No themes applied yet
Sechem yn treisio merch Jacob a Lea
1Aeth Dina (merch Lea a Jacob) allan i weld rhai o ferched ifanc yr ardal. 2Pan welodd Sechem hi (Sechem oedd yn fab i bennaeth yr ardal, Hamor yr Hefiad), cipiodd hi, ymosod yn rhywiol arni a’i threisio. 3Ond wedyn syrthiodd yn ddwfn mewn cariad â hi a cheisiodd ennill ei serch. 4Aeth at ei dad, Hamor, a dweud, “Dw i eisiau i ti gael y ferch yma yn wraig i mi.”
5Clywodd Jacob fod Sechem wedi treisio ei ferch, Dina. Roedd ei feibion allan yn y wlad yn gofalu am yr anifeiliaid ar y pryd. A phenderfynodd Jacob beidio dweud dim nes iddyn nhw ddod adre.
6Yna dyma Hamor, tad Sechem, yn mynd i siarad â Jacob am Dina. 7Yn y cyfamser, roedd meibion Jacob wedi cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi clywed y newyddion, yn teimlo’r sarhad ac yn wyllt gynddeiriog. Roedd Sechem wedi gwneud peth gwarthus yn Israel drwy ymosod yn rhywiol ar ferch Jacob – rhywbeth na ddylai byth fod wedi digwydd. 8Ond dyma Hamor yn apelio arnyn nhw, “Mae Sechem dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â’r ferch. Plîs gadewch iddo’i phriodi hi. 9Gadewch i ni gytuno fod ein plant ni’n cael priodi ei gilydd. Gadewch i’ch merched chi briodi rhai o’n dynion ni, a gewch chi briodi ein merched ni. 10Cewch fyw yma gyda ni. Mae’r wlad o’ch blaen chi. Arhoswch yma. Cewch fynd ble mynnwch chi, a phrynu tir yma.”
11Wedyn dyma Sechem ei hun yn dweud wrth dad a brodyr Dina, “Plîs wnewch chi fy nerbyn i? Dw i’n fodlon rhoi i chi beth bynnag dych chi eisiau. 12Gwnewch y tâl am y briodferch mor uchel ag y mynnwch chi. Dw i’n fodlon talu unrhyw beth, dim ond i chi roi’r ferch yn wraig i mi.” 13Ond am fod Sechem wedi treisio eu chwaer, dyma frodyr Dina yn twyllo Sechem a Hamor ei dad. 14Dyma nhw’n dweud wrthyn nhw, “Allwn ni ddim gadael i’n chwaer briodi dyn sydd heb fod drwy ddefod enwaediad. Byddai hynny’n gywilydd mawr arnon ni. 15Allwn ni ddim ond cytuno ar un amod: rhaid i bob un o’ch dynion chi gael ei enwaedu yr un fath â ni. 16Os gwnewch chi hynny, cewch briodi ein merched ni a byddwn ni’n priodi eich merched chi. Byddwn yn dod i fyw atoch chi, a byddwn ni’n un bobl. 17Ond os gwrthodwch chi gael eich enwaedu, awn ni i ffwrdd, a mynd â’n chwaer gyda ni.”
18Roedd eu cynnig yn swnio’n dda i Hamor a’i fab Sechem. 19Felly dyma Sechem yn cytuno ar unwaith. Roedd e eisiau Dina, merch Jacob, cymaint. (A fe oedd y person pwysica yn y teulu i gyd.)
20Felly dyma Hamor a’i fab Sechem yn mynd at giât y dre ble roedden nhw’n byw i siarad â’r dynion yno. A dyma ddwedon nhw: 21“Mae’r bobl yma’n gyfeillgar. Gadewch iddyn nhw fyw yn y wlad yma, a mynd i ble fynnan nhw. Mae yna ddigon o dir iddyn nhw. Gadewch i ni briodi eu merched nhw, a cân nhw briodi ein merched ni. 22Ond wnân nhw ddim ond cytuno i fyw gyda ni a bod yn un bobl gyda ni ar yr amod yma: rhaid i’n dynion ni i gyd gael eu henwaedu yr un fath â nhw. 23Onid ni fydd piau’r holl anifeiliaid a phopeth arall sydd ganddyn nhw wedyn? Gadewch i ni gytuno gyda nhw a gadael iddyn nhw fyw gyda ni.”
24Dyma’r dynion ar gyngor y dre yn cytuno gyda Hamor a’i fab Sechem. A dyma pob un o ddynion y dre yn mynd drwy’r ddefod o gael eu henwaedu.
25Ddeuddydd wedyn, pan oedden nhw’n dal mewn poen, aeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi (brodyr Dina), i mewn i’r dre yn dawel fach, a lladd y dynion i gyd. 26Dyma nhw’n lladd Hamor a’i fab Sechem, cymryd Dina o dŷ Sechem, a gadael. 27Wedyn dyma feibion eraill Jacob yn mynd yno ac yn ysbeilio’r cyrff a’r dref, am fod eu chwaer wedi cael ei threisio. 28Cymeron nhw ddefaid a geifr, ychen ac asynnod, a phopeth arall allen nhw ddod o hyd iddo yn y dref ei hun a’r ardal o’i chwmpas – 29popeth o werth, y gwragedd a’r plant a phopeth oedd yn eu tai.
30“Dych chi wedi achosi trwbwl go iawn i mi,” meddai Jacob wrth Simeon a Lefi. “Bydd pobl y wlad yma, y Canaaneaid a’r Peresiaid, yn fy nghasáu i. Does dim llawer ohonon ni. Os byddan nhw’n dod at ei gilydd ac ymosod arnon ni, bydd hi ar ben arnon ni i gyd. Byddwn ni’n cael ein dinistrio’n llwyr!” 31Ond dyma Simeon a Lefi yn ei ateb, “Oedd hi’n iawn i’n chwaer ni gael ei thrin fel putain?”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015