No themes applied yet
Jacob yn dwyn bendith y mab hynaf
1Roedd Isaac yn hen ddyn ac yn dechrau mynd yn ddall. Dyma fe’n galw Esau, ei fab hynaf ato, 2a dweud, “Gwranda, dw i wedi mynd yn hen, a gallwn i farw unrhyw bryd. 3Cymer dy fwa, a chawell o saethau, a dos allan i hela i mi. 4Wedyn dw i am i ti baratoi y math o fwyd blasus dw i’n ei hoffi, i mi gael bwyta. Dw i wir eisiau dy fendithio di cyn i mi farw.”
5Tra oedd Isaac yn dweud hyn wrth Esau, roedd Rebeca wedi bod yn gwrando. Felly pan aeth Esau allan i hela 6dyma Rebeca’n mynd at Jacob a dweud wrtho, “Dw i newydd glywed dy dad yn dweud wrth Esau dy frawd, 7‘Dos allan i hela a gwneud bwyd blasus i mi ei fwyta. Wedyn gwna i dy fendithio di o flaen yr ARGLWYDD cyn i mi farw.’ 8Felly gwna yn union fel dw i’n dweud. 9Dewis ddau fyn gafr da i mi o’r praidd. Gwna i eu coginio a gwneud pryd blasus i dy dad – y math o fwyd mae’n ei hoffi. 10Cei di fynd â’r bwyd i dy dad iddo’i fwyta. Wedyn bydd e’n dy fendithio di cyn iddo farw.” 11“Ond mae Esau yn flewog i gyd,” meddai Jacob wrth ei fam. “Croen meddal sydd gen i. 12Os gwnaiff dad gyffwrdd fi bydd yn gweld fy mod i’n ceisio ei dwyllo. Bydda i’n dod â melltith arna i fy hun yn lle bendith.” 13Ond dyma’i fam yn dweud, “Gad i’r felltith ddod arna i. Gwna di beth dw i’n ddweud. Dos i nôl y geifr.”
14Felly aeth Jacob i nôl y geifr, a dod â nhw i’w fam. A dyma’i fam yn eu coginio nhw, a gwneud y math o fwyd blasus roedd Isaac yn ei hoffi. 15Roedd dillad gorau Esau, ei mab hynaf, yn y tŷ gan Rebeca. Dyma hi’n eu cymryd nhw a gwneud i Jacob, ei mab ifancaf, eu gwisgo nhw. 16Wedyn dyma hi’n cymryd crwyn y myn geifr a’u rhoi nhw ar ddwylo a gwddf Jacob. 17Yna dyma hi’n rhoi’r bwyd blasus, gyda bara roedd hi wedi’i bobi, i’w mab Jacob.
18Aeth Jacob i mewn at ei dad. “Dad,” meddai. “Ie, dyma fi,” meddai Isaac. “Pa un wyt ti?” 19“Esau, dy fab hynaf,” meddai Jacob. “Dw i wedi gwneud beth ofynnaist ti i mi. Tyrd, eistedd i ti gael bwyta o’r helfa. Wedyn cei fy mendithio i.” 20Ond meddai Isaac, “Sut yn y byd wnest ti ei ddal mor sydyn?” A dyma Jacob yn ateb, “Yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth fy arwain i ato.” 21Wedyn dyma Isaac yn dweud wrth Jacob, “Tyrd yma i mi gael dy gyffwrdd di. Dw i eisiau bod yn siŵr mai Esau wyt ti.” 22Felly aeth Jacob at ei dad, a dyma Isaac yn gafael yn ei law. “Llais Jacob dw i’n ei glywed,” meddai, “ond dwylo Esau ydy’r rhain.” 23(Wnaeth e ddim ei nabod am fod y dwylo’n flewog fel dwylo Esau. Dyna pam wnaeth Isaac fendithio Jacob.) 24“Fy mab Esau wyt ti go iawn?” gofynnodd Isaac. “Ie,” meddai Jacob. 25“Tyrd â’r helfa yma i mi gael bwyta cyn dy fendithio di,” meddai Isaac. Felly daeth Jacob â’r bwyd iddo, a dyma Isaac yn ei fwyta. Daeth â gwin iddo’i yfed hefyd. 26Wedyn dyma Isaac yn dweud, “Tyrd yma a rho gusan i mi fy mab.” 27Aeth Jacob ato a rhoi cusan iddo. Pan glywodd Isaac yr arogl ar ddillad ei fab, dyma fe’n ei fendithio, a dweud,
“Ie, mae fy mab yn arogli
fel y tir mae’r ARGLWYDD wedi’i fendithio.
