No themes applied yet
Barn ar Broffwydi Celwyddog
1Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo yn erbyn y proffwydi hynny o Israel sy’n cyhoeddi ffrwyth eu dychymyg eu hunain a’i alw’n ‘broffwydoliaeth’. Dwed wrthyn nhw, 3‘Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: Gwae’r proffwydi yna sy’n dychmygu pethau a ddim yn gweld beth dw i’n ei ddangos sy’n digwydd go iawn! 4Israel, mae dy broffwydi fel siacaliaid yng nghanol adfeilion! 5Dŷn nhw ddim wedi mynd ati i drwsio’r bylchau yn y wal, er mwyn i bobl Israel allu sefyll yn gadarn ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu. 6Dŷn nhw’n rhannu dim byd ond ffantasi a chelwydd! “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud,” medden nhw, ond wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu hanfon nhw! Ac maen nhw’n disgwyl i’w geiriau ddod yn wir! 7Ond ffantasi pur a chelwydd ydy honni, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud,” pan dw i ddim wedi dweud y fath beth.
8“‘Felly dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: Dw i’n mynd i ddelio gyda chi, achos dych chi wedi bod yn siarad nonsens ac yn cyhoeddi celwydd. 9Dw i’n mynd i daro’r proffwydi hynny sydd ond yn dychmygu pethau a dweud celwydd. Fyddan nhw ddim yn cael bod ar y cyngor sy’n arwain fy mhobl, na hyd yn oed yn cael eu cyfri’n rhan o bobl Israel, nac yn cael mynd i mewn i wlad Israel eto.’ Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.
10“Ydyn, maen nhw wedi camarwain pobl. Maen nhw wedi dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad ydy pethau’n iawn o gwbl. Mae fel adeiladu wal sych sydd braidd yn simsan, a phobl yn meddwl y bydd peintio drosti yn ei gwneud hi’n saffach! 11Dwed wrth y rhai sy’n peintio: ‘Pan ddaw glaw trwm a chenllysg a gwynt stormus, 12a’r wal wedi syrthio, bydd pobl yn gofyn, “Beth ddigwyddodd i’ch gwaith chi?”
13“‘Felly dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n ddig, a dw i’n mynd i anfon gwynt stormus, glaw trwm, a chenllysg fydd yn achosi difrod ofnadwy. 14Bydda i’n chwalu’r wal wnaethoch chi ei pheintio. Fydd dim ohoni’n sefyll. A phan fydd hi’n syrthio, byddwch chithau’n cael eich dinistrio gyda hi, a byddwch chi’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD. 15Dw i’n mynd i dywallt hynny o ddigofaint sydd gen i ar y wal, ac ar y rhai fuodd yn ei pheintio. Ac wedyn bydda i’n dweud, “Dyna ni, mae’r wal wedi mynd, a’r peintwyr hefyd – 16sef y proffwydi yna yn Israel oedd yn proffwydo am Jerwsalem ac yn dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad oedd pethau’n iawn o gwbl.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.’
17“Ddyn, dw i eisiau i ti droi at y merched hynny sy’n proffwydo dim byd ond ffrwyth eu dychymyg eu hunain. Proffwyda yn eu herbyn nhw, 18a dweud, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae’r merched yna sy’n gwnïo breichledau hud i’w gwisgo ar yr arddwrn, a sgarffiau hud i’w gwisgo ar y pen. Eu hunig fwriad ydy trapio pobl! Ydych chi’n meddwl y cewch chi drapio fy mhobl i ac wedyn llwyddo i ddianc eich hunain? 19Dych chi wedi gwneud i bobl droi cefn arna i am lond dwrn o haidd ac ychydig dameidiau o fara. Drwy ddweud celwydd wrth fy mhobl, sy’n mwynhau gwrando ar gelwydd, dych chi wedi lladd pobl ddylai fod wedi cael byw, a chynnig bywyd i’r rhai ddylai farw!
20“‘Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Deallwch chi fy mod i’n erbyn y breichledau hud dych chi’n eu defnyddio i drapio pobl fel dal adar. Bydda i’n eu rhwygo nhw oddi ar eich breichiau chi, a gollwng y bobl dych chi’n ceisio’u dal, yn rhydd. 21Bydda i’n tynnu’r sgarffiau hud oddi ar eich pennau chi, ac yn achub fy mhobl o’ch gafael chi. Dw i ddim yn mynd i adael i chi ddal gafael ynddyn nhw ddim mwy. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.
22“‘Dych chi wedi lladd ysbryd pobl dda gyda’ch celwyddau (pobl fyddwn i byth eisiau gwneud drwg iddyn nhw). A dych chi wedi annog pobl ddrwg i ddal ati i wneud drwg, yn lle troi ac achub eu bywydau. 23Ond gewch chi ddim cario mlaen gyda’ch ffantasi a’ch dewino! Dw i’n mynd i achub fy mhobl o’ch gafael chi, a byddwch chi’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015