No themes applied yet
Daniel yn gweddïo dros ei bobl
1Dyma Dareius o Media,9:1 Dareius o Media Mae ysgolheigion yn ansicr pwy yn union y cyfeirir ato. mab Ahasferus,9:1 Ahasferus Xerxes yn yr LXX. Mae’n bosib mai teitl brenhinol ydy’r enw Ahasferus yma. yn cael ei wneud yn frenin ar Ymerodraeth Babilon. 2Yn ystod blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad9:2 blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad tua 538 CC mae’n debyg. Byddai Daniel yn ddyn yn ei wyth degau cynnar erbyn hyn. roeddwn i, Daniel, wedi bod yn darllen yr ysgrifau sanctaidd. Dyma fi’n gweld fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth y proffwyd Jeremeia y byddai Jerwsalem yn adfeilion am saith deg o flynyddoedd.9:2 saith deg o flynyddoedd gw. Jeremeia 25:11-13; 29:10.
3Felly dyma fi’n troi at Dduw, y Meistr, a pledio arno mewn gweddi. Rôn i’n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi rhoi lludw ar fy mhen. 4Rôn i’n gweddïo ar yr ARGLWYDD fy Nuw, a chyffesu, “O Feistr, plîs! Ti ydy’r Duw mawr a rhyfeddol! Ti’n Dduw ffyddlon sy’n cadw dy ymrwymiad i’r bobl sy’n dy garu ac sy’n ufudd i ti. 5Ond dŷn ni wedi pechu a gwneud beth sy’n ddrwg. Dŷn ni wedi gwrthryfela, ac wedi troi cefn ar dy orchmynion di a dy safonau di. 6Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar dy weision, y proffwydi. Roedden nhw wedi siarad ar dy ran di gyda’n brenhinoedd ni a’n harweinwyr, ein hynafiaid a’n pobl i gyd.
7“Feistr, rwyt ti wedi gwneud popeth yn iawn, ond does gynnon ni ddim ond lle i gywilyddio – pobl Jwda a Jerwsalem, pobl Israel i gyd – y bobl sydd ar chwâl drwy’r gwledydd lle rwyt ti wedi’u gyrru nhw am iddyn nhw dy fradychu di. 8O ARGLWYDD, cywilydd arnon ni! – cywilydd ar ein brenhinoedd a’n harweinwyr a’n hynafiaid i gyd. Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di. 9Ond rwyt ti, ein Duw a’n Meistr ni, yn Dduw trugarog sy’n maddau, er ein bod ni wedi gwrthryfela yn dy erbyn. 10Wnaethon ni ddim talu sylw pan oeddet ti’n ein dysgu ni drwy dy weision y proffwydi,9:10 Jeremeia 25:4; 29:19 ac yn dweud wrthon ni sut ddylen ni fyw.
11“Mae pobl Israel i gyd wedi mynd yn rhy bell, ac wedi troi cefn arnat ti a diystyru beth roeddet ti’n ddweud. Felly mae’r felltith roeddet ti wedi’n rhybuddio ni amdani mor ddifrifol yng Nghyfraith Moses9:11 mae’r felltith … nghyfraith Moses gw. Lefiticus 26:27-45; Deuteronomium 28:15-68. wedi digwydd, am ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di. 12Ti wedi gwneud beth roeddet ti wedi’i fygwth i ni a’n harweinwyr. Mae wedi bod yn drychineb ofnadwy. Does erioed y fath drwbwl wedi bod yn unman ag a ddigwyddodd yn Jerwsalem. 13Mae wedi digwydd yn union fel mae cyfraith Moses yn dweud. Ac eto dŷn ni ddim wedi gwneud pethau’n iawn gyda’r ARGLWYDD ein Duw drwy droi cefn ar ein pechod a chydnabod dy fod ti’n ffyddlon. 14Roedd yr ARGLWYDD yn gwybod beth roedd e’n wneud, a daeth â’r dinistr arnon ni. Mae popeth mae’r ARGLWYDD yn ei wneud yn iawn, a doedden ni ddim wedi gwrando arno.
15“Felly, o Dduw ein Meistr ni, sy’n enwog hyd heddiw am dy gryfder yn arwain dy bobl allan o wlad yr Aifft:9:15 Deuteronomium 6:21; 9:26; Jeremeia 32:20; Nehemeia 9:10 dŷn ni wedi pechu a gwneud drwg. 16O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth sy’n iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, a’r mynydd rwyt wedi’i gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, a’n hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb o’u cwmpas nhw! 17Felly, o Dduw, gwrando ar dy was yn pledio a gweddïo arnat ti. Er dy fwyn dy hun wnei di edrych yn garedig9:17 edrych yn garedig Hebraeg, “llewyrchu dy wyneb,” sef gwenu’n garedig (cf. Numeri 6:25; Salm 80:3,7,19). eto ar dy deml sydd wedi’i dinistrio. 18O Dduw, gwrando’n astud ar beth dw i’n ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma sy’n cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod ni’n honni ein bod wedi gwneud beth sy’n iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog. 19O Feistr, gwrando! O Feistr, maddau! O Feistr, edrych a gwna rywbeth! O Dduw, paid oedi – er dy fwyn dy hun! Er mwyn dy ddinas, a’r bobl sy’n cael eu cysylltu â dy enw di.”
