No themes applied yet
1Llythyr gan Ioan yr arweinydd, at fy ffrind annwyl Gaius, yr un dw i’n ei garu go iawn.
2Ffrind annwyl, dw i’n gweddïo fod pethau’n mynd yn dda gyda ti, a’th fod yr un mor iach yn gorfforol ac rwyt ti’n ysbrydol. 3Dw i wrth fy modd pan mae brodyr neu chwiorydd yn dod yma a dweud wrtho i mor ffyddlon rwyt ti i’r gwirionedd. 4Does dim byd yn fy ngwneud i’n fwy llawen na chael clywed fod fy mhlant1:4 fy mhlant: Pobl oedd Ioan wedi’u harwain i gredu yn Iesu. yn byw’n ffyddlon i’r gwir.
Haelioni Gaius
5Ffrind annwyl, mae dy ffyddlondeb di’n amlwg. Rwyt ti’n helpu’r brodyr sy’n pregethu’r newyddion da, er dy fod ti ddim yn eu nabod nhw. 6Maen nhw wedi dweud wrth yr eglwys sydd yma mor garedig a hael wyt ti. Dal ati gyda’r gwaith da o’u helpu nhw ar eu ffordd fel hyn. Mae’r hyn rwyt yn ei wneud yn plesio Duw. 7Maen nhw wedi mynd allan i weithio dros Iesu, a dŷn nhw’n derbyn dim byd gan bobl sydd ddim yn credu. 8Felly dylen ni sydd yn credu roi croeso iddyn nhw yn ein cartrefi ni. Dŷn ni’n eu helpu nhw i rannu’r gwirionedd wrth wneud hynny.
Diotreffes
9Dw i wedi ysgrifennu at yr eglwys, ond dydy Diotreffes ddim am wrando ar beth dw i’n ddweud. Mae e eisiau bod yn geffyl blaen. 10Pan fydda i’n dod acw bydda i’n tynnu sylw at beth mae’n ei wneud. Mae e’n lledu nonsens maleisus amdanon ni. A dydy hynny ddim yn ddigon ganddo! Mae e hefyd yn gwrthod rhoi croeso i’r brodyr sy’n pregethu’r newyddion da, ac mae’n rhwystro’r bobl sydd eisiau rhoi croeso iddyn nhw rhag gwneud hynny. Mae hyd yn oed yn taflu’r bobl hynny allan o’r eglwys!
11Ffrind annwyl, paid dilyn ei esiampl ddrwg e. Gwna di ddaioni. Y rhai sy’n gwneud daioni sy’n blant i Dduw. Dydy’r rhai sy’n gwneud drygioni ddim yn nabod Duw.
Demetrius
12Mae pawb yn siarad yn dda am Demetrius, ac mae e wir yn haeddu ei ganmol! Dŷn ni’n ei ganmol e hefyd, ac rwyt yn gwybod y gelli di ddibynnu ar beth dŷn ni’n ddweud.
13Mae gen i lawer mwy i’w ddweud wrthyt ti, ond dw i ddim am ei roi ar bapur. 14Dw i’n gobeithio dod i dy weld di’n fuan iawn, i ni gael siarad wyneb yn wyneb.
15Dw i’n gweddïo y byddi di’n profi heddwch dwfn Duw!
Mae dy ffrindiau di yma i gyd yn anfon eu cyfarchion. Cofia ni’n bersonol at bob un o’n ffrindiau acw hefyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015