No themes applied yet
Breuddwydion y Pharo
1Aeth dwy flynedd gyfan heibio. A dyma’r Pharo yn cael breuddwyd. Roedd yn sefyll wrth afon Nîl, 2a dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi’u pesgi yn dod allan o’r afon a dechrau pori ar y lan. 3Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o’r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Dyma nhw’n sefyll gyda’r gwartheg eraill ar lan afon Nîl. 4A dyma’r gwartheg tenau, gwael yn bwyta’r gwartheg oedd yn edrych yn dda. Ac wedyn dyma’r Pharo’n deffro. 5Pan aeth yn ôl i gysgu cafodd freuddwyd arall. Gwelodd saith tywysen o rawn, oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn. 6A dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael wedi’u crino gan wynt y dwyrain. 7A dyma’r tywysennau gwael yn llyncu’r tywysennau iach. Deffrodd y Pharo a sylweddoli mai breuddwyd arall oedd hi.
8Y bore wedyn roedd yn teimlo’n anesmwyth, felly galwodd ar swynwyr doeth yr Aifft i ddod i’w weld. Dwedodd wrthyn nhw am ei freuddwyd ond doedd neb yn gallu esbonio ystyr y freuddwyd iddo.
9Yna dyma’r prif-fwtler yn mynd i siarad â’r Pharo. “Dw i newydd gofio rhywbeth heddiw. Dw i wedi bod ar fai,” meddai. 10“Roedd y Pharo wedi gwylltio gyda’i weision, ac wedi fy anfon i a’r pen-pobydd i garchar capten y gwarchodlu. 11Cafodd y ddau ohonon ni freuddwyd ar yr un noson, ac roedd ystyr arbennig i’r ddwy freuddwyd. 12Roedd Hebrëwr ifanc yn y carchar, gwas capten y gwarchodlu. Pan ddwedon ni wrtho am ein breuddwydion, dyma fe’n esbonio ystyr y ddwy freuddwyd. 13A digwyddodd popeth yn union fel roedd wedi dweud. Ces i fy swydd yn ôl ond cafodd corff y pobydd ei grogi ar bolyn.”
14Felly dyma’r Pharo yn anfon am Joseff. A dyma nhw’n dod ag e allan ar frys o’i gell dan ddaear. Ar ôl iddo siafio a gwisgo dillad glân, dyma fe’n cael ei ddwyn o flaen y Pharo. 15A dyma’r Pharo yn dweud wrtho, “Dw i wedi cael breuddwyd a does neb yn gallu dweud wrtho i beth ydy ei hystyr hi. Dw i’n deall dy fod ti’n gallu dehongli breuddwydion.” 16Atebodd Joseff, “Dim fi. Duw ydy’r unig un all wneud i’r Pharo deimlo’n well.” 17Felly dyma’r Pharo’n dweud wrth Joseff, “Yn y freuddwyd roeddwn i’n sefyll ar lan afon Nîl. 18Dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi’u pesgi yn dod allan o’r afon a dechrau pori ar y lan. 19Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o’r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Doeddwn i erioed wedi gweld rhai oedd yn edrych mor wael yng ngwlad yr Aifft i gyd. 20A dyma’r gwartheg tenau, gwael yn bwyta’r saith buwch oedd yn edrych yn dda. 21Ond fyddai neb yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud hynny, achos roedden nhw’n dal i edrych mor wael ag erioed. Ac wedyn dyma fi’n deffro.
22“Es i yn ôl i gysgu,41:22 Felly Groeg, Syrieg, Fwlgat (Lladin). Hebraeg heb y cymal Es i yn ôl i gysgu. a chefais freuddwyd arall. Gwelais saith tywysen o rawn oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn. 23Wedyn dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael, wedi gwywo ac wedi’u crino gan wynt y dwyrain. 24A dyma’r tywysennau gwael yn llyncu’r saith tywysen iach. Ond pan ddwedais hyn wrth y swynwyr, doedd neb ohonyn nhw’n gallu dweud yr ystyr wrtho i.”
25Yna dyma Joseff yn dweud wrth y Pharo, “Yr un ystyr sydd i’r ddwy freuddwyd. Mae Duw wedi dangos i’r Pharo beth mae ar fin ei wneud. 26Saith mlynedd ydy’r saith o wartheg sy’n edrych yn dda, a saith mlynedd ydy’r saith dywysen iach. Un ystyr sydd i’r ddwy freuddwyd. 27Saith mlynedd ydy’r saith o wartheg tenau, gwael, a saith mlynedd ydy’r saith dywysen wag wedi’u crino gan wynt y dwyrain. Maen nhw’n cynrychioli saith mlynedd o newyn. 28Fel dw i newydd ddweud: mae Duw wedi dangos i’r Pharo beth mae ar fin ei wneud. 29Mae saith mlynedd yn dod pan fydd digonedd o fwyd yng ngwlad yr Aifft. 30Ond bydd saith mlynedd o newyn yn dilyn, a fydd dim arwydd yn y wlad fod cyfnod o ddigonedd wedi bod. Bydd y newyn yn difetha’r wlad. 31Fydd dim sôn am y blynyddoedd llewyrchus am fod y newyn mor ddifrifol. 32Cafodd y Pharo y freuddwyd ddwywaith am fod Duw am ddangos fod y peth yn siŵr o ddigwydd. Mae Duw yn mynd i wneud iddo ddigwydd ar unwaith. 33Felly dylai’r Pharo ddewis dyn galluog a doeth i reoli gwlad yr Aifft. 34Dylai benodi swyddogion ar hyd a lled y wlad, i gasglu un rhan o bump o gynnyrch y tir yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd. 35Dylen nhw gasglu’r cnydau yma o’r blynyddoedd da. A dylai’r Pharo roi awdurdod iddyn nhw storio’r grawn fel bod bwyd i’w gael yn y dinasoedd. A bydd rhaid cael milwyr i’w warchod. 36Dylai’r bwyd yma fod wrth gefn ar gyfer y saith mlynedd o newyn sy’n mynd i daro gwlad yr Aifft. Wedyn fydd y newyn ddim yn rhoi diwedd llwyr ar y wlad.”
