No themes applied yet
Ymlaen i Jerwsalem
1Ar ôl llwyddo i dynnu’n hunain i ffwrdd oddi wrthyn nhw dyma ni’n dechrau’r fordaith a hwylio’n syth i ynys Cos. Cyrraedd Rhodos y diwrnod wedyn, ac yna mynd ymlaen i Patara. 2Newid llong yno, a hwylio ymlaen ar long oedd yn mynd i dalaith Phenicia yn Syria. 3Cael cipolwg ar ynys Cyprus wrth hwylio i’r de o’r ynys, ac yna mynd ymlaen i Syria. Dyma ni’n glanio yn Tyrus lle roedd y llong yn dadlwytho ei chargo. 4Daethon ni o hyd i’r Cristnogion yno, ac aros gyda nhw am wythnos. Roedden nhw’n pwyso ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem o achos beth roedden nhw’n ei broffwydo drwy’r Ysbryd Glân. 5Ond mynd ymlaen ar ein taith wnaethon ni pan ddaeth hi’n amser i ni symud. Daethon nhw i gyd i lawr i’r traeth gyda ni i ffarwelio – hyd yn oed y gwragedd a’r plant. Yno dyma ni i gyd yn mynd ar ein gliniau i weddïo. 6Ar ôl ffarwelio â’n gilydd aethon ni ar y llong a dyma nhw’n mynd adre.
7Dyma ni’n hwylio ymlaen o Tyrus ac yn glanio wedyn yn Ptolemais. Rhoddodd y Cristnogion yno groeso i ni, a chawson dreulio’r diwrnod gyda nhw. 8A’r diwrnod wedyn dyma ni’n mynd ymlaen i Cesarea, ac aros yng nghartref Philip yr efengylydd (un o’r saith gafodd eu dewis gan eglwys Jerwsalem i fod yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd i’r gweddwon). 9Roedd gan Philip bedair o ferched dibriod oedd yn proffwydo.
10Roedden ni wedi bod yno am rai dyddiau, a dyma broffwyd o’r enw Agabus yn dod yno o Jwdea. 11Pan ddaeth, cymerodd felt Paul oddi arno a rhwymo ei ddwylo a’i draed ei hun gyda hi. Yna meddai, “Dyma mae’r Ysbryd Glân yn ei ddweud, ‘Bydd arweinwyr yr Iddewon yn Jerwsalem yn rhwymo’r sawl sydd biau’r belt yma, ac yna’n ei drosglwyddo i’r Rhufeiniaid.’”
12Ar ôl clywed hyn, dyma ni a’r Cristnogion lleol yn Cesarea yn dechrau pledio ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem. 13Ond ateb Paul oedd, “Pam yr holl grio yma? Dych chi’n torri fy nghalon i. Dw i’n fodlon nid yn unig cael fy rhwymo, ond marw yn Jerwsalem er mwyn yr Arglwydd Iesu.” 14Doedd dim modd ei berswadio, felly dyma ni’n rhoi’r gorau iddi a dweud, “Wel, rhaid i beth bynnag mae’r Arglwydd eisiau ddigwydd.”
15Yn fuan wedyn dyma ni’n dechrau’r daith ymlaen i Jerwsalem. 16Daeth rhai o Gristnogion Cesarea gyda ni, a mynd â ni i aros yng nghartref Mnason (dyn o Cyprus oedd yn un o’r rhai cyntaf i ddod i gredu).
Paul yn cyrraedd Jerwsalem
17Cawson ni groeso cynnes gan y Cristnogion pan gyrhaeddon ni Jerwsalem. 18Yna’r diwrnod wedyn aeth Paul gyda ni i weld Iago, ac roedd yr arweinwyr i gyd yno. 19Ar ôl eu cyfarch dyma Paul yn rhoi adroddiad manwl o’r cwbl roedd Duw wedi’i wneud drwy ei waith ymhlith pobl o genhedloedd eraill. 20Pan glywon nhw’r hanes dyma nhw’n moli Duw. Ond wedyn dyma nhw’n dweud wrth Paul: “Frawd, rwyt ti’n gwybod fod degau o filoedd o Iddewon wedi dod i gredu hefyd, ac maen nhw i gyd yn ofalus iawn i gadw Cyfraith Moses. 21Ond maen nhw wedi clywed dy fod ti’n dysgu’r Iddewon sy’n byw mewn gwledydd eraill i droi cefn ar Moses, i stopio enwaedu eu bechgyn a chadw’r traddodiadau Iddewig eraill. 22Mae’n rhaid gwneud rhywbeth. Maen nhw’n siŵr o glywed dy fod ti wedi dod yma. 23Dyma beth dŷn ni’n awgrymu. Mae pedwar dyn yma sydd wedi cymryd llw. 24Dos gyda nhw, a mynd drwy’r ddefod o lanhau dy hun, a thalu’r costau iddyn nhw gael eillio eu pennau. Bydd hi’n amlwg i bawb wedyn bod y sibrydion amdanat ti ddim yn wir, a dy fod ti’n byw yn ufudd i’r Gyfraith. 25Ond lle mae’r Cristnogion o genhedloedd eraill yn y cwestiwn, dŷn ni wedi dweud mewn llythyr beth dŷn ni’n ei ddisgwyl ganddyn nhw – sef peidio bwyta cig wedi’i aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig anifeiliaid sydd wedi’u tagu, a’u bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol.”
