No themes applied yet
Rhybudd fod pob mab hynaf i farw
1Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i’n mynd i daro’r Pharo a gwlad yr Aifft un tro olaf. Bydd yn eich gollwng chi’n rhydd wedyn, heb unrhyw amodau. Yn wir, bydd e’n eich gyrru chi allan o’r wlad. 2Dwed wrth bobl Israel fod pawb i ofyn i’w cymdogion am bethau wedi’u gwneud o arian ac aur.” 3A dyma’r ARGLWYDD yn gwneud i’r Eifftiaid fod yn hael at bobl Israel. Roedd Moses ei hun yn cael ei ystyried yn ddyn pwysig iawn yn yr Aifft. Roedd gan swyddogion y Pharo a’r bobl gyffredin barch mawr ato.
4A dyma Moses yn dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Tua canol nos bydda i’n mynd drwy wlad yr Aifft, 5a bydd pob mab hynaf drwy’r wlad yn marw – o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna’r gaethferch sy’n troi’r felin law, a hyd yn oed pob anifail gwryw oedd y cyntaf i gael ei eni. 6Bydd pobl yn wylofain drwy wlad yr Aifft i gyd. Fydd dim byd tebyg wedi digwydd erioed o’r blaen, a fydd dim byd tebyg byth eto. 7Ond fydd dim yn bygwth pobl Israel na’u hanifeiliaid – dim hyd yn oed ci yn cyfarth! Byddwch chi’n deall wedyn fod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Eifftiaid a phobl Israel.’ 8Bydd dy swyddogion i gyd yn dod i edrych amdana i, ac yn plygu’n isel o mlaen i. Byddan nhw’n dweud, ‘Ewch! – Ti a’r bobl sy’n dy ddilyn di.’ Wedyn bydda i’n mynd.” Yna dyma Moses yn gadael y Pharo, wedi digio’n lân. 9A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Fydd y Pharo ddim yn gwrando arnoch chi. Felly dw i’n mynd i wneud mwy o wyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft.”
10Er bod Moses ac Aaron wedi gwneud y gwyrthiau rhyfeddol yma o flaen y Pharo, roedd yr ARGLWYDD wedi’i wneud e’n ystyfnig. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd yn rhydd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015