No themes applied yet
Jehw yn lladd teulu Ahab
1Roedd gan Ahab saith deg o feibion yn Samaria. Felly dyma Jehw yn anfon llythyrau at swyddogion ac arweinwyr Jesreel, ac at y rhai oedd yn gofalu am feibion Ahab. Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud: 2“Mae meibion eich meistr i gyd gyda chi, ac mae gynnoch chi gerbydau a cheffylau, dinas gaerog ac arfau. Felly, pan dderbyniwch chi’r llythyr yma, 3dewiswch chi y gorau a’r mwyaf abl o feibion eich meistr a’i wneud yn frenin yn lle ei dad. Ond yna byddwch barod i amddiffyn llinach eich meistr.” 4Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae dau frenin wedi methu ei stopio fe. Pa obaith sydd gynnon ni?” medden nhw. 5Felly dyma bennaeth y palas, pennaeth y ddinas, yr arweinwyr a’r rhai oedd â gofal am deulu Ahab, yn anfon y neges yma at Jehw: “Dŷn ni am fod yn weision i ti! Dŷn ni’n fodlon gwneud beth bynnag rwyt ti eisiau. Dŷn ni’n bwriadu gwneud neb arall yn frenin. Gwna di beth ti’n feddwl sy’n iawn.”
6Anfonodd Jehw lythyr arall atyn nhw: “Os ydych chi wir ar fy ochr i, ac am fod yn ufudd i mi, yna torrwch bennau meibion Ahab i gyd, a dewch â nhw ata i i Jesreel erbyn yr adeg yma fory.” Pobl bwysig dinas Samaria oedd wedi bod yn magu y saith deg o feibion oedd gan y Brenin Ahab. 7Ond ar ôl derbyn llythyr Jehw, dyma nhw’n eu dal nhw a lladd y cwbl. Yna dyma nhw’n rhoi eu pennau mewn basgedi a’u hanfon i Jesreel. 8Pan ddaeth y neges fod y pennau wedi cyrraedd, dyma Jehw yn dweud, “Rhowch nhw mewn dau bentwr wrth giât y ddinas, a’i gadael nhw yno tan y bore.”
9Yna’r bore wedyn dyma Jehw yn mynd allan yno, a dweud wrth y bobl, “Dych chi ddim ar fai. Fi ydy’r un wnaeth gynllwynio yn erbyn y Brenin Joram, fy meistr, a’i ladd. Ond pwy laddodd y rhain? 10Mae’n hollol amlwg fod popeth ddwedodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi dod yn wir. Fe sydd wedi gwneud yn union fel roedd wedi’i addo drwy ei was Elias.” 11Yna dyma Jehw yn mynd ati i ladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, y rhai oedd wedi bod mewn swyddi amlwg yn ei lys, ei ffrindiau a’r offeiriaid oedd gydag e. Gafodd neb ei adael yn fyw.
Jehw yn lladd perthnasau y Brenin Ahaseia
12Dyma Jehw yn cychwyn am Samaria. Ar y ffordd yno, wrth Beth-eced y Bugeiliaid, 13dyma fe’n dod ar draws rhai o berthnasau Ahaseia, brenin Jwda. “Pwy ydych chi?” gofynnodd iddyn nhw. A dyma nhw’n ateb, “Perthnasau i Ahaseia. Dŷn ni ar ein ffordd i ymweld â plant y brenin a phlant y fam-frenhines.” 14Yna dyma Jehw’n gorchymyn i’w filwyr, “Daliwch nhw’n fyw!” Dyma nhw’n eu dal nhw, ac yna mynd â nhw at bydew Beth-eced a’u lladd nhw i gyd yno, pedwar deg dau ohonyn nhw.
15Wrth adael y fan honno dyma Jehw yn dod ar draws Jonadab fab Rechab oedd wedi bod yn chwilio amdano. Dyma Jehw’n ei gyfarch a gofyn iddo, “Wyt ti’n fy nghefnogi i fel dw i ti?” “Ydw,” meddai Jonadab. “Felly rho dy law i mi,” meddai Jehw. Dyma fe’n estyn ei law, a dyma Jehw yn ei godi ato i’w gerbyd. 16Yna dwedodd wrtho, “Tyrd gyda mi, i ti gael gweld gymaint dw i ar dân dros yr ARGLWYDD.” A dyma Jonadab yn mynd gydag e yn ei gerbyd 17i Samaria. Ar ôl cyrraedd yno, dyma Jehw yn lladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias.
