No themes applied yet
Y Brenin Belshasar a’r Ysgrifen ar y wal
Gwledd Belshasar
1Roedd y Brenin Belshasar5:1 Belshasar Mab hynaf Nabonidws, brenin Babilon o 556 i 539 CC Aeth Nabonidws i fyw i Teima (yn Arabia) am ddeg mlynedd, a gadael Babilon yng ngofal Belshasar. wedi trefnu gwledd i fil o’i uchel-swyddogion. A dyna lle roedd e’n yfed gwin o’u blaen nhw i gyd. 2Pan oedd y gwin wedi mynd i’w ben dyma Belshasar yn gorchymyn dod â’r llestri aur ac arian oedd ei ragflaenydd,5:2 ei ragflaenydd Aramaeg, “tad”. Roedd tri o frenhinoedd eraill ar Babilon rhwng Nebwchadnesar a Nabonidws (tad Belshasar). Ond yn y cyfnod hwnnw roedd unrhyw frenin a fu yn cael ei alw yn “dad” y brenin presennol. Nebwchadnesar, wedi’u cymryd o’r deml yn Jerwsalem. Roedd am yfed ohonyn nhw, gyda’i uchel-swyddogion, ei wragedd a’i gariadon i gyd. 3Felly dyma nhw’n dod â’r llestri aur ac arian oedd wedi’u cymryd o deml Duw yn Jerwsalem. A dyma’r brenin a’i uchel-swyddogion, ei wragedd a’i gariadon yn yfed ohonyn nhw. 4Wrth yfed y gwin roedden nhw’n canmol eu duwiau – eilun-dduwiau wedi’u gwneud o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg.5:4 gw. Eseia 44:9-20; 46:1-7
5Yna’n sydyn roedd bysedd llaw ddynol i’w gweld yng ngolau’r lamp, yn ysgrifennu rhywbeth ar wal blastr yr ystafell. Roedd y brenin yn gallu gweld y llaw yn ysgrifennu. 6Aeth yn welw gan ddychryn. Roedd ei goesau’n wan a’i liniau’n crynu. 7Gwaeddodd yn uchel a galw am ei ddewiniaid, y dynion doeth a’r swynwyr. Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd pwy bynnag sy’n darllen yr ysgrifen a dweud beth mae’n ei olygu yn cael ei anrhydeddu – bydd yn cael ei wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am ei wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”
8Felly dyma’r dynion doeth i gyd yn dod i mewn, ond allai run ohonyn nhw ddarllen yr ysgrifen na dweud beth oedd ei ystyr. 9Erbyn hyn roedd y Brenin Belshasar wedi dychryn am ei fywyd. Roedd yn wyn fel y galchen ac roedd ei uchel-swyddogion i gyd wedi drysu’n lân.
10Pan glywodd y fam frenhines yr holl sŵn roedd y brenin a’i uchel-swyddogion yn ei wneud, aeth i mewn i’r neuadd fwyta. “O frenin! Boed i ti fyw am byth!” meddai. “Paid dychryn. Paid eistedd yna’n welw. 11Mae yna ddyn yn dy deyrnas sydd ag ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo. Pan oedd Nebwchadnesar yn frenin, daeth yn amlwg fod gan y dyn yma ddirnadaeth, deall, a doethineb fel petai’n un o’r duwiau ei hun. Gwnaeth Nebwchadnesar e’n brif swynwr, ac roedd yn bennaeth ar yr dewiniaid, swynwyr a’r dynion doeth i gyd. 12Roedd yna rywbeth cwbl arbennig am y dyn yma, Daniel (gafodd yr enw Belteshasar gan y brenin). Roedd ganddo feddwl anarferol o graff, gwybodaeth a gallu i esbonio ystyr breuddwydion, egluro posau, a datrys problemau cymhleth. Galw am Daniel, a bydd e’n dweud wrthot ti beth mae’r ysgrifen yn ei olygu.”