37Roedd y cyngor roddodd Joseff yn gwneud sens i’r Pharo a’i swyddogion. 38A dwedodd y Pharo wrth ei swyddogion, “Ydyn ni’n mynd i ddod o hyd i unrhyw un tebyg i’r dyn yma? Mae Ysbryd Duw ynddo.” 39Felly dyma’r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Gan fod Duw wedi dangos hyn i gyd i ti, mae’n amlwg fod yna neb sy’n fwy galluog a doeth na ti. 40Dw i’n rhoi’r gwaith o reoli’r cwbl i ti. Bydd rhaid i’m pobl i gyd wneud fel rwyt ti’n dweud. Dim ond y ffaith mai fi ydy’r brenin fydd yn fy ngwneud i’n bwysicach na ti.” 41Yna dyma’r Pharo’n dweud wrth Joseff, “Dw i’n dy osod di yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.” 42Tynnodd ei sêl-fodrwy oddi ar ei fys a’i rhoi hi ar fys Joseff. Wedyn dyma fe’n arwisgo Joseff â gŵn o liain main drud a rhoi cadwyn aur am ei wddf. 43Gwnaeth iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai yn gweiddi o’i flaen, “I lawr ar eich gliniau!”41:43 cf. Fersiynau. Hebraeg yn ansicr.
Felly dyma’r Pharo yn ei wneud yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. 44Dwedodd y Pharo wrth Joseff, “Fi ydy’r Pharo. Ond fydd neb yng ngwlad yr Aifft yn cael symud bys bach heb dy ganiatâd di.” 45Rhoddodd y Pharo yr enw Saffnat-paneach41:45 ystyr yn ansicr. i Joseff, a rhoi Asnath,41:45 h.y. Yr un sy’n perthyn i’r dduwies Neith. merch Potiffera, offeiriad Heliopolis41:45 Hebraeg, On. yn wraig iddo. A dyma Joseff yn mynd allan i reoli gwlad yr Aifft.
46Tri deg oed oedd Joseff pan ddechreuodd weithio i’r Pharo, brenin yr Aifft. Aeth allan oddi wrth y Pharo, a theithio drwy wlad yr Aifft i gyd. 47Yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd, cafwyd cnydau gwych yn y wlad. 48Casglodd Joseff y grawn oedd dros ben yn yr Aifft yn ystod y blynyddoedd hynny, a’i storio yn y trefi. Ym mhob tref roedd yn storio cynnyrch yr ardal o’i chwmpas. 49Llwyddodd i storio swm aruthrol fawr o ŷd; roedd fel y tywod ar lan y môr. Roedd rhaid stopio ei bwyso i gyd am fod gormod ohono.
50Cyn i’r newyn ddechrau cafodd Joseff ac Asnath, merch Potiffera, ddau fab. 51Galwodd Joseff ei blentyn cyntaf yn Manasse41:51 h.y. gwneud i mi anghofio. – “Mae Duw wedi gwneud i mi anghofio fy holl drafferthion, a’m teulu,” meddai. 52Galwodd yr ail blentyn yn Effraim41:52 h.y. bod yn ffrwythlon. – “Mae Duw wedi fy ngwneud i’n ffrwythlon yn y wlad lle dw i wedi diodde,” meddai.
53Dyma’r saith mlynedd o ddigonedd yng ngwlad yr Aifft yn dod i ben. 54Yna dechreuodd saith mlynedd o newyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. Roedd newyn yn y gwledydd o gwmpas i gyd ond roedd bwyd i’w gael yn yr Aifft. 55Pan oedd y newyn wedi dod a tharo’r Aifft, dyma’r bobl yn galw ar y Pharo am fwyd. A dyma’r Pharo yn dweud, “Ewch i weld Joseff, a gwnewch beth bynnag mae e’n ddweud.” 56Roedd y newyn wedi lledu drwy’r tir, ac agorodd Joseff y stordai41:56 Felly Fersiynau. Hebraeg heb stordai. a dechrau gwerthu ŷd i bobl yr Aifft, am fod y newyn mor drwm yno. 57Roedd pobl o bob gwlad yn dod i’r Aifft at Joseff i brynu ŷd am fod y newyn yn drwm drwy’r byd i gyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015