No themes applied yet
Sylwadau ar fywyd
1Dyma fi’n ystyried yr holl orthrwm sy’n digwydd yn y byd. Gwelais ddagrau’r rhai sy’n cael eu gorthrymu, ond doedd neb yn eu cysuro nhw. Doedd neb i’w hachub nhw o afael y gorthrymwyr. 2Roedd rhaid i mi longyfarch y rhai oedd eisoes wedi marw, am eu bod yn well eu byd na’r rhai sy’n dal yn fyw. 3Ond mae’n well fyth ar y rhai hynny sydd ddim wedi cael eu geni, a ddim yn gorfod edrych ar yr holl ddrygioni sy’n digwydd yn y byd!
4Yna dyma fi’n ystyried holl waith caled a thalentau pobl. Dydy hynny i gyd yn ddim byd ond cystadleuaeth rhwng pobl a’i gilydd! Does dim sens yn y peth! Mae fel ceisio rheoli’r gwynt!
5“Mae’r ffŵl yn plethu ei freichiau
ac yn gwastraffu ei fywyd,”
6Ac eto,
“Mae un llond llaw gyda gorffwys
yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.”
Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt!
Mantais cwmni
7Yna dyma fi’n ystyried rhywbeth arall sy’n gwneud dim sens o gwbl: 8Rhywun sydd ar ei ben ei hun yn llwyr – heb gymar na phlant na pherthnasau – ac eto’n gweithio’n ddi-stop, a byth yn fodlon gyda beth sydd ganddo. “Pam dw i’n gwneud hyn, ac amddifadu fy hun o fwynhad?” meddai. Dydy peth felly yn gwneud dim sens! Mae’n drist iawn.
9“Mae dau gyda’i gilydd yn well nag un.” Wrth weithio gyda’i gilydd mae’r ddau berson ar eu hennill. 10Os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi. Ond druan o’r person sydd ar ei ben ei hun, heb neb i’w helpu i godi. 11Hefyd, “Os ydy dau yn gorwedd gyda’i gilydd, maen nhw’n cadw’n gynnes.” Ond sut mae rhywun i fod i gadw’n gynnes pan fydd ar ei ben ei hun? 12“Pan fydd rhywun yn ymosod, mae dau yn fwy tebygol o’i rwystro nag un.” “Dydy rhaff deircainc ddim yn hawdd i’w thorri!”
13“Mae bachgen ifanc doeth o gefndir tlawd yn well
na brenin mewn oed sy’n ffôl ac yn gwrthod derbyn cyngor.”
14Hyd yn oed os oedd e’n y carchar cyn dod i reoli,
ac wedi’i eni’n dlawd yn y wlad y byddai’n teyrnasu arni.
15Yna dyma fi’n gweld yr holl bobl sy’n byw yn y byd yn sefyll o gwmpas bachgen ifanc arall fyddai’n ei olynu. 16Doedd dim posib cyfri’r holl bobl roedd yn eu harwain! Ac eto fydd y cenedlaethau i ddod ddim yn gwerthfawrogi hwnnw. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens – mae fel ceisio rheoli’r gwynt.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015