No themes applied yet
1Felly galwodd Isaac am Jacob a’i fendithio. Dwedodd wrtho, “Rhaid i ti beidio priodi un o ferched Canaan. 2Dos i dŷ Bethwel dy daid yn Padan-aram, a phriodi un o ferched Laban, brawd dy fam. 3Boed i’r Duw sy’n rheoli popeth28:3 Hebraeg, El Shadai. dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti, nes byddan nhw’n grŵp mawr o bobloedd. 4Boed i Dduw roi bendith Abraham i ti a dy ddisgynyddion, i ti gymryd drosodd y tir rwyt ti wedi bod yn byw arno fel mewnfudwr. Dyma’r tir roddodd Duw i Abraham.”
5Felly dyma Isaac yn anfon Jacob i ffwrdd. Aeth i Padan-aram at frawd ei fam, sef Laban (mab Bethwel yr Aramead).
Esau yn priodi merch ei ewyrth Ishmael
6Clywodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a’i anfon i Padan-aram i ffeindio gwraig. Clywodd ei fod wedi dweud wrtho am beidio priodi un o ferched Canaan, 7a bod Jacob wedi gwrando ar ei dad a’i fam a mynd i Padan-aram. 8Sylweddolodd Esau fod ei wragedd Canaaneaidd ddim yn plesio’i dad. 9Felly dyma Esau yn mynd at ei ewythr Ishmael (mab Abraham) a phriodi gwraig arall, sef Machalath, merch Ishmael a chwaer Nebaioth.
Breuddwyd Jacob
10Yn y cyfamser, roedd Jacob wedi gadael Beersheba i fynd i Haran. 11Daeth i le arbennig a phenderfynu aros yno dros nos, am fod yr haul wedi machlud. Cymerodd gerrig oedd yno a’u gosod o gwmpas ei ben a gorwedd i lawr i gysgu. 12Cafodd freuddwyd. Roedd yn gweld grisiau28:12 neu, ysgol. yn codi’r holl ffordd o’r ddaear i’r nefoedd, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac i lawr y grisiau, 13a’r ARGLWYDD yn sefyll ar dop y grisiau. “Fi ydy’r ARGLWYDD – Duw Abraham dy daid ac Isaac dy dad,” meddai. “Dw i’n mynd i roi’r wlad yma lle rwyt ti’n gorwedd i ti a dy ddisgynyddion. 14Bydd gen ti ddisgynyddion i bob cyfeiriad – gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti a dy ddisgynyddion. 15Dw i eisiau i ti wybod y bydda i gyda ti. Bydda i’n dy amddiffyn ble bynnag ei di, ac yn dod â ti’n ôl yma. Wna i ddim dy adael di. Bydda i’n gwneud beth dw i wedi’i addo i ti.”
16Dyma Jacob yn deffro. “Mae’n rhaid bod yr ARGLWYDD yma,” meddai, “a doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny.” 17Roedd e wedi dychryn, “Am le rhyfeddol! Mae Duw yn byw yma! Mae fel giât i mewn i’r nefoedd!”
18Felly dyma Jacob yn codi’n gynnar. Cymerodd y garreg oedd wedi bod wrth ei ben, a’i gosod fel colofn, a thywallt olew drosti. 19Galwodd y lle yn Bethel28:19 h.y. Tŷ Dduw. (Lws oedd enw’r dre o’r blaen). 20Wedyn dyma Jacob yn gwneud addewid: “O Dduw, os byddi di gyda mi, yn fy amddiffyn i ar fy nhaith ac yn rhoi bwyd a dillad i mi 21nes i mi gyrraedd yn ôl adre’n saff, ti, yr ARGLWYDD, fydd fy Nuw i. 22Bydd y garreg dw i wedi’i gosod yma yn nodi dy fod ti’n byw yma. A dw i hefyd yn addo rhoi un rhan o ddeg o bopeth yn ôl i ti.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015