No themes applied yet
Dwy chwaer anffyddlon23:0 gw. Jeremeia 3:6-11
1Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 2“Ddyn, roedd yna ddwy wraig oedd yn ferched i’r un fam. 3Pan oedden nhw’n ifanc iawn dyma nhw’n dechrau actio fel puteiniaid yn yr Aifft. Roedden nhw’n gadael i ddynion afael yn eu bronnau ac anwesu eu cyrff. 4Enw’r chwaer hynaf oedd Ohola, ac enw’r ifancaf oedd Oholiba. Rôn i wedi’u priodi nhw, a dyma nhw’n cael plant i mi. (Samaria ydy Ohola, a Jerwsalem ydy Oholiba.)
5“Roedd Ohola yn actio fel putain pan oedd hi hefo fi, ac yn ysu am gael rhyw gyda’i chariadon – swyddogion milwrol Asyria 6yn eu lifrai porffor, capteiniaid a swyddogion eraill; dynion golygus i gyd, yn farchogion yn y cafalri. 7Roedd hi’n rhoi ei hun iddyn nhw – dynion ifanc gorau Asyria i gyd. Roedd hi’n halogi ei hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw ac yn rhoi ei hun iddyn nhw. 8Roedd hi’n dal ati i buteinio fel roedd hi’n gwneud pan yn ferch ifanc yn yr Aifft, yn gadael i ddynion gael rhyw gyda hi, anwesu ei bronnau, a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau. 9Felly dyma fi’n gadael i’w chariadon, yr Asyriaid, ei chael hi – dyna oedd hi eisiau. 10Dyma nhw’n rhwygo’i dillad oddi arni, cymryd ei meibion a’i merched yn gaethion ac yna ei lladd hi. Roedd ei henw’n warth. Roedd y merched i gyd yn meddwl ei bod hi wedi cael beth roedd yn ei haeddu.
11“Er fod Oholiba, ei chwaer, wedi gweld hyn i gyd, dyma hi’n ymddwyn yn waeth fyth! Roedd hi’n hollol wyllt – fel hwren hollol lac ei moesau! 12Roedd hi’n ysu am gael rhyw gyda’r Asyriaid; swyddogion a chapteiniaid, milwyr yn eu lifrai gwych, a marchogion yn y cafalri – dynion ifanc golygus i gyd. 13Rôn i’n gweld ei bod wedi halogi ei hun, a mynd yr un ffordd â’i chwaer.
14“Ond aeth hi ymlaen i wneud pethau llawer gwaeth na’i chwaer! Dyma hi’n gweld lluniau o ddynion Babilon wedi’u cerfio’n goch llachar ar waliau. 15Roedd pob un gyda sash am ei ganol, a thwrban hardd ar ei ben. Roedden nhw’n edrych fel swyddogion milwrol; dynion Babilon, o’r wlad oedd yn cael ei galw yn Caldea.23:15,23 Caldea Hen enw ar ddeheudir gwlad Babilon. 16Pan welodd hi’r lluniau roedd hi’n ysu i’w cael nhw, a dyma hi’n anfon gwahoddiad iddyn nhw ddod ati. 17Felly dyma’r Babiloniaid yn dod ac yn neidio i’r gwely gyda hi. Dyma nhw’n ei halogi a’i threisio hi, nes iddi hi wedyn droi yn eu herbyn nhw am beidio dangos parch ati.
18“A dyna sut wnes i ymateb iddi hi, am orwedd yn ôl a chynnig ei hun iddyn nhw mor agored! Rôn i wedi ymateb yr un fath i’w chwaer. 19Ond doedd hi’n poeni dim! Aeth o ddrwg i waeth! Roedd hi’n dal i actio fel y butain yn yr Aifft pan oedd hi’n eneth ifanc! 20Roedd ganddi hiraeth am ei chariadon Eifftaidd oedd â pidynnau fel asynnod, ac yn bwrw had fel stalwyni. 21Dyna sut roedd hi’n cofio’i hymddygiad yn eneth ifanc, gyda dynion yr Aifft yn anwesu ei chorff ac yn gafael yn ei bronnau.
22“Felly, Oholiba,23:22 Oholiba sef, Jerwsalem (gw. adnod 4). dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n mynd i wneud i’r cariadon23:22 cariadon Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. wnest ti droi yn eu herbyn nhw godi yn dy erbyn di. Byddan nhw’n ymosod arnat ti o bob cyfeiriad – 23y Babiloniaid a phobl Caldea i gyd, llwythau Pecod, Shoa a Coa, a’r Asyriaid i gyd. Dynion ifanc golygus, yn swyddogion a chapteiniaid, cadfridogion ac arwyr milwrol – i gyd yn y cafalri. 24Byddan nhw’n ymosod arnat ti gyda’i cerbydau, wagenni, a byddin enfawr. Byddan nhw’n trefnu’u hunain yn rhengoedd o dy gwmpas di, gyda’u tarianau bach a mawr, ac yn gwisgo’u helmedau. Bydda i’n gadael iddyn nhw ddelio gyda ti yn ôl eu harferion eu hunain.
