddo. 12Bydd yn gwneud rhai yn gapteiniaid ar unedau o fil neu o hanner cant. Bydd eraill yn gweithio ar ei dir e ac yn casglu’r cnydau. Yna eraill eto yn gwneud arfau ac offer ar gyfer ei gerbydau rhyfel. 13Bydd yn cymryd eich merched hefyd i gymysgu persawr, i goginio ac i bobi bara iddo. 14Bydd yn cymryd eich caeau, a’ch gwinllannoedd a’ch gerddi olewydd gorau, a’u rhoi i’w swyddogion. 15Bydd yn hawlio treth o un rhan o ddeg o’ch grawn a’ch gwin a’i roi i weision y palas a’r swyddogion eraill. 16Bydd yn cymryd eich gweision a’ch morynion, eich gwartheg gorau a’ch asynnod, i weithio iddo fe’i hun. 17A bydd yn cymryd un o bob deg o’ch defaid a’ch geifr. Byddwch chi’n gaethweision iddo! 18Bryd hynny byddwch chi’n cwyno am y brenin wnaethoch chi ei ddewis, a fydd Duw ddim yn gwrando arnoch chi.”
19Ond doedd y bobl ddim am wrando ar Samuel. “Na,” medden nhw, “dŷn ni eisiau brenin. 20Dŷn ni eisiau bod yr un fath â’r gwledydd eraill i gyd. Dŷn ni eisiau brenin i lywodraethu arnon ni, a’n harwain ni i ryfel.”
21Ar ôl gwrando ar bopeth ddwedodd y bobl, dyma Samuel yn mynd i ddweud am y cwbl wrth yr ARGLWYDD. 22“Gwna beth maen nhw’n ei ofyn,” meddai’r ARGLWYDD wrth Samuel, “a rho frenin iddyn nhw.” Felly dyma Samuel yn dweud wrth ddynion Israel, “Ewch adre i gyd.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015