No themes applied yet
1Dw i eisiau i chi wybod mor galed dw i’n gweithio drosoch chi a’r Cristnogion yn Laodicea, a dros lawer o bobl eraill sydd ddim wedi nghyfarfod i. 2Y bwriad ydy rhoi hyder iddyn nhw a’u helpu i garu ei gilydd yn fwy, a bod yn hollol sicr eu bod wedi deall y cynllun dirgel roedd Duw wedi’i gadw o’r golwg o’r blaen. Y Meseia ei hun ydy hwnnw! 3Mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth wedi’u storio ynddo fe. 4Dw i’n dweud hyn wrthoch chi rhag i unrhyw un lwyddo i’ch twyllo chi gyda rhyw ddadleuon dwl sy’n swnio’n glyfar ond sydd ddim yn wir. 5Er fy mod i ddim gyda chi, dw i’n meddwl amdanoch chi drwy’r amser, ac yn falch o weld mor ddisgybledig ydych chi’n byw ac mor gadarn ydy’ch ffydd chi yn y Meseia.
Rhybudd rhag credu syniadau eraill
6Dych chi wedi derbyn y Meseia Iesu fel eich Arglwydd, felly daliwch ati i fyw yn ufudd iddo – 7Cadwch eich gwreiddiau’n ddwfn ynddo, eich bywyd wedi’i adeiladu arno, eich hyder ynddo yn gadarn fel y cawsoch eich dysgu, a’ch bywydau yn gorlifo o ddiolch.
8Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag – syniadau sy’n dilyn traddodiadau dynol a’r dylanwadau drwg sy’n rheoli’r byd yma, yn lle dibynnu ar y Meseia. 9Achos yn y Meseia mae dwyfoldeb yn gyfan gwbl yn byw mewn person dynol. 10A dych chi hefyd yn gyflawn am eich bod yn perthyn i’r Meseia, sy’n ben ar bob grym ac awdurdod! 11Wrth ddod ato fe, cawsoch eich ‘enwaedu’ yn yr ystyr o dorri gafael y natur bechadurus arnoch chi. (Dim y ddefod gorfforol o enwaedu, ond yr ‘enwaediad’ ysbrydol mae’r Meseia yn ei gyflawni.) 12Wrth gael eich bedyddio cawsoch eich claddu gydag e, a’ch codi i fywyd newydd wrth i chi gredu yng ngallu Duw, wnaeth ei godi e yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.
13Pobl baganaidd o’r cenhedloedd oeddech chi, yn farw’n ysbrydol o achos eich pechodau, ond gwnaeth Duw chi’n fyw gyda’r Meseia. Mae wedi maddau ein holl bechodau ni, 14ac wedi canslo’r ddogfen oedd yn dweud faint oedden ni mewn dyled. Cymerodd e’i hun y ddogfen honno a’i hoelio ar y groes. 15Wedi iddo ddiarfogi’r pwerau a’r awdurdodau, arweiniodd nhw mewn prosesiwn gyhoeddus – fel carcharorion rhyfel wedi’u concro ganddo ar y groes.
16Felly peidiwch gadael i unrhyw un eich beirniadu chi am beidio cadw mân-reolau am beth sy’n iawn i’w fwyta a’i yfed, neu am ddathlu gwyliau crefyddol, gŵyl y lleuad newydd neu’r Saboth. 17Doedd rheolau felly yn ddim byd ond cysgodion gwan o beth oedd i ddod – dim ond yn y Meseia y dewch chi o hyd i’r peth go iawn. 18Peidiwch gadael i unrhyw un sy’n cael boddhad o ddisgyblu’r hunan eich condemnio chi. Maen nhw’n honni eu bod nhw’n gallu mynd i bresenoldeb yr angylion sy’n addoli Duw, ac yn mynd i fanylion ynglŷn â beth maen nhw wedi’i weld. Maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n well na phawb arall, ond does dim byd ysbrydol am eu syniadau gwag nhw. 19Dŷn nhw ddim wedi dal gafael yn y Meseia. Fe ydy pen y corff. Mae pob rhan o’r corff yn cael ei ddal gyda’i gilydd gan y cymalau a’r gewynnau ac yn tyfu fel mae Duw am iddo dyfu.
20Buoch farw gyda’r Meseia, a dych chi wedi’ch rhyddhau o afael y dylanwadau drwg sy’n rheoli’r byd yma. Felly pam dych chi’n dal i ddilyn rhyw fân reolau fel petaech chi’n dal i ddilyn ffordd y byd? 21– “Peidiwch gwneud hyn! Peidiwch blasu hwn! Peidiwch cyffwrdd rhywbeth arall!” 22(Mân-reolau wedi’u dyfeisio gan bobl2:22 adlais o Eseia 29:13 (LXX) ydy pethau felly! Mae bwyd wedi mynd unwaith mae wedi’i fwyta!) 23Falle fod rheolau o’r fath yn ymddangos yn beth doeth i rai – defosiwn haearnaidd, disgyblu’r corff a’i drin yn llym – ond dŷn nhw’n dda i ddim i atal chwantau a meddyliau drwg.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015