No themes applied yet
Y dinistr sy’n dod i Jerwsalem
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud:
1“Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd cleddyf miniog, a’i ddefnyddio fel rasel i siafio dy ben a dy farf. Wedyn cymer glorian i bwyso’r gwallt wyt ti wedi’i dorri, a’i rannu’n dri. 2Rwyt i losgi traean ohono yn y ddinas pan fydd y cyfnod o warchae symbolaidd drosodd. Yna cymryd traean arall a’i dorri’n ddarnau mân gyda’r cleddyf o gwmpas y ddinas. Yna taflu’r traean sydd ar ôl i’r gwynt ei chwalu i bobman. Dw i’n mynd i dynnu fy nghleddyf o’i wain, a mynd ar eu holau nhw! 3Ond cymer rhyw ychydig bach o’r gwallt a’i gadw’n saff yn dy boced. 4Byddi’n cymryd ychydig o hwnnw i’w losgi yn y tân. Bydd y tân hwnnw’n lledu ac yn dinistrio Israel i gyd.”
5Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dyma Jerwsalem. Dw i wedi rhoi’r lle canolog iddi hi, gyda’r gwledydd eraill i gyd o’i chwmpas. 6Ond mae pobl Jerwsalem wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i, a gwneud mwy o ddrwg nag unrhyw wlad arall!”
7Felly dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud:
“Dych chi’n achosi mwy o drafferth na’r gwledydd o’ch cwmpas chi i gyd! Dych chi wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i. Allwch chi ddim hyd yn oed cadw safonau’r gwledydd paganaidd o’ch cwmpas chi! 8Felly dw i’n mynd i ddelio gyda chi – ie, fi, yr ARGLWYDD. Dw i’n eich erbyn chi! Dw i’n mynd i’ch cosbi chi, a bydd y gwledydd i gyd yn cael gweld y peth. 9Dw i’n mynd i wneud rhywbeth dw i erioed wedi’i wneud o’r blaen a fydda i byth yn ei wneud eto, am eich bod chi wedi gwneud pethau mor ffiaidd. 10Bydd pethau’n mynd mor wael yn Jerwsalem, bydd rhieni’n bwyta’u plant a plant yn bwyta’u rhieni! Dw i’n mynd i’ch barnu chi, a bydd y bobl hynny fydd yn llwyddo i oroesi yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad.”
11“Mor sicr a’r ffaith fy mod i’n fyw,” meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD, “Am eich bod chi wedi llygru fy lle sanctaidd i gyda’ch eilunod a’r holl bethau ffiaidd eraill dych chi wedi’u gwneud, dw i’n mynd i’ch torri chi i ffwrdd. Fydd yna ddim trugaredd o gwbl! 12Bydd traean poblogaeth Jerwsalem yn marw yn y ddinas o haint a newyn. Bydd traean arall yn cael eu lladd yn y rhyfel. A bydd y traean sydd ar ôl yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad. Ond bydda i’n tynnu fy nghleddyf o’i wain ac yn mynd ar eu holau nhw!”
13“Ar ôl hynny, bydda i wedi tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! Byddan nhw’n gweld, wedyn, fy mod i wedi bod yn hollol o ddifri, ac wedi cael fy mrifo go iawn ganddyn nhw. 14Fyddi di Jerwsalem yn ddim byd ond tomen o adfeilion. 15Byddi’n destun sbort i bawb sy’n pasio heibio. Bydd y gwledydd sydd o dy gwmpas wrth eu boddau yn enllibio ac yn cega pan fydda i’n dy farnu di ac yn dy gosbi mor ffyrnig. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! 16Bydda i’n saethu saethau creulon newyn atoch chi, a’ch dinistrio chi. Fydd gynnoch chi ddim bwyd ar ôl. 17Bydd newyn ac anifeiliaid gwyllt yn lladd eich plant chi. Bydd afiechydon ofnadwy a thrais yn eich llethu chi. Bydda i’n anfon byddin i ymosod arnoch chi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015