No themes applied yet
O Adda i Noa
(1 Cronicl 1:1-4)
1Dyma hanes teulu Adda:
Pan greodd Duw bobl, gwnaeth nhw i fod yn ddelw ohono’i hun. 2Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw, bendithiodd nhw, a rhoi’r enw ‘dynoliaeth’ iddyn nhw.
3Pan oedd Adda yn 130 oed, cafodd fab a’i alw’n Seth. Roedd Seth yr un ffunud â’i dad. 4Buodd Adda fyw am 800 mlynedd ar ôl i Seth gael ei eni, a chafodd blant eraill. 5Felly roedd Adda yn 930 oed yn marw.
6Pan oedd Seth yn 105 oed cafodd ei fab Enosh ei eni. 7Buodd Seth fyw am 807 o flynyddoedd ar ôl i Enosh gael ei eni, a chafodd blant eraill. 8Felly roedd Seth yn 912 oed yn marw.
9Pan oedd Enosh yn 90 oed cafodd ei fab Cenan ei eni. 10Buodd Enosh fyw am 815 mlynedd ar ôl i Cenan gael ei eni, a chafodd blant eraill. 11Felly roedd Enosh yn 905 oed yn marw.
12Pan oedd Cenan yn 70 oed cafodd ei fab Mahalal-el ei eni. 13Buodd Cenan fyw am 840 mlynedd ar ôl i Mahalal-el gael ei eni, a chafodd blant eraill. 14Felly roedd Cenan yn 910 oed yn marw.
15Pan oedd Mahalal-el yn 65 oed cafodd ei fab Iered ei eni. 16Buodd Mahalal-el fyw am 830 mlynedd ar ôl i Iered gael ei eni, a chafodd blant eraill. 17Felly roedd Mahalal-el yn 895 oed yn marw.
18Pan oedd Iered yn 162 oed cafodd ei fab Enoch ei eni. 19Buodd Iered fyw am 800 mlynedd ar ôl i Enoch gael ei eni, a chafodd blant eraill. 20Felly roedd Iered yn 962 oed yn marw.
21Pan oedd Enoch yn 65 oed cafodd ei fab Methwsela ei eni. 22Roedd gan Enoch berthynas agos gyda Duw, a buodd fyw am 300 mlynedd ar ôl i Methwsela gael ei eni, a chafodd blant eraill. 23Felly dyma Enoch yn byw i fod yn 365 oed. 24Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw, ond yn sydyn doedd e ddim yna. Roedd Duw wedi’i gymryd i ffwrdd.
25Pan oedd Methwsela yn 187 oed cafodd ei fab Lamech ei eni. 26Buodd Methwsela fyw am 782 o flynyddoedd ar ôl i Lamech gael ei eni, a chafodd blant eraill. 27Felly roedd Methwsela yn 969 oed yn marw.
28Pan oedd Lamech yn 182 oed cafodd fab, 29a’i alw yn Noa.5:29 Mae’r enw Noa yn debyg i’r gair Hebraeg am ‘gorffwys’ neu ‘cysur’. Dwedodd, “Bydd hwn yn rhoi gorffwys i ni o’r gwaith caled o drin y tir mae’r ARGLWYDD wedi’i felltithio.” 30Buodd Lamech fyw am 595 mlynedd ar ôl i Noa gael ei eni, a chafodd blant eraill. 31Felly roedd Lamech yn 777 oed yn marw.
32Pan oedd Noa yn 500 mlwydd oed roedd ganddo dri mab – Shem, Cham a Jaffeth.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015