Gabriel yn esbonio’r weledigaeth
20Rôn i’n dal ati i weddïo, a chyffesu fy mhechod a phechod fy mhobl Israel, ac yn pledio ar yr ARGLWYDD fy Nuw ar ran Jerwsalem a’r mynydd sydd wedi’i gysegru ganddo.9:20 mynydd sydd wedi’i gysegru ganddo y bryn roedd y deml wedi’i hadeiladu arni. 21A tra oeddwn i’n gweddïo dyma Gabriel, yr un oedd yn y weledigaeth arall pan oeddwn i wedi fy llethu’n llwyr, yn dod ata i tua amser offrwm yr hwyr. 22Dyma fe’n esbonio i mi, “Dw i wedi dod yma er mwyn i ti ddeall pethau’n iawn. 23Cafodd yr ateb ei roi wrth i ti ddechrau gweddïo, a dw i wedi dod yma i’w rannu gyda ti. Rwyt ti’n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Felly gwrando’n ofalus, i ti ddeall y weledigaeth.
24Mae saith deg cyfnod o saith9:24 saith deg cyfnod o saith cf. Lefiticus 25:8. Roedd y rhifau 7 a 70 yn cynrychioli cyfnodau cyflawn, a 7 wedi’i luosi â 7 (sef 49) yn symbol o’r blynyddoedd cyn Blwyddyn y Rhyddhau. wedi’u pennu
i dy bobl a’r ddinas sanctaidd
roi diwedd ar eu gwrthryfel.
I ddod â’r pechu i ben, delio gyda drygioni
a gwneud pethau’n iawn unwaith ac am byth.
I gadarnhau y weledigaeth broffwydol,
ac eneinio y Lle Mwyaf Sanctaidd.
25Felly rhaid i ti ddeall:
O’r amser pan gafodd y gorchymyn ei roi
i adfer ac ailadeiladu Jerwsalem
nes daw un wedi’i eneinio yn arweinydd,9:25 un wedi’i eneinio’n arweinydd Mae’r gair Hebraeg yn golygu “tywallt olew (ar ben rhywun)”. Dyma sut oedd rhywun yn cael ei wneud yn offeiriad neu yn frenin.
bydd saith cyfnod o saith.
Bydd y ddinas yn cael ei hadfer a’i hailadeiladu
gyda strydoedd a ffosydd amddiffyn
am chwe deg dau cyfnod o saith.
Ond bydd hi’n amser caled, argyfyngus.
26Ar ôl y chwe deg dau cyfnod o saith,
bydd yr un wedi’i eneinio yn cael ei dorri i ffwrdd,
bydd heb ddim.
Yna bydd y ddinas a’r deml yn cael eu dinistrio
gan fyddin arweinydd arall sydd i ddod.
Bydd y diwedd yn dod fel llif.
Bydd rhyfela’n para i’r diwedd.
Mae dinistr wedi’i gyhoeddi.
27Bydd yn gwneud ymrwymiad gyda’r tyrfaoedd
am un cyfnod o saith.
Ond hanner ffordd drwy’r saith
bydd yn stopio’r aberthau a’r offrymau.
Yna ar yr adain bydd yn codi
eilun ffiaidd sy’n dinistrio,9:27 Yna ar yr adain … dinistrio Falle fod hyn yn cyfeirio at beth ddigwyddodd yn 1 Macabeaid 1:54-57. Mae’n bosib fod “adain” yn cyfeirio at gyrn yr allor. Gwnaeth Antiochus IV ddefodau Iddewig yn anghyfreithlon (sef darllen y Gyfraith, cadw’r Saboth, ymarfer enwaediad a chyflwyno aberthau). Cysegrodd y Deml o’r newydd i’r duw Zews/Iau, codi delw o’r duw hwnnw yn y deml ac (yn ôl yr hanesydd Josephus) aberthu moch iddo ar yr allor.
nes i’r dinistr sydd wedi’i ddyfarnu9:27 Eseia 10:23
ddod ar yr un sy’n dinistrio.”9:27 Daniel 11:31; 12:11; Mathew 24:15; Marc 13:14
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015