No themes applied yet
Problem priodasau cymysg
1Ar ôl hyn i gyd dyma’r penaethiaid yn dod ata i a dweud, “Mae pobl Israel a’r offeiriaid a’r Lefiaid yn byw yr un fath â’r bobl baganaidd o’u cwmpas nhw. Maen nhw’n mynd drwy’r defodau ffiaidd roedd y Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid, pobl Ammon, Moab, yr Aifft, a’r Amoriaid yn eu gwneud. 2Maen nhw hyd yn oed wedi priodi rhai o ferched y bobloedd yma, fel bod pobl sanctaidd Duw wedi cymysgu gyda’r bobl leol. Ac yn waeth na hynny, yr arweinwyr a’r swyddogion oedd y rhai cyntaf i fod yn anffyddlon!”
3Pan glywais hyn dyma fi’n rhwygo fy nillad, tynnu gwallt fy mhen a’m barf ac eistedd ar lawr. Rôn i mewn sioc. 4A dyma pawb oedd wir yn parchu beth roedd Duw Israel yn ei ddweud yn casglu o’m cwmpas i, am fod y bobl ddaeth yn ôl o’r gaethglud wedi bod mor anffyddlon. Bues i’n eistedd yna nes oedd hi’n amser offrwm yr hwyr.
5Pan ddaeth hi’n amser offrwm yr hwyr dyma fi’n codi, a’m dillad wedi’u rhwygo. Yna mynd ar fy ngliniau, dal fy nwylo ar led flaen yr ARGLWYDD fy Nuw, 6a gweddïo,
“O Dduw! Mae gen i ormod o gywilydd dy wynebu di, fy Nuw. Dŷn ni wedi cael ein llethu’n llwyr gan ein pechodau, ac mae’n heuogrwydd wedi cyrraedd yr holl ffordd i’r nefoedd. 7Dŷn ni wedi pechu o ddyddiau’n hynafiaid hyd heddiw. A dyna pam dŷn ni, a’n brenhinoedd a’n hoffeiriaid wedi cael ein cam-drin gan frenhinoedd gwledydd eraill – wedi colli brwydrau, cael ein cymryd yn gaethion, colli popeth a chael ein cywilyddio. A dyna sut mae hi arnon ni heddiw.
8Ond nawr, yn ddiweddar, rwyt ti ARGLWYDD ein Duw wedi bod yn garedig aton ni. Ti wedi gadael i rai ohonon ni ddod yn ôl, ac wedi gadael i ni setlo i lawr yn dy ddinas sanctaidd. Ti wedi’n gwneud ni’n wirioneddol hapus, ac wedi’n rhyddhau ni o’n caethiwed. 9Roedden ni’n gaeth, ond wnest ti ddim ein gadael ni’n gaeth. Ti wedi gwneud i frenhinoedd Persia fod yn garedig aton ni. Ti wedi rhoi bywyd newydd i ni, a chyfle i ailadeiladu teml ein Duw, a dod yn ôl i fyw yn saff yn Jwda a Jerwsalem.
10Ond nawr, beth allwn ni ei ddweud, O Dduw? Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar beth roeddet ti’n ddweud 11drwy dy weision y proffwydi. Roedden nhw wedi dweud wrthon ni: ‘Mae’r tir dych chi’n mynd iddo wedi’i lygru gan arferion drwg y bobl sy’n byw yno. Maen nhw wedi llenwi’r wlad gyda’r pethau ffiaidd maen nhw’n eu gwneud. 12Felly peidiwch gadael i’ch plant briodi eu plant nhw. Peidiwch gwneud dim i’w helpu nhw i lwyddo a ffynnu. Wedyn byddwch chi’n gryf, ac yn mwynhau holl gynnyrch da’r tir, a byddwch yn gallu pasio’r cwbl ymlaen i’ch disgynyddion am byth.’
13Mae’r cwbl sydd wedi digwydd i ni yn ganlyniad yr holl ddrwg dŷn ni wedi’i wneud. Ac eto, ein Duw, wnest ti mo’n cosbi ni gymaint ag oedden ni’n ei haeddu, gan dy fod wedi dod â rhai ohonon ni yn ôl. 14Felly ydyn ni’n mynd i dorri dy orchmynion di eto, a chymysgu drwy briodas gyda’r bobl yma sy’n gwneud pethau mor ffiaidd? Fyddai hynny ddim yn gwneud i ti ddigio cymaint gyda ni nes ein difetha ni’n llwyr, a gadael neb ar ôl? 15O ARGLWYDD, Duw Israel, rwyt ti’n gwneud beth sy’n iawn, a dyna pam mai criw bach ohonon ni sydd ar ôl heddiw. A dyma ni, yn sefyll o dy flaen di yn euog. Does gynnon ni ddim troed i sefyll arni.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015