26Felly’r diwrnod wedyn dyma Paul yn mynd drwy’r ddefod o lanhau ei hun gyda’r dynion eraill. Wedyn aeth i’r deml i gyhoeddi’r dyddiad y byddai’r cyfnod o buredigaeth drosodd, pan fyddai offrwm yn cael ei gyflwyno ar ran pob un ohonyn nhw.
Paul yn cael ei arestio
27Pan oedd saith diwrnod y buredigaeth bron ar ben, dyma ryw Iddewon o dalaith Asia yn gweld Paul yn y deml. Dyma nhw’n llwyddo i gynhyrfu’r dyrfa a gafael ynddo 28gan weiddi, “Bobl Israel, helpwch ni! Dyma’r dyn sy’n dysgu pawb ym mhobman i droi yn erbyn ein pobl ni, a’n Cyfraith, a’r Deml yma! Ac mae wedi halogi’r lle sanctaidd yma drwy ddod â phobl o genhedloedd eraill i mewn yma!” 29(Roedden nhw wedi gweld Troffimus o Effesus gyda Paul yn y ddinas yn gynharach, ac yn cymryd yn ganiataol ei fod wedi mynd gyda Paul lle na ddylai fynd yn y deml.)
30Dyma’r cynnwrf yn lledu drwy’r ddinas i gyd, a phobl yn rhedeg yno o bob cyfeiriad. Dyma nhw’n gafael yn Paul a’i lusgo allan o’r deml, ac wedyn cau’r giatiau. 31Roedden nhw’n mynd i’w ladd, ond clywodd capten y fyddin Rhufeinig fod reiat yn datblygu yn Jerwsalem. 32Aeth yno ar unwaith gyda’i filwyr a rhedeg i’r lle roedd y dyrfa. Roedd rhai wrthi’n curo Paul, ond pan welon nhw’r milwyr dyma nhw’n stopio.
33Dyma’r capten yn arestio Paul ac yn gorchymyn ei rwymo gyda dwy gadwyn. Wedyn gofynnodd i’r dyrfa pwy oedd, a beth roedd wedi’i wneud. 34Ond roedd rhai yn gweiddi un peth, ac eraill yn gweiddi rhywbeth hollol wahanol. Roedd hi’n amhosib darganfod beth oedd y gwir yng nghanol yr holl dwrw, felly dyma’r capten yn gorchymyn i’r milwyr fynd â Paul i’r barics milwrol yn Antonia. 35Erbyn i Paul gyrraedd y grisiau roedd y dyrfa wedi troi’n dreisgar, ac roedd rhaid i’r milwyr ei gario. 36Roedd y dyrfa yn ei dilyn nhw yn gweiddi, “Rhaid ei ladd! Rhaid ei ladd!”
Paul yn annerch y dyrfa
37Roedd y milwyr ar fin mynd â Paul i mewn i’r barics pan ofynnodd i’r capten, “Ga i ddweud rhywbeth?” “Sut dy fod di’n siarad Groeg?” meddai’r capten wrtho, 38“Onid ti ydy’r Eifftiwr hwnnw ddechreuodd wrthryfel ychydig yn ôl ac arwain pedair mil o aelodau’r grŵp terfysgol ‘y Sicari’ i’r anialwch?”
39“Na,” meddai Paul, “Iddew ydw i; dw i’n ddinesydd o Tarsus yn Cilicia. Ga i siarad â’r bobl yma os gweli di’n dda?”
40Rhoddodd y capten ganiatâd iddo, a safodd Paul ar y grisiau a chodi ei law i gael y dyrfa i dawelu. Pan oedden nhw i gyd yn dawel, dechreuodd eu hannerch yn yr iaith Hebraeg:
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015