No themes applied yet
Teulu Jacob yn mynd i’r Aifft
1Felly dyma Jacob yn cychwyn ar ei daith, a mynd â phopeth oedd ganddo gydag e. Daeth i Beersheba a chyflwyno aberthau yno i Dduw ei dad Isaac. 2Yn ystod y nos dyma Jacob46:2 Hebraeg, “Israel”. yn cael gweledigaeth. “Jacob, Jacob” meddai Duw wrtho. Ac atebodd Jacob, “Ie? dyma fi.” 3Ac meddai Duw, “Duw ydw i – Duw dy dad. Paid bod ag ofn mynd i lawr i’r Aifft. Bydda i’n dy wneud di’n genedl fawr yno. 4Dw i’n mynd gyda ti i’r Aifft, a bydda i’n dod â ti yn ôl eto. Bydd Joseff gyda ti pan fyddi di farw.”
5Yna aeth Jacob yn ei flaen o Beersheba. Rhoddodd meibion Jacob46:5 Hebraeg, “Israel”. eu tad, a’u gwragedd a’u plant yn y wagenni roedd y Pharo wedi’u hanfon iddyn nhw. 6A dyma nhw’n mynd â’u hanifeiliaid gyda nhw, a’r eiddo roedden nhw wedi’i gasglu pan oedden nhw’n byw yng ngwlad Canaan. Dyma Jacob a’i deulu i gyd yn cyrraedd gwlad yr Aifft: 7ei feibion a’i wyrion, ei ferched a’i wyresau. Aeth â nhw i gyd gydag e.
8Dyma enwau’r Israeliaid aeth i lawr i’r Aifft, sef Jacob a’i deulu:
Reuben (mab hynaf Jacob). 9Meibion Reuben: Chanoch, Palw, Hesron a Carmi.
10Meibion Simeon: Iemwel, Iamîn, Ohad, Iachîn, Sochar, a Saul (oedd yn fab i wraig o Canaan).
11Meibion Lefi: Gershon, Cohath a Merari.
12Meibion Jwda: Er, Onan, Shela, Perets a Serach (ond roedd Er ac Onan wedi marw yng ngwlad Canaan). Ac roedd gan Perets ddau fab: Hesron a Chamŵl.
13Meibion Issachar: Tola, Pwa, Job a Shimron.
14Meibion Sabulon: Sered, Elon a Iachleël.
15(Dyna’r meibion gafodd Lea i Jacob yn Padan-aram. Ac roedd wedi cael un ferch hefyd, sef Dina. Felly roedd 33 ohonyn nhw i gyd.)
16Meibion Gad: Siffion, Haggi, Shwni, Etsbon, Eri, Arodi ac Areli.
17Meibion Asher: Imna, Ishfa, Ishfi, Bereia, a’u chwaer Serach. Ac roedd gan Bereia ddau fab: Heber a Malciel.
18(Dyna’r meibion gafodd Silpa – y forwyn roddodd Laban i’w ferch Lea. Roedd 16 i gyd.)
19Meibion Rachel, gwraig Jacob, oedd Joseff a Benjamin. 20Cafodd Joseff ddau fab yn yr Aifft: Manasse ac Effraim (Asnath, merch Potiffera, offeiriad Heliopolis,46:20 Hebraeg, On. oedd eu mam). 21Yna meibion Benjamin: Bela, Becher, Ashbel, Gera, Naaman, Echi, Rosh, Mwpîm, Chwpîm ac Ard.
22(Dyna’r meibion gafodd Rachel. Felly roedd 14 yn ddisgynyddion i Rachel a Jacob.)
23Meibion Dan: y Chwshiaid.
24Meibion Nafftali: Iachtseël, Gwni, Ietser a Shilem.
25(Dyma’r meibion gafodd Bilha – y forwyn roddodd Laban i’w ferch Rachel. Roedd saith yn ddisgynyddion i Jacob a Bilha.)
26Felly roedd 66 o ddisgynyddion Jacob wedi mynd gydag e i’r Aifft. (Dydy’r rhif yna ddim yn cynnwys gwragedd ei feibion.) 27Gyda’r ddau fab gafodd eu geni i Joseff yn yr Aifft, roedd 70 o bobl o deulu Jacob yn yr Aifft.
Jacob a’i deulu yn yr Aifft
28Dyma Jacob yn anfon Jwda o’i flaen at Joseff i ddod â Joseff ato i Gosen. Wedyn dyma nhw’n cyrraedd ardal Gosen. 29Cafodd Joseff ei gerbyd yn barod, a mynd yno i gyfarfod ei dad. Pan ddaeth at ei dad, dyma fe’n ei gofleidio’n dynn, a bu’n crio ar ei ysgwydd am hir. 30“Dw i’n barod i farw bellach,” meddai Jacob wrth Joseff. “Dw i wedi cael gweld dy fod ti’n dal yn fyw.”
31Yna dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr a theulu ei dad, “Rhaid i mi ddweud wrth y Pharo eich bod chi wedi dod yma ata i o wlad Canaan. 32Bydd rhaid i mi ddweud eich bod chi’n fugeiliaid ac yn cadw anifeiliaid, a’ch bod chi wedi dod â’ch preiddiau a’ch anifeiliaid i gyd gyda chi. 33Os bydd y Pharo eisiau’ch gweld chi, ac yn gofyn ‘Beth ydy’ch gwaith chi?’ 34dwedwch wrtho, ‘Mae dy weision wedi bod yn cadw anifeiliaid ar hyd eu bywydau. Dyna mae’r teulu wedi’i wneud ers cenedlaethau.’ Dwedwch hyn er mwyn i chi gael symud i fyw i ardal Gosen. Mae bugeiliaid yn tabŵ i’r Eifftiaid.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015