No themes applied yet
Joab yn ceryddu’r brenin
1Dyma rywun yn dweud wrth Joab. “Mae’r brenin yn crio ac yn galaru am Absalom.” 2Pan glywodd y fyddin fod y brenin wedi torri ei galon am fod ei fab wedi marw, dyma’r fuddugoliaeth yn troi’n ddiwrnod o alar i bawb. 3Pan ddaeth y fyddin yn ôl i Machanaîm, roedden nhw’n llusgo i mewn i’r dre fel byddin yn llawn cywilydd am eu bod wedi colli’r frwydr. 4Roedd y brenin â’i wyneb yn ei ddwylo, yn crio’n uchel, “O fy mab Absalom! Absalom, fy mab i, fy mab i!”
5Dyma Joab yn mynd i’r tŷ at y brenin, a dweud, “Mae dy weision wedi achub dy fywyd di a bywydau dy blant, dy wragedd a dy gariadon19:5 gariadon Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. heddiw. A dyma ti, yn codi cywilydd arnyn nhw i gyd! 6Rwyt ti fel petaet ti’n caru’r rhai sy’n dy gasáu, ac yn casáu’r rhai sy’n dy garu di! Mae’n amlwg fod dy swyddogion a’r dynion yma i gyd yn golygu dim i ti. Mae’n siŵr y byddai’n well gen ti petai Absalom yn dal yn fyw, a ninnau i gyd wedi marw! 7Nawr, dos allan yna i longyfarch ac annog dy weision. Dw i’n addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, os na ei di allan fydd gen ti neb ar dy ochr di erbyn heno. Bydd pethau’n waeth arnat ti na fuon nhw erioed o’r blaen!” 8Felly dyma’r brenin yn codi, a mynd allan i eistedd wrth giât y ddinas. Pan ddywedwyd wrth y bobl ei fod yno, dyma nhw i gyd yn mynd i sefyll o’i flaen.
Dafydd yn mynd yn ôl i Jerwsalem
Roedd milwyr Israel (oedd wedi cefnogi Absalom) i gyd wedi dianc am adre. 9Roedd yna lot fawr o drafod a dadlau drwy lwythau Israel i gyd. Roedd pobl yn dweud, “Y brenin wnaeth ein hachub ni o afael ein gelynion. Achubodd ni o afael y Philistiaid, ond mae e wedi ffoi o’r wlad o achos Absalom! 10A nawr mae Absalom, gafodd ei wneud yn frenin arnon ni, wedi cael ei ladd yn y frwydr. Pam yr oedi? Ddylen ni ddim gofyn i Dafydd ddod yn ôl?”
11Dyma’r Brenin Dafydd yn anfon neges at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid: “Gofynnwch i arweinwyr Jwda, ‘Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl? Dw i wedi clywed fod Israel i gyd yn barod! 12Dŷn ni’n perthyn i’n gilydd! Dŷn ni’r un cig a gwaed! Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl?’ 13Hefyd rhowch y neges yma i Amasa: ‘Ti’n perthyn yn agos i mi. Dw i’n addo i ti o flaen Duw mai ti fydd pennaeth y fyddin yn lle Joab o hyn ymlaen.’” 14Felly llwyddodd i ennill cefnogaeth pobl Jwda i gyd – roedden nhw’n hollol unfrydol. A dyma nhw’n anfon neges at y brenin, “Tyrd yn ôl, ti a dy ddynion i gyd.”
15Dyma’r brenin yn cychwyn am yn ôl. Pan gyrhaeddodd afon Iorddonen roedd pobl Jwda wedi dod i Gilgal i’w gyfarfod a’i hebrwng dros yr afon. 16Roedd Shimei fab Gera (oedd o Bachwrîm,19:16 Bachwrîm Roedd Bachwrîm ar y ffordd rhwng Jericho a Jerwsalem, ar dir llwyth Benjamin. ac o lwyth Benjamin) wedi brysio i lawr hefyd gyda phobl Jwda, i gyfarfod y Brenin Dafydd. 17Roedd mil o ddynion o lwyth Benjamin gydag e, gan gynnwys Siba, gwas teulu Saul, a’i un deg pump mab a dau ddeg o weision. Roedden nhw wedi croesi’r dŵr i gyfarfod y brenin, 18ac yn cario pethau yn ôl ac ymlaen dros y rhyd, er mwyn helpu teulu’r brenin drosodd ac ennill ei ffafr. Ar ôl iddo groesi’r afon, dyma Shimei fab Gera yn taflu ei hun ar lawr o flaen y brenin, 19a dweud wrtho, “Paid dal dig wrtho i, syr. Paid meddwl am beth wnes i y diwrnod hwnnw est ti allan o Jerwsalem.19:19 gw. 2 Samuel 16:5-13 Plîs wnei di anghofio’r cwbl. 20Dw i’n gwybod mod i wedi gwneud peth drwg. Dyna pam mai fi ydy’r cyntaf o deulu Joseff i gyd i ddod i dy gyfarfod di, fy meistr, y brenin.”
21Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud, “Dylai Shimei farw! Roedd e’n rhegi yr un mae’r ARGLWYDD wedi’i eneinio’n frenin!” 22Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Dydy hyn ddim o’ch busnes chi feibion Serwia! Pam dych chi’n tynnu’n groes i mi? Ddylai neb yn Israel gael ei ladd heddiw. Meddyliwch! Dw i’n frenin ar Israel unwaith eto.” 23Yna dyma’r brenin yn addo ar lw i Shimei, “Fyddi di ddim yn cael dy ladd.”
Dafydd a Meffibosheth yn cymodi
24Roedd Meffibosheth, ŵyr Saul, wedi dod i gyfarfod y brenin hefyd. Doedd e ddim wedi trin ei draed, trimio’i farf na golchi ei ddillad o’r diwrnod wnaeth y brenin adael Jerwsalem hyd nes iddo gyrraedd yn ôl yn saff. 25Pan ddaeth e o Jerwsalem i gyfarfod y brenin, dyma’r brenin yn gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim dod gyda mi, Meffibosheth?” 26Dyma fe’n ateb, “Meistr, fy mrenin. Fy ngwas wnaeth fy nhwyllo i. Am fy mod i’n gloff, rôn i wedi dweud wrtho am gyfrwyo asyn i mi ddod gyda ti. 27Ond dyma fe’n gadael a dweud celwydd amdana i wrth y brenin. Ond fy mrenin, syr, rwyt ti fel angel Duw. Gwna beth rwyt ti’n feddwl sydd orau. 28Roedd fy nheulu i gyd yn haeddu cael eu lladd gen ti, ond ces i eistedd i fwyta wrth dy fwrdd di. Sut alla i gwyno?” 29A dyma’r brenin yn ateb, “Does dim angen dweud dim mwy. Dyma dw i wedi’i benderfynu: Fod y tir i gael ei rannu rhyngot ti a Siba.” 30“Gad iddo fe gymryd y cwbl,” meddai Meffibosheth, “Beth sy’n bwysig i mi ydy dy fod ti, syr, wedi dod yn ôl adre’n saff.”
Barsilai yn cael mynd adre
31Roedd Barsilai o Gilead wedi dod i lawr o Rogelîm, ac wedi croesi’r Iorddonen i hebrwng y brenin ar ei ffordd. 32Roedd yn hen iawn – yn wyth deg oed – ac wedi gofalu am y brenin tra oedd yn aros yn Machanaîm.19:32 1 Samuel 17:27-29 Roedd yn ddyn pwysig iawn. 33Dyma’r brenin yn dweud wrtho, “Tyrd gyda mi i Jerwsalem, a gwna i dy gynnal di yno.” 34Ond dyma Barsilai yn ateb, “Na, does dim pwynt i mi ddod i Jerwsalem. Fydda i ddim byw yn hir iawn eto. 35Dw i’n wyth deg oed, ac yn dda i ddim i neb. Dw i ddim yn cael yr un blas ar fwyd a diod ag oeddwn i. Alla i ddim clywed dynion a merched yn canu. Pam ddylwn i fod yn fwrn ar fy meistr, y brenin? 36Gwna i ddod gyda ti beth o’r ffordd yr ochr draw i’r Iorddonen, ond does dim angen i’r brenin roi’r fath wobr i mi. 37Plîs, gad i mi fynd adre i farw yn y dref lle mae dad a mam wedi cael eu claddu. Ond mae dy was Cimham19:37 Cimham Mab Barsilai falle. Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu’r geiriau fy mab yma. yma, gad iddo fe fynd gyda ti yn fy lle i, syr. Cei roi beth bynnag wyt eisiau iddo fe.” 38Dyma’r brenin yn ateb, “Iawn, caiff Cimham ddod gyda mi, a gwna i roi iddo fe beth fyddwn i wedi’i roi ti. A chei dithau beth rwyt ti eisiau.”
39Felly dyma’r bobl i gyd yn croesi’r Iorddonen gyda’r brenin. Roedd y brenin wedi cusanu ffarwél i Barsilai a’i fendithio, ac roedd Barsilai wedi mynd adre. 40Pan aeth y brenin drosodd i Gilgal aeth Cimham gydag e.
Jwda ac Israel yn ffraeo am y brenin
Roedd milwyr Jwda i gyd a hanner rhai Israel wedi dod i hebrwng y brenin dros yr afon. 41Ond dechreuodd dynion Israel i gyd fynd at y brenin, yn gofyn iddo, “Pam mae’n brodyr ni, pobl Jwda, wedi sleifio’r brenin a’i deulu ar draws yr afon gyda’i filwyr i gyd?”
42“I’n llwyth ni mae’r brenin yn perthyn,” meddai dynion Jwda. “Pam dych chi’n codi helynt am y peth? Ydyn ni wedi cael bwyd yn dâl ganddo? Neu wobr o ryw fath?”
43A dyma ddynion Israel yn ateb yn ôl, “Mae gynnon ni ddeg gwaith cymaint o hawl ar y brenin â chi! Pam dych chi’n ein bychanu ni fel yma? Ni oedd y rhai cyntaf i awgrymu dod â’r brenin yn ôl!” Ond roedd dynion Jwda’n dweud pethau tipyn mwy cas na dynion Israel.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015