No themes applied yet
1Does dim wir angen i mi ysgrifennu atoch chi am y casgliad yma i helpu Cristnogion Jerwsalem. 2Dw i’n gwybod eich bod chi’n awyddus i helpu. Dw i wedi bod yn sôn am y peth wrth bobl Macedonia, ac yn dweud wrthyn nhw eich bod chi yn nhalaith Achaia wedi bod yn barod ers y flwyddyn ddiwethaf. Clywed am eich brwdfrydedd chi sydd wedi ysgogi y rhan fwya ohonyn nhw i wneud rhywbeth! 3Ond dw i’n anfon y brodyr yma atoch chi er mwyn gwneud yn siŵr y bydd ein brolio ni amdanoch ddim yn troi allan i fod yn wag, ac y byddwch yn barod, fel dw i wedi dweud y byddwch chi. 4Os bydd rhai o dalaith Macedonia gyda ni pan ddown ni i’ch gweld chi, a darganfod eich bod chi ddim yn barod, byddwn ni, heb sôn amdanoch chi, yn teimlo cywilydd go iawn. 5Dyna pam o’n i’n teimlo bod rhaid anfon y brodyr atoch chi ymlaen llaw. Byddan nhw’n gallu gwneud trefniadau i dderbyn y rhodd dych chi wedi’i haddo. Bydd yn disgwyl amdanon ni wedyn fel rhodd sy’n dangos mor hael ydych chi, a dim fel rhywbeth wedi’i wasgu allan ohonoch chi.
Hau yn hael
6Cofiwch hyn: Os mai ychydig dych chi’n ei hau, bach fydd y cynhaeaf; ond os dych chi’n hau yn hael, cewch gynhaeaf mawr. 7Dylai pob un ohonoch chi roi o’i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw’n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi.9:7 cyfeiriad at Diarhebion 22:8-9 (LXX) 8Mae Duw’n gallu rhoi mwy na digon o bethau’n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser. 9Fel mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd:
“Mae’r duwiol yn rhoi yn hael i’r tlodion;
bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.”9:9 Salm 112:9
10Duw sy’n rhoi’r had i’r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta.9:10 gw. Eseia 55:10 Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‘had’ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo. 11Bydd yn eich gwneud chi’n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni’n mynd â’ch rhodd chi i Jerwsalem. 12Nid dim ond cwrdd ag angen pobl Dduw mae beth dych chi’n ei wneud – mae’n llawer mwy na hynny. Bydd yn gwneud i lawer o bobl ddweud diolch wrth Dduw. 13Bydd pobl yn moli Duw am fod eich haelioni chi wrth rannu gyda nhw a phawb arall yn profi eich bod chi’n ufudd i’r newyddion da dych wedi’i gredu am y Meseia. 14Byddan nhw’n gweddïo drosoch chi, ac yn hiraethu amdanoch chi, am fod Duw wedi’ch galluogi chi i fod mor hael. 15A diolch i Dduw am ei fod e wedi rhoi rhodd i ni sydd y tu hwnt i eiriau!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015