No themes applied yet
Yr ARGLWYDD yn rhoi’r Deg Gorchymyn
(Exodus 34:1-10)
1“Dyna pryd y dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, ‘Cerfia ddwy lechen garreg, fel y rhai cyntaf, a hefyd gwna gist o bren; yna tyrd i fyny’r mynydd ata i. 2Gwna i ysgrifennu ar y ddwy lechen yr union eiriau oedd ar y llechi cyntaf, y rhai wnest ti eu torri. Yna rhaid i ti eu rhoi nhw yn y gist.’
3“Felly dyma fi’n gwneud cist o goed acasia, a cherfio dwy lechen garreg oedd yr un fath â’r rhai cyntaf. Wedyn dyma fi’n mynd i fyny’r mynydd yn cario’r ddwy lechen. 4A dyma’r ARGLWYDD yn ysgrifennu’r un geiriau ag o’r blaen ar y ddwy lechen, sef y Deg Gorchymyn (beth roedd e wedi’i ddweud wrthoch chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd). Yna dyma fe’n eu rhoi nhw i mi, 5a dyma fi’n mynd yn ôl i lawr o’r mynydd, a’u rhoi nhw yn y gist roeddwn i wedi’i gwneud. Maen nhw’n dal tu mewn i’r gist hyd heddiw. Dyna roedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn.
6“Teithiodd pobl Israel o ffynhonnau Bene-iacân i Mosera. Dyna pryd fuodd Aaron farw, a chael ei gladdu, a dyma’i fab Eleasar yn dod yn offeiriad yn ei le. 7Wedyn dyma nhw’n mynd ymlaen i Gwdgoda, ac yna i Iotbatha, lle roedd lot fawr o nentydd. 8A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddewis llwyth Lefi i gario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i’w wasanaethu fel offeiriaid a bendithio’r bobl ar ei ran. Ac maen nhw’n dal i wneud hynny hyd heddiw. 9A dyna pam nad oes gan lwyth Lefi dir, fel y llwythau eraill. Yr ARGLWYDD ei hun ydy eu siâr nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Lefi.
Yr ARGLWYDD yn ateb gweddi Moses
10“Dyma fi’n aros ar y mynydd fel y gwnes i y tro cyntaf, ddydd a nos am bedwar deg diwrnod. A dyma’r ARGLWYDD yn gwrando arna i eto, a phenderfynu peidio’ch dinistrio chi. 11Dyma fe’n dweud wrtho i, ‘Dos, ac arwain y bobl yma i gymryd y tir wnes i ei addo i’w hynafiaid.’
Beth mae’r ARGLWYDD eisiau
12“Nawr, bobl Israel, beth mae’r ARGLWYDD eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â’ch holl galon ac â’ch holl enaid, 13a chadw’r gorchmynion a’r arweiniad dw i’n eu pasio ymlaen i chi heddiw. Wedyn bydd pethau’n mynd yn dda i chi. 14Yr ARGLWYDD sydd biau popeth sy’n bodoli – y ddaear a’r cwbl sydd arni, a’r awyr, a hyd yn oed y nefoedd uchod. 15Ac eto, eich hynafiaid chi wnaeth e eu caru, a chi, eu disgynyddion, wnaeth e eu dewis. 16Felly newidiwch eich agwedd,10:16 newidiwch eich agwedd Hebraeg, “enwaedu blaengroen eich calon”. a pheidio bod mor benstiff! 17Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn fwy pwerus na’r duwiau eraill i gyd, ac yn Feistr ar bob meistr arall. Fe ydy’r Duw mawr, cryf a rhyfeddol, sy’n ddiduedd, a byth yn derbyn breib. 18Mae e’n gwneud yn siŵr fod plant amddifad a gweddwon yn cael cyfiawnder, ac mae e’n caru’r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw. 19Felly dylech chithau hefyd ddangos cariad at fewnfudwyr, achos pobl o’r tu allan oeddech chi yng ngwlad yr Aifft. 20Rhaid i chi barchu’r ARGLWYDD eich Duw, ei wasanaethu, aros yn ffyddlon iddo, a defnyddio’i enw e’n unig i dyngu llw. 21Fe ydy’r un i’w foli. Fe ydy’ch Duw chi, yr un dych chi wedi’i weld yn gwneud pethau rhyfeddol ar eich rhan chi. 22Pan aeth eich hynafiaid i lawr i’r Aifft, dim ond saith deg ohonyn nhw oedd yna, ond bellach mae cymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn y nefoedd!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015