No themes applied yet
1Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu.
At bobl Dduw yn Effesus, sy’n dilyn y Meseia Iesu, ac yn ffyddlon iddo:
2Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Bendithion Ysbrydol perthyn i’r Meseia
3Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi tywallt pob bendith ysbrydol sy’n y byd nefol arnon ni sy’n perthyn i’r Meseia. 4Hyd yn oed cyn i’r byd gael ei greu, cawson ni’n dewis ganddo i fod mewn perthynas â’r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad 5trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu i’w deulu. Iesu y Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny! 6Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi’i ddangos tuag aton ni! – ei anrheg i ni yn y Mab mae’n ei garu. 7Cawson ni’n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni’n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni! 8Mae wedi tywallt ei haelioni arnon ni, ac wedi rhoi doethineb a synnwyr i ni. 9Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwy’r Meseia. Trefnu 10i ddod â phopeth sy’n bodoli yn y nefoedd ac ar y ddaear at ei gilydd dan un pen, sef y Meseia. Bydd yn gwneud hyn pan fydd yr amser iawn wedi dod.
11Mae ganddo le ar ein cyfer ni am fod gynnon ni berthynas â’r Meseia. Dewisodd ni ar y dechrau cyntaf, a threfnu’r cwbl ymlaen llaw. Mae’n rhaid i bopeth ddigwydd yn union fel mae e wedi cynllunio. 12Mae am i ni’r Iddewon, y rhai cyntaf i roi’n gobaith yn y Meseia, ei foli am ei fod mor wych. 13Ac wedyn chi sydd ddim yn Iddewon hefyd – cawsoch chithau eich derbyn i berthynas â’r Meseia ar ôl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da sy’n eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl sy’n dangos eich bod yn perthyn iddo, a’r sêl hwnnw ydy’r Ysbryd Glân oedd wedi’i addo i chi. 14Yr Ysbryd ydy’r blaendal sy’n gwarantu’r ffaith bod lle wedi’i gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd i’w feddiannu’n llawn. Rheswm arall i’w foli am ei fod mor wych!
Diolchgarwch a Gweddi
15Ers i mi glywed gyntaf am eich ffyddlondeb i’r Arglwydd Iesu a’ch cariad at Gristnogion eraill, 16dw i ddim wedi stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Dw i’n cofio amdanoch chi bob tro dw i’n gweddïo. 17Dw i’n gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roi’r Ysbryd i chi i’ch goleuo a’ch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod i’w nabod yn well. 18Dw i’n gweddïo y daw’r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy’r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy’r lle bendigedig sydd ganddo i’w bobl. 19Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy’r nerth sydd ar gael i ni sy’n credu. Dyma’r pŵer aruthrol 20wnaeth godi’r Meseia yn ôl yn fyw a’i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol.1:20 gw. Salm 110:1 21Mae’n llawer uwch nag unrhyw un arall sy’n teyrnasu neu’n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy’n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo – yn y byd yma na’r byd sydd i ddod! 22Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. 1:22 cyfeiriad at Salm 8:6 (sy’n cyfeirio yn ôl at Genesis 1:26-28) Mae wedi’i wneud e yn ben ar y cwbl – er lles yr eglwys. 23Yr eglwys ydy ei gorff e – mae’n llawn ohono fe sy’n llenwi’r bydysawd cyfan â’i bresenoldeb.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015