No themes applied yet
Babilon yn ymosod ar Jwda
(2 Cronicl 36:6-8)
1Pan oedd Jehoiacim yn frenin, dyma Nebwchadnesar,24:1 Nebwchadnesar Roedd yn teyrnasu ar Babilon o 605 i 562 CC. brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Buodd Jehoiacim dan ei reolaeth am dair blynedd.24:1 am dair blynedd 604–601 CC mae’n debyg. Ond yna dyma fe’n gwrthryfela. 2Dyma’r ARGLWYDD yn anfon grwpiau o filwyr o Babilon, Syria, Moab ac Ammon i ymosod ar Jwda. A dyma nhw’n dinistrio’r wlad fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio drwy ei weision y proffwydi. 3Does dim amheuaeth mai’r ARGLWYDD wnaeth drefnu i hyn ddigwydd. Roedd e am eu gyrru nhw o’i olwg o achos yr holl bethau drwg roedd Manasse wedi’u gwneud. 4Roedd wedi lladd pobl ddiniwed, ac roedd staen eu gwaed ym mhobman drwy Jerwsalem, a doedd yr ARGLWYDD ddim am faddau hynny.
5Mae gweddill hanes Jehoiacim, a’r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 6Pan fuodd Jehoiacim farw daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le. 7Wnaeth brenin yr Aifft ddim dod allan o’i wlad i ymladd eto, am fod brenin Babilon wedi concro’r holl diroedd roedd e’n arfer eu rheoli, o Wadi’r Aifft i afon Ewffrates.
Jehoiachin, brenin Jwda24:7 Jeremeia 22:24-30
(2 Cronicl 36:9-10)
8Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Nechwshta (merch Elnathan o Jerwsalem). 9Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei dad o’i flaen.
10Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae24:10 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu’r ddinas a’i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan. ar Jerwsalem. 11Tra oedden nhw’n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad. 12A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda’i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor.24:12 wyth mlynedd Digwyddodd hyn i gyd yn 597 CC. 13Dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau’r deml i gyd hefyd, a thrysorau’r palas, a malu’r holl lestri aur roedd y Brenin Solomon wedi’u gwneud i’r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio.24:13 rhybuddio gw. 20:16-18. 14A dyma fe’n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a’r milwyr dewr, y crefftwyr a’r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd.
15Aeth â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, gyda’i fam a’i wragedd, swyddogion y palas a phobl fawr y wlad i gyd. 16Aeth â’r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a’r mil o ofaint a gweithwyr metel – pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd. 17Yna dyma frenin Babilon yn gwneud Mataneia (ewythr Jehoiachin) yn frenin, a newid ei enw i Sedeceia.
Sedeceia, brenin Jwda
(2 Cronicl 36:11-12; Jeremeia 52:1-3a)
18Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi’n frenin.24:18 benodi’n frenin Gan Nebwchadnesar (gw. Jeremeia 37:1). Bu’n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna24:18 Jeremeia o Libna Nid y proffwyd (gw. Jeremeia 1:1).). 19Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y Brenin Jehoiacim. 20Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o’i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw. Ond yna dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015