No themes applied yet
Proffwydoliaeth yn erbyn Edom
1Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Edom,35:2 Edom Hebraeg, “Mynydd Seir”, sef enw arall ar Edom. a proffwydo yn ei herbyn. 3Dwed wrthi, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:
Dw i’n mynd i ddelio gyda ti, Edom.
Dw i’n mynd i dy daro di’n galed,
a dy droi di yn anialwch diffaith!
4Bydda i’n gwneud dy drefi’n adfeilion.
Byddi fel anialwch!
A byddwch chi’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.
5“‘Rwyt ti bob amser wedi casáu pobl Israel. Roeddet ti’n ymosod arnyn nhw gyda’r cleddyf pan oedden nhw mewn trafferthion, pan o’n i eisoes wedi’u cosbi nhw. 6Felly, mor sicr â’r ffaith mai fi ydy’r Duw byw, gan dy fod ti mor hoff o dywallt gwaed mae lladdfa ar ei ffordd i ti! 7Bydda i’n troi Edom yn anialwch diffaith. Bydd hyd yn oed y rhai sy’n pasio trwodd yn cael eu lladd. 8Bydd cyrff marw yn gorchuddio dy fynyddoedd. Bydd pobl wedi’u lladd â’r cleddyf yn gorwedd ar y bryniau, yn y dyffrynnoedd ac ym mhob ceunant. 9Byddi’n adfeilion am byth. Fydd neb yn byw ynot ti. A byddwch chi’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.
10“‘Roeddet ti’n dweud, “Bydd y ddwy wlad yna yn perthyn i mi! Bydda i’n eu cymryd nhw,” – er bod yr ARGLWYDD yna. 11Felly, mor sicr â’r ffaith mai fi ydy’r Duw byw,’ meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘dw i’n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti’n haeddu, am fod mor gas a chenfigennus a sbeitlyd. Bydda i’n dangos pwy ydw i iddyn nhw, drwy dy gosbi di. 12Byddi’n gwybod wedyn fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi clywed yr holl bethau sarhaus rwyt ti wedi bod yn eu dweud am fynyddoedd Israel. “Maen nhw wedi’u dinistrio,” meddet ti, “Maen nhw yna ar blât i ni!” 13Roeddet ti’n brolio dy hun a ddim yn stopio gwneud sbort am fy mhen i – ydw, dw i wedi clywed y cwbl!’ 14Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydd y byd i gyd yn dathlu pan fydda i’n dy droi di’n adfeilion. 15Pan gafodd gwlad Israel ei dinistrio roeddet ti’n dathlu. Ond nawr mae’r un peth yn mynd i ddigwydd i ti! Bydd Edom, ie pawb drwy’r wlad i gyd, yn cael eu dinistrio! Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015