25“Dw i wedi cynhyrfu, a dw i’n mynd i ddangos i ti mor wyllt ydw i! Bydd y fyddin sy’n ymosod arnat ti yn dy drin di’n gwbl farbaraidd! Byddan nhw’n torri trwynau a chlustiau pobl i ffwrdd, ac yn lladd pawb yn gwbl ddidrugaredd. Byddan nhw’n cymryd dy blant yn gaethion, a bydd pawb sydd ar ôl yn cael eu llosgi’n fyw. 26Byddan nhw’n tynnu dillad pobl oddi arnyn nhw, ac yn dwyn eu tlysau hardd. 27Dw i’n mynd i roi stop ar dy ymddygiad anweddus di, a’r holl buteinio ddechreuodd yn yr Aifft! Fyddi di ddim yn edrych yn ôl yn hiraethus ar y dyddiau yna byth eto!
28“Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw, dw i’n mynd i dy roi di yn nwylo’r bobl hynny rwyt ti’n eu casáu, sef y cariadon hynny wnest ti droi cefn arnyn nhw. 29Byddan nhw’n gas atat ti, yn cymryd popeth wyt ti wedi gweithio amdano ac yn dy adael di’n noeth. Bydd pawb yn dy weld di’n noeth, fel pan oeddet ti’n byw’n anweddus ac yn puteinio. 30Bydd hyn i gyd yn digwydd am dy fod ti wedi puteino gyda gwledydd paganaidd a llygru dy hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw. 31Ti wedi mynd yr un ffordd â dy chwaer, a bydd cwpan y farn yfodd hi ohono yn cael ei basio ymlaen i ti.
32“Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:
Byddi’n yfed o gwpan dy chwaer –
cwpan fawr, ddofn, yn llawn i’r ymylon
(a bydd pawb yn gwneud hwyl ar dy ben).
33Byddi’n hollol feddw ac yn y felan:
Mae cwpan dy chwaer, Samaria,
yn gwpan dychryn a dinistr.
34Byddi’n yfed pob diferyn
yna’i malu’n ddarnau a rhwygo dy fronnau.
Fi ydy’r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.
35“Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod ti wedi anghofio amdana i, a throi dy gefn yn llwyr arna i, bydd rhaid i ti wynebu canlyniadau’r ymddygiad anweddus a’r puteinio.”
36A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, Wyt ti’n barod i gyhoeddi’r farn ar Ohola ac Oholiba?23:36 Ohola ac Oholiba sef, Samaria a Jerwsalem (gw. adnod 4). Dwed wrthyn nhw mor ffiaidd maen nhw wedi bod! 37Maen nhw wedi godinebu a thywallt gwaed. Maen nhw wedi godinebu drwy addoli eilun-dduwiau, a thywallt gwaed eu plant drwy eu llosgi’n aberth. 38Ar ben y cwbl maen nhw wedi halogi’r cysegr a diystyru’r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. 39Yr un diwrnod ac roedden nhw’n lladd eu meibion i’r eilun-dduwiau, roedden nhw’n dod i mewn i’r deml i addoli! Halogi’r cysegr, fy nhŷ i!
40“Ac wedyn roedden nhw’n anfon negeswyr i wlad bell i ofyn am help. A beth wnest ti pan wnaeth y rheiny gyrraedd? Cael bath, rhoi colur ar dy lygaid, a gwisgo dy dlysau. 41Wedyn gorwedd yn ôl ar soffa grand, a bwrdd llawn o’i blaen gydag arogldarth ac olew arno – fy rhai i! 42Roedd sŵn tyrfa o bobl yn diota a chael amser da gyda ti – dynion o bobman, hyd yn oed Sabeaid o’r anialwch. Roedden nhw’n rhoi breichledau i’r chwiorydd, a tiaras hardd i’w gwisgo ar eu pennau.
43“A dyma fi’n dweud, ‘Os ydyn nhw wir eisiau putain fel hon sydd wedi hen ddarfod amdani, cân nhw gario ymlaen!’ 44A dyna ddigwyddodd. Dyma nhw’n mynd at y ddwy, Ohola ac Oholiba, i gael rhyw. Merched hollol wyllt ac anfoesol! 45Ond bydd dynion cyfiawn yn eu barnu nhw, a rhoi’r gosb maen nhw’n ei haeddu am odinebu a thywallt gwaed. Dyna’n hollol maen nhw’n euog o’i wneud.
46“Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:
Dewch â byddin yn eu herbyn i greu dychryn
ac i ddwyn oddi arnyn nhw!
47Bydd y fyddin yn eu lladd drwy daflu cerrig,
a’u taro i lawr gyda chleddyfau.
Bydd yn lladd eu plant ac yn llosgi eu tai!
48Dw i’n mynd i roi stop ar yr holl ymddygiad anweddus yma, er mwyn i wragedd eraill ddysgu gwers a pheidio gwneud yr un peth. 49Byddan nhw’n talu’n ôl i ti am y ffordd rwyt ti wedi ymddwyn. Byddi’n cael dy gosbi am bechu gyda dy eilun-dduwiau. A byddi’n deall wedyn mai fi ydy’r Meistr, yr ARGLWYDD.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015