No themes applied yet
Gwaith Paul yn Thesalonica
1A ffrindiau, dych chi’ch hunain yn gwybod bod ein hymweliad ni ddim wedi bod yn wastraff amser. 2Er ein bod ni wedi dioddef a chael ein cam-drin yn Philipi, dyma Duw yn rhoi’r hyder i ni i fynd ymlaen i rannu ei newyddion da gyda chi, er gwaetha’r holl wrthwynebiad.2:2 gw. Actau 16:19-24; 17:1-9 3Doedden ni ddim yn dweud celwydd wrth geisio’ch argyhoeddi chi, nac yn gwneud dim o gymhellion anghywir, nac yn ceisio’ch tricio chi. 4Na, fel arall yn hollol! Dŷn ni’n cyhoeddi’r neges am fod Duw wedi’n trystio ni gyda’r newyddion da. Dim ceisio plesio pobl dŷn ni’n ei wneud, ond ceisio plesio Duw. Mae e’n gwybod beth sy’n ein calonnau ni. 5Dych chi’n gwybod ein bod ni ddim wedi ceisio’ch seboni chi. A doedden ni ddim yn ceisio dwyn eich arian chi chwaith – mae Duw’n dyst i hynny! 6Doedden ni ddim yn chwilio am ganmoliaeth gan bobl – gynnoch chi na neb arall.
7Gallen ni fod wedi gofyn i chi’n cynnal ni, gan ein bod ni’n gynrychiolwyr personol i’r Meseia, ond wnaethon ni ddim. Buon ni’n addfwyn gyda chi, fel mam yn magu ei phlant ar y fron. 8Gan ein bod ni’n eich caru chi gymaint, roedden ni’n barod i roi’n bywydau drosoch chi yn ogystal â rhannu newyddion da Duw gyda chi. Roeddech chi mor annwyl â hynny yn ein golwg ni. 9Dych chi’n siŵr o fod yn cofio mor galed y buon ni’n gweithio pan oedden ni acw. Buon ni wrthi’n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i’n cynnal ni tra oedden ni’n pregethu newyddion da Duw i chi.
10Dych chi’n dystion, ac mae Duw’n dyst hefyd, ein bod ni wedi bod yn ddidwyll, yn deg a di-fai yn y ffordd wnaethon ni eich trin chi ddaeth i gredu. 11Roedden ni’n trin pob un ohonoch chi fel mae tad yn trin ei blant – 12yn eich calonogi chi a’ch cysuro chi a’ch annog chi i fyw fel mae Duw am i chi fyw. Mae e wedi’ch galw chi i fyw dan ei deyrnasiad e, ac i rannu ei ysblander.
13Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw eich bod chi wedi derbyn y neges roedden ni’n ei chyhoeddi am beth oedd hi go iawn – neges gan Dduw, dim syniadau dynol. Ac mae’n amlwg fod Duw ar waith yn eich bywydau chi sy’n credu. 14Ffrindiau, mae’r un peth wedi digwydd i chi ag a ddigwyddodd i eglwysi Duw yn Jwdea sy’n gwasanaethu’r Meseia Iesu. Mae eich pobl eich hunain wedi gwneud i chi ddioddef yn union fel gwnaeth yr arweinwyr Iddewig iddyn nhw ddioddef. 15Nhw ydy’r bobl laddodd yr Arglwydd Iesu a’r proffwydi, a nhw sy’n ein herlid ni bellach. Maen nhw’n gwneud Duw yn ddig! Maen nhw’n elynion i’r ddynoliaeth gyfan 16am eu bod nhw’n ceisio ein rhwystro ni rhag cyhoeddi’r newyddion da er mwyn i bobl o genhedloedd eraill gael eu hachub. Maen nhw’n pentyrru eu pechodau yn ddiddiwedd wrth ymddwyn fel yma. Ond mae cosb Duw’n mynd i’w dal nhw yn y diwedd.
Paul yn hiraethu am gael gweld y Thesaloniaid
17Ffrindiau, yn fuan iawn ar ôl i ni gael ein gwahanu oddi wrthoch chi (dim ond yn gorfforol – achos roeddech chi’n dal ar ein meddyliau ni), roedden ni’n hiraethu am gael eich gweld chi eto. Roedden ni’n benderfynol o ddod yn ôl i’ch gweld chi. 18Dw i, Paul, wedi bwriadu dod sawl tro, ond mae Satan wedi’n rhwystro ni. 19Wedi’r cwbl, chi sy’n rhoi gobaith i ni! Chi sy’n ein gwneud ni mor hapus! Chi ydy’r goron fyddwn ni mor falch ohoni pan safwn ni o flaen ein Harglwydd Iesu ar ôl iddo ddod yn ôl! 20Ie, chi! Chi ydy’n diléit ni! Dŷn ni mor falch ohonoch chi!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015