No themes applied yet
Trefi Lloches
(Numeri 35:9-34; Josua 20:1-9)
1“Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i ddinistrio’r bobloedd yn y wlad dych chi’n mynd i mewn iddi. Byddwch yn cymryd eu tir nhw, ac yn symud i fyw i’w trefi a’u tai. 2-3Rhaid i chi rannu’r wlad yn dair, dewis tair tref lloches ac adeiladu ffyrdd da i’r trefi hynny. Bydd pwy bynnag sy’n lladd rhywun arall yn gallu dianc am loches i’r agosaf o’r tair tref.
4“Dyma fydd y drefn os bydd rhywun yn lladd ar ddamwain, heb fod unrhyw ddrwg wedi’i fwriadu. 5Er enghraifft, lle mae dau ddyn wedi mynd i’r goedwig i dorri coed, ac wrth i un godi’i fwyell, mae blaen y fwyell yn dod i ffwrdd o’r goes ac yn taro’r llall a’i ladd. Mae’r dyn wnaeth ladd yn gallu dianc i un o’r trefi yma. 6Os na fydd yn gwneud hynny, gall perthynas agosa’r dyn laddwyd ei ddal, a dial arno a’i ladd. Ond doedd e ddim wir yn haeddu hynny, am nad oedd e wedi bwriadu unrhyw ddrwg pan ddigwyddodd y ddamwain. 7Dyna pam dw i’n gorchymyn i chi ddewis tair tref i’r pwrpas yma.
8“Wedyn, pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn rhoi mwy eto o dir i chi, (sef yr holl dir wnaeth e addo ei roi i’ch hynafiaid chi,) 9a chithau’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n cadw’r holl orchmynion dw i’n eu rhoi i chi (sef caru’r ARGLWYDD eich Duw a byw fel mae e eisiau i chi fyw), rhaid i chi ddewis tair tref arall at y tair sydd gynnoch chi eisoes. 10Does dim eisiau i bobl gael eu dienyddio os ydyn nhw’n ddieuog. Ddylai peth felly ddim digwydd yn y wlad mae’r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi.
11“Ond os ydy rhywun yn casáu person arall, disgwyl amdano, ymosod arno a’i ladd, ac wedyn yn dianc i un o’r trefi yma, dyma sydd i ddigwydd: 12Rhaid i arweinwyr y dref lle mae’n byw anfon dynion i’w arestio, a gadael i berthynas agosaf y sawl gafodd ei ladd ddial arno a’i ladd e. 13Peidiwch teimlo trueni dros lofrudd. Ddylai pobl ddiniwed ddim cael eu lladd yn Israel.
Ffiniau rhwng tiroedd pobl
14“Peidiwch symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall. Cafodd ffiniau dy etifeddiaeth eu gosod gan dy hynafiaid yn y wlad mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti ei chymryd.
Tystion sy’n dweud celwydd
15“Dydy un tyst ddim yn ddigon i gael rhywun yn euog o drosedd. Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir. 16Os ydy tyst yn dweud celwydd a chyhuddo rhywun o ryw drosedd, 17rhaid i’r ddau fynd i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, i’r offeiriaid a’r barnwyr benderfynu ar y ddedfryd. 18Byddan nhw’n edrych yn fanwl ar yr achos, ac os byddan nhw’n darganfod fod y tyst wedi dweud celwydd, 19bydd e’n cael y gosb roedd e wedi bwriadu i’r llall ei chael. Rhaid cael gwared â’r drwg o’ch plith. 20Bydd gweddill y bobl yn clywed beth ddigwyddodd, a bydd ganddyn nhw ofn gwneud pethau mor ddrwg. 21Peidiwch teimlo trueni. Mae’r gosb i ffitio’r drosedd – bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015