No themes applied yet
1Felly ffrindiau annwyl, am fod Duw wedi addo’r pethau yma i ni, gadewch i ni lanhau’n hunain o unrhyw beth allai’n gwneud ni’n aflan. Am fod Duw i’w ofni, gadewch i ni gyrraedd at y nod o roi’n hunain iddo yn bobl lân.
Llawenydd Paul
2Derbyniwch ni. Wnaethon ni ddim cam â neb, na gwneud niwed i neb, na chymryd mantais o neb. 3Dw i ddim yn ceisio gweld bai arnoch chi drwy ddweud hyn. Fel dwedais i, dych chi’n sbesial iawn yn ein golwg ni. Fydd ein cariad ni ddim llai, doed a ddelo – byw neu farw 4Mae gen i hyder ynoch chi. Dw i wir yn falch ohonoch chi. Dw i wedi fy nghalonogi’n fawr. Dw i’n wirioneddol hapus er gwaetha’r holl drafferthion.
5Beth bynnag, pan gyrhaeddon ni dalaith Macedonia chawson ni ddim llonydd wedyn. Roedd trafferthion bob cam o’r ffordd! Gwrthwynebiad pobl o’r tu allan, ac ofnau o’n mewn ni. 6Ond mae Duw’n cysuro’r rhai sy’n ddigalon, a dyma fe’n ein cysuro ni pan ddaeth Titus aton ni. 7Roedd yn braf ei weld, ond hefyd i gael deall fel roeddech chi wedi’i gysuro fe. Roedd yn dweud fod gynnoch chi hiraeth amdanon ni, eich bod chi’n sori am beth ddigwyddodd, ac yn wirioneddol awyddus i bethau fod yn iawn rhyngon ni. Rôn i’n hapusach fyth wedyn!
8Dw i ddim yn sori mod i wedi anfon y llythyr,7:8 y llythyr: Does dim copi ar gael o’r llythyr yma ysgrifennodd Paul at eglwys Corinth. er ei fod wedi’ch brifo chi. Rôn i yn sori i ddechrau, wrth weld eich bod chi wedi cael eich brifo. Ond doedd hynny ddim ond dros dro. 9Felly dw i’n hapus bellach – dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna’r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi. 10Mae’r math o dristwch mae Duw am ei weld yn gwneud i bobl newid eu ffyrdd a chael eu hachub. Dydy hynny byth yn rhywbeth i’w ddifaru! Ond dydy teimlo’n annifyr am rywbeth, heb droi at Dduw, ddim ond yn arwain i farwolaeth ysbrydol. 11Edrychwch beth mae’r tristwch mae Duw’n edrych amdano wedi’i wneud ynoch chi: mae wedi creu brwdfrydedd ac awydd i sortio’r peth allan, ac wedi’ch gwneud chi mor ddig fod y fath beth wedi digwydd. Mae wedi creu y fath barch ata i, y fath hiraeth amdana i, y fath sêl, y fath barodrwydd i gosbi’r troseddwr. Drwy’r cwbl i gyd dych wedi profi fod dim bai arnoch chi. 12Felly, roeddwn i’n ysgrifennu atoch chi fel gwnes i, dim i ddelio gyda’r un wnaeth y drwg, nac i ddangos fy mod i fy hun wedi cael cam. Rôn i’n ysgrifennu er eich mwyn chi! – i chi weld drosoch eich hunain mor bwysig ydy’n perthynas ni. Mae Duw’n gwybod!
13Felly dŷn ni wedi cael ein calonogi’n fawr! Ond yn fwy na hynny, roedden ni’n arbennig o falch o weld mor hapus oedd Titus. Cafodd y fath groeso gynnoch chi i gyd, ac mae wedi codi ei galon yn fawr. 14Rôn i wedi bod yn brolio amdanoch chi wrtho, a wnaethoch chi ddim fy siomi i. Yn union fel mae popeth dŷn ni wedi’i ddweud wrthoch chi’n wir, mae beth ddwedon ni amdanoch chi wrth Titus wedi troi allan i fod yn wir hefyd. 15Mae wedi dod mor hoff ohonoch chi. Mae e’n cofio sut fuoch chi i gyd mor ufudd, a dangos y fath barch a chonsýrn. 16Dw i’n hapus iawn, am fy mod i’n gallu ymddiried yn llwyr ynoch chi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015