No themes applied yet
1Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol y Meseia Iesu – wedi fy anfon gan y Duw sy’n ein hachub ni, a’r Meseia, yr un mae’n gobaith ni ynddo.
2Timotheus,1:2 gw. Actau 16:1 rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd:
Dw i’n gweddïo y byddi di’n profi’r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Meseia Iesu ein Harglwydd yn ei roi i ni.
Rhybudd rhag ffug athrawon y Gyfraith
3Fel y gwnes i pan oeddwn i’n teithio i dalaith Macedonia, dw i’n pwyso arnat ti eto i aros yn Effesus. Rhaid i ti roi stop ar y rhai hynny sy’n dysgu pethau sydd ddim yn wir, 4yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dŷn nhw’n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu. 5Y rheswm pam dw i’n dweud hyn ydy am fy mod i eisiau i Gristnogion garu ei gilydd. Dw i am i’w cymhellion nhw fod yn bur, eu cydwybod nhw’n lân, ac eisiau iddyn nhw drystio Duw go iawn. 6Mae rhai wedi crwydro oddi wrth y pethau yma. Maen nhw’n treulio eu hamser yn siarad nonsens! 7Maen nhw’n honni bod yn arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig, ond does ganddyn nhw ddim clem! Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n sôn amdano er eu bod nhw’n siarad mor awdurdodol!
8Dŷn ni’n gwybod fod Cyfraith Duw yn dda os ydy hi’n cael ei thrin yn iawn. 9Dŷn ni’n gwybod hefyd mai dim ar gyfer y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn y cafodd y Gyfraith ei rhoi. Mae hi ar gyfer y bobl hynny sy’n anufudd ac yn gwrthryfela, pobl annuwiol a phechadurus, pobl sy’n parchu dim ac yn ystyried dim byd yn gysegredig. Ar gyfer y rhai sy’n lladd eu tadau a’u mamau, llofruddion, 10pobl sy’n pechu’n rhywiol, yn wrywgydwyr gweithredol, pobl sy’n prynu a gwerthu caethweision, yn dweud celwydd, ac sy’n rhoi tystiolaeth gelwyddog, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy’n groes i ddysgeidiaeth gywir. 11Mae dysgeidiaeth felly yn gyson â’r newyddion da sy’n dweud wrthon ni mor wych ydy’r Duw bendigedig! Dyma’r newyddion da mae e wedi rhoi’r cyfrifoldeb i mi ei gyhoeddi.
Haelioni’r Arglwydd at Paul
12Dw i mor ddiolchgar fod ein Harglwydd, y Meseia Iesu, yn gweld ei fod yn gallu dibynnu arna i. Fe sy’n rhoi’r nerth i mi, ac mae wedi fy newis i weithio iddo. 13Cyn dod yn Gristion roeddwn i’n arfer cablu ei enw; roeddwn i’n erlid y bobl oedd yn credu ynddo, ac yn greulon iawn atyn nhw.1:13 gw. Actau 8:3; 9:4,5 Ond roedd Duw yn garedig ata i – doeddwn i ddim yn credu nac yn sylweddoli beth oeddwn i’n ei wneud. 14Roedd yr Arglwydd mor anhygoel o garedig ata i! Des i gredu, a chael fy llenwi â’r cariad sy’n dod oddi wrth y Meseia Iesu.
15Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb ei gredu: Daeth y Meseia Iesu i’r byd i achub pechaduriaid – a fi ydy’r gwaetha ohonyn nhw. 16Ond mae Duw wedi maddau i mi, y pechadur gwaetha, er mwyn i bawb weld amynedd di-ben-draw y Meseia Iesu! Dw i’n esiampl berffaith o’r math o bobl fyddai’n dod i gredu ynddo ac yn derbyn bywyd tragwyddol. 17Mae e’n haeddu ei anrhydeddu a’i foli am byth bythoedd! Fe ydy’r Brenin am byth! Fe ydy’r Duw anfarwol, anweledig! Fe ydy’r unig Dduw sy’n bod! Amen!
18Timotheus, fy mab, dw i’n rhoi siars i ti (yn gyson â beth sydd wedi’i broffwydo amdanat ti): Mae’n bwysig dy fod ti’n ymladd yn dda yn y frwydr. 19Dal dy afael yn beth rwyt ti’n ei gredu, a chadw dy gydwybod yn lân. Mae rhai wedi dewis peidio gwneud hynny, ac o ganlyniad mae eu ffydd wedi’i dryllio. 20Mae Hymenaeus ac Alecsander yn enghreifftiau o’r peth. Dw i wedi’u taflu nhw allan o’r eglwys er mwyn iddyn nhw ddysgu peidio cablu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015