No themes applied yet
Moab2:1-3 Eseia 15:1–16:14; 25:10-12; Jeremeia 48:1-47; Eseciel 25:8-11; Seffaneia 2:8-11
1Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Mae Moab wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw.
Maen nhw wedi cymryd esgyrn brenin Edom
a’u llosgi nhw’n galch.
2Felly bydda i’n anfon tân i losgi Moab,
a dinistrio caerau amddiffynnol Cerioth.2:2 Cerioth Un o brif drefi Moab a chanolfan addoli’r duw Chemosh.
Bydd pobl Moab yn marw yn sŵn y brwydro,
yng nghanol y bloeddio a sŵn y corn hwrdd2:2 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. yn seinio.
3Bydda i’n cael gwared â’i brenin hi
ac yn lladd ei holl swyddogion gydag e.”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Jwda
4Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw.
Maen nhw wedi troi’u cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD,
a heb gadw’i orchmynion e.
Maen nhw’n cael eu harwain ar gyfeiliorn
gan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn.
5Felly bydda i’n anfon tân i losgi Jwda,
a dinistrio caerau amddiffynnol Jerwsalem.”
Barn Duw ar Israel
6Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Mae Israel wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw.
Maen nhw’n gwerthu’r dieuog am arian,
a’r rhai mewn dyled am bâr o sandalau! –
7sathru’r tlawd fel baw ar lawr,
a gwthio’r gwan o’r ffordd!
Ac mae dyn a’i dad yn cael rhyw gyda’r un gaethferch,
ac yn amharchu fy enw glân i wrth wneud y fath beth.
8Maen nhw’n gorwedd wrth ymyl yr allorau
ar ddillad sydd wedi’u cadw’n warant am ddyled.
Maen nhw’n yfed gwin yn nheml Duw –
gwin wedi’i brynu gyda’r dirwyon roeson nhw i bobl!
9Ac eto, fi wnaeth ddinistrio’r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! –
yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw.
Ond dyma fi’n eu torri nhw i lawr yn llwyr,
o’u brigau uchaf i’w gwreiddiau!2:9 Deuteronomium 3:8-11
10Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft
a’ch arwain chi drwy’r anialwch am bedwar deg o flynyddoedd,
ac yna rhoi tir yr Amoriaid i chi!
11Dewisais rai o’ch plant i fod yn broffwydi
a rhai o’ch bechgyn ifanc i fod yn Nasareaid.2:11 Nasareaid Grŵp o bobl yn Israel oedd wedi ymrwymo i beidio yfed gwin, na torri eu gwalltiau, na cyffwrdd corff marw (gw. Numeri 6:1-8).
Onid dyna ydy’r gwir, bobl Israel?”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
12“Ond bellach, dych chi’n gwneud i’r Nasareaid yfed gwin,
ac yn dweud wrth y proffwydi am gau eu cegau!
13Felly gwyliwch chi! Bydda i’n eich dal chi’n ôl,
fel trol sydd ond yn gallu symud yn araf bach
am fod llwyth trwm o ŷd arni.
14Bydd y cyflymaf ohonoch chi’n methu dianc,
a’r cryfaf yn teimlo’n hollol wan.
Bydd y milwr yn methu amddiffyn ei hun,
15a’r bwasaethwr yn methu dal ei dir.
Bydd y rhedwr cyflyma’n methu dianc,
a’r un sydd ar gefn ceffyl yn methu achub ei fywyd.
16Bydd y milwyr mwyaf dewr yn gollwng eu harfau
ac yn rhedeg i ffwrdd yn noeth ar y diwrnod hwnnw.”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015