No themes applied yet
1Pan fydd anghydfod yn codi rhwng pobl, dylen nhw fynd i’r llys. Bydd barnwyr yn gwrando ar yr achos, ac yn penderfynu pwy sy’n euog.
2Os mai chwipio fydd y gosb, mae’r barnwr i wneud iddo orwedd ar lawr o’i flaen, a bydd yn cael ei chwipio faint bynnag o weithiau mae’n ei haeddu am beth wnaeth o’i le. 3Ddylai’r barnwr ddim dedfrydu neb i fwy na pedwar deg llach. Petai rhywun yn cael ei chwipio fwy na hynny, byddai’r person yn cael ei amharchu’n gyhoeddus.
4Peidiwch rhwysto’r ych sy’n sathru’r ŷd rhag bwyta.
5Os ydy dau frawd yn byw gyda’i gilydd, ac un ohonyn nhw’n marw heb gael mab, ddylai ei weddw ddim priodi rhywun tu allan i’r teulu. Rhaid i frawd y gŵr fuodd farw ei phriodi hi, a chael mab yn ei le.
6Bydd y mab cyntaf i gael ei eni iddyn nhw yn cael ei gyfri’n fab cyfreithiol i’r brawd fuodd farw, rhag i’w enw ddiflannu o Israel. 7Ond os ydy’r dyn ddim eisiau priodi gweddw ei frawd, rhaid i’r weddw fynd at yr arweinwyr hŷn i’r llys wrth giât y dref a dweud wrthyn nhw, ‘Mae brawd fy ngŵr yn gwrthod wynebu’i gyfrifoldeb fel brawd-yng-nghyfraith, a chadw enw fy ngŵr yn fyw yn Israel!’ 8Yna bydd rhaid i arweinwyr y dref anfon am y dyn i siarad ag e. Os ydy e’n dal i wrthod ei phriodi hi, 9dyma sydd i ddigwydd: Mae’r chwaer-yng-nghyfraith i gamu ato o flaen yr arweinwyr, tynnu un o sandalau’r dyn i ffwrdd a phoeri yn ei wyneb. Yna dweud, ‘Dyna sy’n digwydd i’r dyn sy’n gwrthod cadw enw teulu’i frawd i fynd!’ 10O hynny ymlaen, bydd ei deulu e’n cael ei nabod fel ‘teulu’r dyn y tynnwyd ei sandal’.
11Os ydy dau ddyn yn dechrau ymladd gyda’i gilydd, a gwraig un ohonyn nhw yn ymyrryd i amddiffyn ei gŵr, ac yn gafael yn organau preifat y dyn, 12rhaid torri ei llaw i ffwrdd. Peidiwch teimlo trueni drosti.
13-15Peidiwch twyllo wrth farchnata; defnyddiwch bwysau cywir, dim un sy’n ysgafn a’r llall yn drwm. A pheidiwch defnyddio basgedi mesur o faint gwahanol. Dylai’r pwysau dych chi’n eu defnyddio, a maint y basgedi dych chi’n eu defnyddio, fod yn gywir. Wedyn cewch fyw yn hir yn y wlad dych chi’n mynd i’w chymryd.
16Mae’r ARGLWYDD eich Dduw yn casáu gweld pobl yn bod yn anonest – mae’r peth yn ffiaidd ganddo!
Gorchymyn i ladd yr Amaleciaid
17“Cofiwch beth wnaeth yr Amaleciaid i chi pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft. 18Roeddech chi wedi blino’n lân, a dyma nhw’n eich dilyn chi ac ymosod ar y rhai oedd yn methu dal i fyny gyda’r gweddill. Doedd ganddyn nhw ddim parch at Dduw. 19Pan fyddwch chi’n cael llonydd gan yr holl elynion o’ch cwmpas chi yn y wlad mae’r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi, rhaid i chi ladd yr Amaleciaid i gyd – nes bydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw!25:19 Exodus 17:14 Peidiwch chi anghofio gwneud hyn!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015