Daniel yn esbonio’r ysgrifen
13Felly dyma nhw’n dod â Daniel at y brenin. A dyma’r brenin yn gofyn iddo, “Ai ti ydy’r Daniel gafodd ei gymryd yn gaeth o Jwda gan fy rhagflaenydd, y Brenin Nebwchadnesar? 14Dw i wedi clywed fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a bod gen ti ddirnadaeth, a deall, a doethineb anarferol. 15Dw i wedi gofyn i’r dynion doeth a’r swynwyr ddarllen ac esbonio’r ysgrifen yma i mi, ond dŷn nhw ddim yn gallu. 16Ond dw i wedi cael ar ddeall dy fod ti’n gallu dehongli pethau a datrys problemau cymhleth. Felly, os gelli di ei ddarllen a dweud wrtho i beth mae’n ei olygu, byddi’n cael dy wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am dy wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”
17Ond dyma Daniel yn ateb y brenin, “Cadwch eich rhoddion a’u rhoi nhw i rywun arall. Ond gwna i ddweud wrth y brenin beth ydy ystyr yr ysgrifen. 18Eich mawrhydi, roedd y Duw Goruchaf wedi rhoi awdurdod brenhinol ac ysblander mawr i Nebwchadnesar eich rhagflaenydd chi. 19Roedd Duw wedi’i wneud mor fawr nes bod gan bawb o bob gwlad ac iaith ei ofn. Roedd yn lladd pwy bynnag roedd e’n dewis ei ladd, ac yn arbed pwy bynnag oedd e eisiau. Doedd dim dal pwy fyddai e’n ei anrhydeddu, a phwy fyddai’n ei sathru nesa. 20Ond trodd yn ddyn balch ac ystyfnig, a chymerodd Duw ei orsedd a’i anrhydedd oddi arno. 21Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Roedd yn meddwl ei fod yn anifail ac yn byw gyda’r asynnod gwyllt. Roedd yn bwyta glaswellt fel ychen, a’i gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored. Bu felly nes iddo ddeall mai’r Duw Goruchaf sy’n teyrnasu dros lywodraethau’r byd, a’i fod yn eu rhoi i bwy bynnag mae e eisiau.
22“Er eich bod chi, Belshasar, yn gwybod hyn i gyd, dych chithau wedi bod yr un mor falch. 23Dych chi wedi herio Arglwydd y nefoedd, drwy gymryd llestri ei deml a’u defnyddio nhw i yfed gwin ohonyn nhw – chi a’ch uchel-swyddogion, gyda’ch gwragedd a’ch cariadon i gyd. Ac wedyn dych chi wedi canmol eich duwiau o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg – duwiau sy’n gweld, clywed na deall dim! Ond dych chi ddim wedi canmol y Duw sy’n rhoi anadl i chi fyw, ac sy’n dal eich bywyd a’ch tynged yn ei law! 24Dyna pam anfonodd e’r llaw i ysgrifennu’r neges yma.
25“Dyma beth sydd wedi’i ysgrifennu: MENE, MENE, TECEL, a PHARSIN 26A dyma ystyr y geiriau: Ystyr MENE ydy ‘cyfrif’. Mae dyddiau eich teyrnasiad wedi’u rhifo. Mae Duw’n dod â nhw i ben. 27Ystyr TECEL ydy ‘pwyso’. Chi wedi’ch pwyso yn y glorian, a’ch cael yn brin. 28Ystyr PARSIN ydy ‘rhannu’. Mae’ch teyrnas wedi’i rhannu’n ei hanner a’i rhoi i Media a Persia.”5:28 Persia Yn Aramaeg mae’r gair am “Persia” yn swnio’n debyg iawn i’r gair am “rannu”.
29Dyma Belshasar yn gorchymyn fod Daniel i gael ei wisgo mewn porffor, i gael cadwyn aur am ei wddf, ac i’w ddyrchafu i’r drydedd swydd uchaf yn y deyrnas. 30Ond ar y noson honno cafodd Belshasar, brenin Babilon, ei lofruddio.5:30 cafodd Belshasar … ei lofruddio yn y flwyddyn 539 CC Byddai Daniel yn ddyn dros wyth deg oed erbyn hyn. 31Daeth Dareius y Mediad yn frenin ar y deyrnas. Roedd yn chwe deg dau oed.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015