28Boed i Dduw roi gwlith o’r awyr i ti,
a chnydau gwych o’r tir,
– digonedd o ŷd a grawnwin.
29Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di,
a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen.
Byddi’n feistr ar dy frodyr,
a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen.
Bydd Duw yn melltithio pawb sy’n dy felltithio di,
ac yn bendithio pawb sy’n dy fendithio di!”
30Roedd Isaac newydd orffen bendithio Jacob, a Jacob prin wedi gadael, pan ddaeth Esau i mewn ar ôl bod yn hela. 31Dyma yntau’n paratoi bwyd blasus, a mynd ag e i’w dad. “Tyrd, eistedd, i ti gael bwyta o helfa dy fab, ac wedyn cei fy mendithio i.” 32“Pwy wyt ti?” meddai Isaac wrtho. “Esau, dy fab hynaf,” meddai yntau. 33Dechreuodd Isaac grynu drwyddo’n afreolus. “Ond pwy felly ddaeth â bwyd i mi ar ôl bod allan yn hela? Dw i newydd fwyta cyn i ti ddod i mewn, a’i fendithio fe. Bydd e wir yn cael ei fendithio!” 34Pan glywodd Esau beth ddwedodd ei dad, dyma fe’n sgrechian gweiddi’n chwerw. “Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” meddai. 35Ond meddai Isaac, “Mae dy frawd wedi fy nhwyllo i, a dwyn dy fendith.” 36“Mae’r enw Jacob27:36 h.y. gafael yn sawdl, neu, disodli. yn ei ffitio i’r dim!” meddai Esau. “Dyma’r ail waith iddo fy nisodli. Mae wedi cymryd fy hawliau fel y mab hynaf oddi arna i, a nawr mae e wedi dwyn fy mendith i.” Ac meddai wrth ei dad, “Wyt ti ddim wedi cadw un fendith i mi?” 37Ond dyma Isaac yn ei ateb, “Dw i wedi’i wneud e yn feistr arnat ti. Bydd ei berthnasau i gyd yn ei wasanaethu. Bydd ganddo ddigon o ŷd a sudd grawnwin i’w gynnal. Felly beth sydd ar ôl i mi ei roi i ti, fy mab?” 38“Ai dim ond un fendith sydd gen ti, dad? Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” A dyma Esau’n dechrau crio’n uchel.
39Felly dyma Isaac, ei dad, yn dweud fel hyn:
“Byddi di’n byw heb gael cnydau da o’r tir,
a heb wlith o’r awyr.
40Byddi di’n byw drwy ymladd â’r cleddyf,
ac yn gwasanaethu dy frawd.
Ond byddi di’n gwrthryfela,27:40 ystyr yr Hebraeg yn aneglur.
ac yn torri’r iau oedd wedi’i rhoi ar dy ysgwyddau.”
Jacob yn dianc i Padan-aram
41Roedd Esau yn casáu Jacob o achos y fendith roedd ei dad wedi’i rhoi iddo. “Bydd dad wedi marw cyn bo hir,” meddai’n breifat. “Bydda i’n lladd Jacob wedyn.” 42Ond daeth Rebeca i glywed am beth roedd Esau, ei mab hynaf, yn ei ddweud. Felly dyma hi’n galw am Jacob, ei mab ifancaf, ac yn dweud wrtho, “Mae dy frawd Esau yn bwriadu dial arnat ti drwy dy ladd di. 43Felly gwna beth dw i’n ddweud. Rhaid i ti ddianc ar unwaith at fy mrawd Laban yn Haran. 44Aros yno gydag e am ychydig, nes bydd tymer dy frawd wedi tawelu. 45Pan fydd e wedi anghofio beth wnest ti, gwna i anfon amdanat ti, i ti ddod yn ôl. Pam ddylwn i golli’r ddau ohonoch chi’r un diwrnod?”
46Aeth Rebeca at Isaac a dweud wrtho, “Mae’r merched yma o blith yr Hethiaid yn gwneud bywyd yn annioddefol! Os bydd Jacob yn gwneud yr un peth ag Esau ac yn priodi un o’r merched lleol yma, fydd bywyd ddim yn werth ei fyw!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015