No themes applied yet
Bydd Israel yn troi yn ôl at yr ARGLWYDD
1“Pan fyddwch chi wedi profi’r holl fendithion a melltithion yma dw i’n eu gosod o’ch blaen chi, byddwch chi’n meddwl eto am beth ddwedais i pan fyddwch yn y gwledydd lle bydd yr ARGLWYDD eich Duw wedi’ch gyrru chi. 2Wedyn, os byddwch chi a’ch disgynyddion yn troi’n ôl at yr ARGLWYDD eich Duw, ac yn bod yn ufudd iddo â’ch holl galon ac â’ch holl enaid, fel dw i’n gorchymyn i chi heddiw, 3bydd yr ARGLWYDD yn teimlo trueni drosoch chi ac yn gadael i chi lwyddo eto. Bydd yn eich casglu chi oddi wrth y bobl roedd e wedi’ch gwasgaru chi i’w canol nhw. 4Hyd yn oed os byddwch chi wedi cael eich gyrru i ben draw’r byd, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn dod â chi yn ôl. 5Bydd e’n dod â chi i gymryd yn ôl y wlad wnaeth eich hynafiaid ei meddiannu. Byddwch yn fwy llwyddiannus, a bydd mwy ohonoch chi nag oedd bryd hynny! 6Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich newid chi o’r tu mewn,30:6 newid chi o’r tu mewn Hebraeg, “enwaedu eich calon”. i’ch gwneud chi a’ch disgynyddion yn bobl go iawn iddo. Byddwch yn ei garu â’ch holl galon ac â’ch holl enaid, ac yn cael bywyd!
7“Ond bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn melltithio’ch gelynion – y bobl hynny sy’n eich casáu chi ac yn eich erlid chi. 8Bydd yn ddechrau newydd i chi! Byddwch yn gwrando ar yr ARGLWYDD, ac yn cadw’r gorchmynion dw i wedi’u rhoi i chi heddiw. 9Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i bopeth wnewch chi lwyddo. Byddwch chi’n cael lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael rhai bach, a bydd cynnyrch y tir yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw wrth ei fodd gyda chi, ac yn gwneud i chi lwyddo, fel roedd e wrth ei fodd gyda’ch hynafiaid chi, 10dim ond i chi fod yn ufudd iddo, a chadw’r gorchmynion a’r rheolau sydd wedi’u hysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith yma. Ond rhaid i chi droi ato â’ch holl galon ac â’ch holl enaid.
11“Dydy beth dw i’n ei orchymyn i chi heddiw ddim yn anodd i’w ddeall, nac yn amhosib i’w gyrraedd. 12Dydy e ddim yn y nefoedd, fel bod rhaid i rywun ofyn, ‘Pwy wnaiff fynd i fyny i’r nefoedd i’w gael i ni, a’i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae’n ddweud?’ 13A dydy e ddim ym mhen draw’r byd, fel bod rhaid gofyn, ‘Pwy wnaiff fynd dros y môr i’w gael i ni, a’i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae’n ddweud?’ 14Mae’r gorchmynion gen ti wrth law; ti’n eu deall ac yn gallu’u dyfynnu ar y cof. Felly gwna beth maen nhw’n ddweud.
15“Edrychwch! Dw i wedi rhoi dewis i chi heddiw – bywyd a llwyddiant, neu farwolaeth a dinistr. 16Beth dw i’n ei orchymyn i chi ydy i chi garu’r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a chadw’i orchmynion, ei reolau, a’i ganllawiau. Wedyn byddwch chi’n byw ac yn llwyddo, a bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd.
17“Ond os byddwch chi’n troi oddi wrtho a gwrthod gwrando arno, ac yn cael eich denu i addoli duwiau eraill, 18dw i’n eich rhybuddio chi, byddwch chi’n cael eich dinistrio! Gewch chi ddim aros yn hir iawn yn y wlad dych chi’n croesi afon Iorddonen i’w chymryd.
19“Dw i’n galw’r nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi. Dw i’n gosod dewis o’ch blaen chi – bywyd neu farwolaeth, bendith neu felltith. Felly dewiswch fywyd, a chewch chi a’ch disgynyddion fyw! 20Rhaid i chi garu’r ARGLWYDD eich Duw, gwrando ar beth mae e’n ddweud ac aros yn ffyddlon iddo. Fe ydy’r un sy’n rhoi bywyd, a fe fydd yn eich galluogi chi i fyw yn y wlad wnaeth e addo ei rhoi i’ch hynafiaid chi, Abraham, Isaac a Jacob.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015