No themes applied yet
1Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc,
cyn i’r dyddiau anodd gyrraedd
a’r blynyddoedd ddod pan fyddi’n dweud,
“Dw i’n cael dim pleser ynddyn nhw.”
2Cyn i’r haul a golau’r lleuad a’r sêr droi’n dywyll,
a’r cymylau’n dod yn ôl eto ar ôl y glaw:
3pan mae gwylwyr y tŷ yn crynu,
a dynion cryf yn crymu;
y rhai sy’n malu’r grawn yn y felin yn mynd yn brin,
a’r rhai sy’n edrych drwy’r ffenestri yn colli eu golwg;
4pan mae’r drysau i’r stryd wedi cau,
a sŵn y felin yn malu wedi tawelu;
pan mae rhywun yn cael ei ddeffro’n gynnar gan gân aderyn
er fod holl seiniau byd natur yn distewi;
5pan mae gan rywun ofn uchder
ac ofn mynd allan ar y stryd;
pan mae blodau’r pren almon yn troi’n wyn,
y ceiliog rhedyn yn llusgo symud,
a chwant rhywiol wedi hen fynd;
pan mae pobl yn mynd i’w cartref tragwyddol,
a’r galarwyr yn dod allan ar y stryd.
6Cyn i’r llinyn arian dorri
ac i’r fowlen aur falu,
a’r llestr wrth y ffynnon yn deilchion,
a’r olwyn i’w godi wedi torri wrth y pydew.
7Pan mae’r corff yn mynd yn ôl i’r pridd fel yr oedd,
ac anadl bywyd yn mynd yn ôl at Dduw,
yr un a’i rhoddodd.
8Mae’n ddiystyr! – meddai’r Athro – Dydy’r cwbl yn gwneud dim sens!
Ôl-nodyn gan y golygydd
9Roedd yr Athro yn ddyn doeth, a dysgodd ddoethineb i’r bobl. Bu’n pwyso a mesur gwirionedd llawer o ddywediadau, ac yn eu gosod mewn trefn. 10Roedd yr Athro yn ceisio dod o hyd i ddywediadau oedd wrth ei fodd, ac wrth ysgrifennu roedd yn dweud y gwir plaen. 11Mae dywediadau’r doeth yn procio’r meddwl; maen nhw’n brathu weithiau, fel hoelion mewn ffon i yrru anifeiliaid. Yr un Bugail sydd wedi rhoi’r casgliad i gyd i ni.
12Un rhybudd olaf, fy mab. Gellid ysgrifennu llyfrau diddiwedd am y pethau yma, ac mae astudio yn waith caled sydd byth yn dod i ben.
13I grynhoi, y cwbl sydd i’w ddweud yn y diwedd ydy hyn: addola Dduw a gwna beth mae e’n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud. 14Oherwydd bydd Duw yn galw pawb i gyfrif am bopeth wnaethon nhw – hyd yn oed beth oedd o’r golwg – y da a’r drwg.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015