Jehw yn lladd addolwyr Baal
18Wedyn, casglodd Jehw y bobl i gyd at ei gilydd, a dweud, wrthyn nhw, “Roedd Ahab yn addoli Baal rhywfaint, ond dw i, Jehw, yn mynd i’w addoli o ddifrif. 19Dw i am gynnal aberth mawr i Baal. Felly galwch broffwydi Baal i gyd at ei gilydd, a’i addolwyr a’i offeiriaid. Peidiwch a gadael neb allan. Bydd unrhyw un sy’n absennol yn cael ei ladd.” (Ond tric cyfrwys oedd y cwbl. Roedd Jehw yn bwriadu lladd addolwyr Baal.) 20Yna dyma Jehw yn gorchymyn, “Trefnwch ddathliad sbesial i addoli Baal!” A dyma nhw’n gwneud hynny. 21Dyma Jehw yn anfon neges i bob rhan o wlad Israel. A dyma bawb oedd yn addoli Baal yn dod at ei gilydd – doedd neb yn absennol. Roedd teml Baal yn llawn i’r ymylon! 22Yna dyma Jehw yn dweud wrth yr un oedd yn gofalu am y gwisgoedd, “Tyrd â gwisg i bob un o’r addolwyr.” A dyma fe’n gwneud hynny. 23Yna dyma Jehw a Jonadab fab Rechab yn mynd i deml Baal. A dyma Jehw yn dweud wrth addolwyr Baal, “Gwnewch yn siŵr fod yna neb yma sy’n addoli’r ARGLWYDD. Dim ond addolwyr Baal sydd i fod yma.” 24Yna dyma nhw’n dechrau aberthu a chyflwyno offrymau i’w llosgi i Baal. Roedd Jehw wedi gosod wyth deg o ddynion tu allan i’r deml. Ac roedd wedi dweud wrthyn nhw, “Os bydd rhywun yn gadael i un o’r bobl yma ddianc, bydd yn talu gyda’i fywyd!”
25Ar ôl gorffen cyflwyno’r offrwm i’w losgi, dyma Jehw yn rhoi gorchymyn i’r gwarchodlu a’i swyddogion, “Ewch i mewn a lladdwch bawb. Peidiwch gadael i neb ddianc.” A dyma nhw’n eu lladd nhw i gyd a gadael y cyrff yn gorwedd yno. Yna dyma’r gwarchodlu a’r swyddogion yn rhuthro i mewn i gysegr mewnol teml Baal, 26a chymryd y golofn gysegredig allan a’i llosgi. 27Dyma nhw’n dinistrio’r golofn a theml Baal hefyd. Mae’r safle’n cael ei ddefnyddio fel toiledau cyhoeddus hyd heddiw.
28Felly roedd Jehw wedi cael gwared ag addoli Baal o wlad Israel. 29Ond wnaeth e ddim stopio pobl addoli’r eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi’u codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd y ddau darw ifanc aur yn dal yn Bethel ac yn Dan.
30Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Jehw, “Ti wedi gwneud yn dda iawn a’m plesio i, a gwneud beth roeddwn i eisiau’i weld yn digwydd i linach Ahab. Felly, bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.” 31Ac eto doedd Jehw ddim yn gwbl ufudd i ddeddfau’r ARGLWYDD, Duw Israel. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam wedi’u codi i wneud i Israel bechu.
32Tua’r adeg yna dyma’r ARGLWYDD yn dechrau cymryd tir oddi ar Israel. Roedd Hasael yn ymosod ar ffiniau Israel i gyd. 33Concrodd diroedd Gilead, sydd i’r dwyrain o afon Iorddonen (sef tir llwythau Gad, Reuben a Manasse). Tir sy’n ymestyn yr holl ffordd o dref Aroer yn nyffryn Arnon, drwy Gilead i ardal Bashan.
34Mae gweddill hanes Jehw – y cwbl wnaeth e a’i lwyddiant milwrol – i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. 35Pan fuodd Jehw farw, cafodd ei gladdu yn Samaria, a dyma’i fab, Jehoachas, yn dod yn frenin yn ei le. 36Roedd Jehw wedi bod yn frenin ar Israel am ddau ddeg wyth o flynyddoedd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015